Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynllunio a rheoli adeiladu

Chwilio am gais cynllunio

Gallwch chwilio am geisiadau cynllunio yn Ninas a Sir Abertawe ar y dudalen hon.

Ceisiadau cynllunio

Arweiniad ar y broses ceisiadau cynllunio, gan gynnwys cyngor ar yr hyn i'w wneud cyn cyflwyno cais cynllunio, sut i gyflwyno neu newid eich cais a rhoi sylwadau ar geisiadau eraill.

Rheoli adeiladau

Mae ein gwasanaeth yn sicrhau bod adeiladau'n ddiogel, yn iach, yn gynaliadwy ac yn hygyrch i'r holl ddefnyddwyr. Rydym yn cynnwys adeiladau domestig, masnachol a defnydd cyhoeddus ac yn sicrhau eu bod yn bodloni rheoliadau adeiladu.

Y porth cynllunio

Mae'r porth cynllunio yn offeryn defnyddiol ar gyfer cael rhagor o wybodaeth am y system gynllunio yng Nghymru a Lloegr.

Gorfodi cynllunio

Mae gorfodi cynllunio yn archwilio honiadau o dorri rheolaeth gynllunio â'r nod o'u datrys drwy ddefnyddio'r dulliau neu'r camau gweithredu mwyaf priodol.

Apeliadau cynllunio

Os ydych yn ceisio am ganiatâd i wneud gwaith i'ch eiddo ac nid yw'ch cais yn cael ei benderfynu o fewn cyfnod penodol, neu os ydych yn anghytuno â phenderfyniad eich cyngor lleol, mae gennych yr hawl i apelio.

Cynnal coed - arweiniad i berchnogion cartrefi a pherchnogion tir

Cyngor sylfaenol ac ymarferol ar yr ymholiadau mwyaf cyffredin a geir gan arddwyr, perchnogion cartrefi a pherchnogion tir yn ymwneud â choed a phlanhigion prennaidd tebyg.

Gorchmynion Cadw Coed (GCC)

Mae dros 560 o Orchmynion Cadw Coed (GCC) unigol o fewn ffiniau Dinas a Sir Abertawe ar gyfer coed unigol, grwpiau o goed, 'ardaloedd' a choetiroedd.

Gwrychoedd uchel

Ceisiwch ddatrys eich problem gwyrchoedd drwy siarad â'ch cymdogion cyn cysylltu â ni. Os na all yr anghydfod gael ei ddatrys, gallwn asesu'r achos a gweithredu fel trydydd parti annibynnol a diduedd.

Pridiannau tir lleol

Rydym yn cynnal chwiliadau tir lleol sy'n rhan o'r broses trawsgludo eiddo. Mae'n galluogi prynwyr eiddo arfaethedig a benthycwyr morgais i gael gwybodaeth sydd gennym am eiddo.

Systemau Draenio Cynaliadwy (SDCau)

Bydd angen draenio cynaliadwy ar bob datblygiad newydd sy'n cynnwys mwy nag un tŷ, neu sy'n cynnwys arwynebedd adeiladu o 100 o fetrau sgwâr neu fwy, i reoli dŵr arwyneb ar y safle.

Enwi a rhifo strydoedd

Rydym yn gyfrifol am enwi'r holl ffyrdd a strydoedd, ac am enwi a rhifo'r holl eiddo (preswyl, masnachol a diwydiannol) yn Ninas a Sir Abertawe.

Cofrestru tir comin

Rydym yn cadw'r cofrestrau ar gyfer tir comin a meysydd trefi neu bentrefi o fewn Dinas a Sir Abertawe ac mae gennym ddyletswydd statudol i gynnal y cofrestrau hyn.

Cynllunio strategol

Gallwch lawrlwytho'r CDLl a fabwysiadwyd ar gyfer Abertawe a chanllawiau cynllunio atodol er mwyn derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf am faterion Cynllunio Strategol yn Abertawe.

Cynllunio, bioamrywiaeth a chadwraeth natur

Sut mae ein canllawiau a'n polisïau cynllunio yn helpu gyda bioamrywiaeth a chadwraeth natur.
Close Dewis iaith