Ffeithiau Allweddol
Abertawe mewn ffigurau.
- Abertawe yw'r ail ddinas fwyaf yng Nghymru a'r ganolfan ranbarthol ar gyfer de-orllewin Cymru.
- Arwynebedd tir: 379.7 cilomedr sgwâr - tua 69.5% yn wledig a 30.5% yn ddinesig. 1
- Poblogaeth: 237,800 (Mehefin 2021) - yr ail awdurdod unedol mwyaf yng Nghymru - gyda dwysedd poblogaeth o 630 person y km sgwâr. (Cymru: 150). 2
- Newid poblogaeth: Nododd Cyfrifiad 2021 fod poblogaeth breswyl arferol Abertawe tua 500 neu 0.2 y cant yn llai na chyfanswm Cyfrifiad 2011. 3
- Genedigaethau a Marwolaethau: Ganed 2,067 o fabanod yn Abertawe yn 2021, a chofrestrwyd 2,747 o farwolaethau yn y flwyddyn honno. 4
- Disgwyliad oesadeg genedigaeth yn Abertawe bellach yw 77.5 o flynyddoedd i wrywod (Cymru 78.3) a 81.8 i fenywod (Cymru 82.1); ac mae disgwyliad oes iach yn 61.9 o flynyddoedd i wrywod a 60.5 mlynedd i fenywod. 5
- Tai: Mae Abertawe'n cynnwys tua 115,200 o anheddau y codir tâl am dreth y cyngor arnynt ac sydd wedi'u heithrio rhag talu treth y cyngor (2023-24), gyda 26,900 ohonynt ym Mand B (tua 25% o'r holl anheddau y codir tâl arnynt). 6
- Aelwydydd: Mae 105,00 o aelwydydd ag o leiaf un preswylydd arferol yn Abertawe (Cyfrifiad 2021), sy'n cynyddu 1,500 (+1.4%) ers y Cyfrifiad blaenorol yn 2011. O ran deiliadaeth, mae 62.3% (65,400) o aelwydydd yn berchen ar eu llety, gydag 19.1% mewn tai rhentu cymdeithasol ac 18.0% mewn tai rhentu preifat. 7
- Mae Cyngor Abertawe yn cynnwys 32 o wardiau etholiadol, a gynrychiolir gan 75 o gynghorwyr. 8
- Ysgolion: Mae 93 o ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol yn Abertawe (Chwefror 2022) gan gynnwys 77 o ysgolion cynradd ac 14 o ysgolion uwchradd. Mae 12 o ysgolion Cymraeg i'w cael. 9
- Disgyblion: Mae ysgolion Abertawe'n cynnwys 35,902 o ddisgyblion (pob oed), gyda 28,786 rhwng 5 a 15 oed (Chwefror 2022). 9
- Addysg Uwch a Phellach: Mae Abertawe'n gartref i ganolfannau campws ar gyfer Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, a Choleg Gŵyr Abertawe sydd, at ei gilydd yn cefnogi dros 29,000 o fyfyrwyr amser llawn. 10
- Cymwysterau: Mae gan 67.6% o breswylwyr Abertawe sydd rhwng 16 a 64 oed gymwysterau hyd at lefelau 3 a 4 FCR (2022) - 64.1% yng Nghymru. 11
- Y Gymraeg: Yn 2011, roedd 11.2% o bobl yn Abertawe a oedd yn dair oed neu'n hŷn yn gallu siarad Cymraeg. 12
- Ethnigrwydd: Roedd gan Abertawe boblogaeth lleiafrif ethnig (nad ydynt yn wyn) o oddeutu 20,400 yn 2021 - 8.6% o'r holl boblogaeth.12
- Gwlad enedigol: Yn 2021, ganed 75% o boblogaeth Abertawe yng Nghymru, gydag 22,500 (9.4%) o breswylwyr wedi'u geni y tu allan i'r DU. 12
- Allbwn economaidd: Gwerth Ychwanegol Crynswth y pen yn Abertawe yw £23,591 (2021); 5.4% yn uwch na lefel Cymru ond 21.9% yn is na chyfartaledd y DU. 13
- Gweithgarwch economaidd: Mae 79.8% o breswylwyr oedran gweithio (16-64) Abertawe yn economaidd weithgar, gyda 118,800 yn gweithio (75.9% o'r rhai oedran gweithio) (blwyddyn yn diweddu Mawrth 2023). 14
- Cyflogaeth: Mae 108,000 o bobl yn gweithio yn Abertawe, yn y sectorau gwasanaethau'n bennaf (89.8%), gyda 29.6% (31,900) wedi'u cyflogi yn y sector cyhoeddus (2021). Amcangyfrifir bod 27,000 o bobl yn cymudo i Abertawe bob dydd (2022).15
- Busnesau: Roedd 7,735 o fusnesau gweithredol yn Abertawe yn 2021, ac yn ystod y flwyddyn, cofnodwyd 990 o fusnesau newydd ac 1,025 o fusnesau a oedd wedi dod i ben. 16
- Enillion: Mae enillion (canolrif) cyfartalog i weithwyr amser llawn yn Abertawe yn £593.10 yr wythnos a £30,262 y flwyddyn (Ebrill 2022). 17
- Diweithdra: Mae 4,800 o bobl yn Abertawe (3.8% o'r boblogaeth 16+ oed sy'n anweithgar yn economaidd) yn ddi-waith (daeth cyfnod yr arolwg i ben ym mis Mawrth 2023). Nifer yr hawlwyr at ddibenion gweinyddol (Awst 2023) oedd 5,155 (3.5% o breswylwyr oedran gweithio). 18
- Amddifadedd: Mae Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2019 yn nodi bod 11.5% o ardaloedd lleol Abertawe ymysg y 10% mwyaf difreintiedig yng Nghymru. 19
- Trafnidiaeth: Mae Abertawe'n cynnwys 1,128.2 cilometr (km) o ffyrdd (2021-2022), y mae 15.3km ohonynt yn draffordd a 102.3km yn ffyrdd 'A'. Mae 164,600 o gerbydau trwyddedig yn Abertawe (Mehefin 2022), gan gynnwys 127,500 o geir. 20
- Amaethyddiaeth: Mae 20,900 hectar o dir yn cael ei ffermio yn y sir, gydag oddeutu 380 o ffermydd sy'n economaidd weithredol (Mehefin 2020). 21
- Cadwraeth Drefol: Ar hyn o bryd yn Abertawe mae 31 o Ardaloedd Cadwraeth, 122 o Henebion a thros 500 o Adeiladau Rhestredig. 22
- Gwastraff ac Ailgylchu: Casglwyd neu gynhyrchwyd 113,200 tunnell o wastraff yn Abertawe yn 2021-22, y cafodd 73,600 o dunelli (65.1%) eu hailddefnyddio, ei hailgylchu neu eu compostio (cyfartaledd Cymru - 65.2%). 23
- Prisiau Tai: Ym mis Chwefror 2023, y pris gwerthu tŷ cyfartalog yn Abertawe oedd £189,418 - y cyfartaledd ar gyfer Cymru yw £215,343. 24
- Twristiaeth: Yn ôl amcangyfrifon, roedd 4.2 miliwn o bobl wedi ymweld â Bae Abertawe yn 2022, gan wario £510 miliwn. 25
Ffynonellau a dolenni:
- Dosbarthiad Trefol Gwledig (2011) o Ardaloedd Cynnyrch yng Nghymru a Lloegr, Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG). Mae mwy o wybodaeth ar gael yn www.abertawe.gov.uk/daearyddiaeth
- 2021 amcangyfrif canol blwyddyn, SYG. Mae mwy o ystadegau, gan gynnwys poblogaeth yn ôl oed, ar gael yn www.abertawe.gov.uk/poblogaeth
- Cyfrifiad 2021, SYG. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn www.abertawe.gov.uk/Cyfrifiad2021_canlyniadau
- Tablau cryno cofrestriadau genedigaethau a marwolaethau 2021, SYG.
- Ystadegau Disgwyliad Oes Cyflwr Iechyd, 2018-20, SYG.
- Anheddau treth y cyngor: Mawrth 2023 - Ebrill 2024, Ystadegau LlC.
- Cyfrifiad 2021, SYG.
- Mae mwy o wybodaeth ac ystadegau am wardiau Abertawe ar gael yn www.abertawe.gov.uk/proffiliauwardiau
- Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (PLASC), Chwefror 2022. Ystadegau LlC (cyhoeddwyd Awst 2022).
- Ystadegau Addysg Uwch ac Addysg Bellach 2021-22, Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (AYAU) a LlC (cyhoeddwyd mis Ionawr-Chwefror 2023).
- Amcangyfrifon Arolwg Poblogaeth Blynyddol (APS) 2022, SYG. Ceir mwy o wybodaeth ym Mhroffil Economaidd Abertawe sydd ar gael yn www.abertawe.gov.uk/proffileconomaidd
- Cyfrifiad 2021, SYG. Mae ystadegau cyfrifiadau ar gael yn www.abertawe.gov.uk/cyfrifiad
- Ystadegau GYC (Gwerth Ychwanegol Crynswth) Rhanbarthol 2021, SYG.
- Amcangyfrifon APB ar gyfer y cyfnod sy'n dod i ben ym mis Mawrth 2023, SYG.
- a) Amcangyfrifon gweithle'r Gofrestr Busnesau ac Arolwg Cyflogaeth (BRES) 2021, SYG. b) Tablau Cymudo a gyhoeddwyd gan LlC gan ddefnyddio amcangyfrifon APB (2022).
- Ystadegau Demograffeg Busnesau 2021, SYG.
- Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE), Ebrill 2022, SYG.
- Ystadegau'r Farchnad Lafur, SYG. Sylwer: mae mwy o wybodaeth am eitemau 14 i 19 ar gael yn www.abertawe.gov.uk/proffileconomaidd
- Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2019, LlC. Mae mwy o wybodaeth a data lleol ar gael yn www.abertawe.gov.uk/mallc2019
- a) Hydoedd a Chyflwr Ffyrdd 2021-22, LlC. b) Ystadegau Trwyddedu Cerbydau 2022 (Tabl VEH0105), yr Adran Drafnidiaeth.
- Arolwg Amaethyddol Blynyddol Cymru 2020, LlC.
- Mae mwy o wybodaeth am adeiladau rhestredig unigol, henebion ac ardaloedd cadwraeth yn Abertawe ar gael drwy www.abertawe.gov.uk/CreuLleoeddaThreftadaeth.
- WasteDataFlow ac Ystadegau Rheoli Gwastraff Dinesig Awdurdodau Lleol 2021-22, LlC.
- Mynegai Prisiau Tai'r Gofrestrfa Tir, Chwefror 2023, SYG. Ceir mwy o wybodaeth am brisiau a gwerthiannau tai yn www.abertawe.gov.uk/proffileconomaidd
- Crynodeb o ymchwil STEAM 2022 (Scarborough Tourism Economic Activity Model). Mae mwy o wybodaeth ar gael yn Ymchwil i dwristiaeth ac ystadegau amdano
Os nad ydych yn gallu dod o hyd i'r hyn rydych yn chwilio amdano, cysylltwch â ni a byddwn yn gwneud ein gorau glas i ddarparu cyngor neu eich cyfeirio at ffynonellau gwybodaeth posib.