Toglo gwelededd dewislen symudol

Cymorth Costau Byw - costau ysgol

Mae cymorth ar gael ar gyfer popeth sydd ei angen ar eich plentyn ar gyfer yr ysgol.

Gwisg ysgol ac offer

Mae grant ar gael i helpu gyda chostau gwisg ysgol ac offer hanfodol eraill. Gallwch hefyd brynu gwisgoedd fel newydd am ffracsiwn o'r pris.

Prydau ysgol am ddim

Os ydych yn hawlio rhai budd-daliadau gallech arbed arian drwy hawlio prydau ysgol am ddim i'ch plentyn.

Clybiau brecwast

Mae gan fwyafrif yr ysgolion cynradd yn Abertawe glybiau brecwast AM DDIM sydd fel arfer yn rhedeg am tua hanner awr cyn dechrau'r diwrnod ysgol.

Cynhyrchion mislif am ddim

Mae cynhyrchion mislif am ddim ar gael mewn nifer o leoliadau o gwmpas Abertawe.

Llyfrgelloedd

Mae ein llyfrgelloedd yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau, gan gynnwys mynediad at lyfrau ac adnoddau am ddim yn ogystal â channoedd o wasanaethau'r cyngor ar-lein.

Wifi, cyfrifiaduron ac argraffu

Mae pob un o'n llyfrgelloedd yn cynnig mynediad at wifi, cyfrifiaduron a gwasanaethau argraffu i aelodau llyfrgell.

Clybiau gwaith cartref

Mae ein llyfrgelloedd yn cynnig clybiau gwaith cartref i blant a phobl ifanc i astudio mewn lle diogel a thawel. Bydd cynorthwywyr llyfrgell hefyd ar gael i helpu.

e-Lyfrau, e-Lyfrau Llafar, e-Gylchgronau ac e-Bapurau Newydd

Gall aelodau'r llyfrgell lawrlwytho e-Lyfrau, e-Lyfrau Llafar, e-Gylchgronau ac e-Bapurau Newydd am ddim.

Dysgu Teuluol a Sgiliau Hanfodol

Gwella eich fathemateg, Saesneg, sgiliau Technoleg Gwybodaeth a ragolygon gwaith.