Fforwm Mynediad Lleol Abertawe a phenrhyn Gŵyr
Diben y fforwm mynediad lleol yw rhoi llwyfan i gynghori a thrafod gwella a rheoli mynediad cyhoeddus i gefn gwlad yn yr ardal.
Mae'r fforwm yn y broses o ailffurfio ar hyn o bryd ac mae'n agored i aelodau newydd. Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn mynediad i gefn gwlad ac yr hoffai wneud cais i ddod yn aelod o'r fforwm gysylltu â Chris Dale: chris.dale@abertawe.gov.uk / Mynediad i Gefn Gwlad, Canolfan Ddinesig, Abertawe SA1 3SN

Mae Abertawe a phenrhyn Gŵyr yn cynnig rhai o'r tirweddau arfordirol a chefn gwlad gorau yng Nghymru ac rydym am sicrhau ein bod yn darparu'r mynediad gorau i'n preswylwyr a'n hymwelwyr.
Mae'r fforwm yn lle ar gyfer trafodaethau a dadleuon ynghylch mynediad i hamdden o bob math gan gynnwys cerdded, marchogaeth a beicio.
Bydd canlyniadau'r fforymau yn ein hysbysu ni a sefydliadau eraill fel Cyfoeth Naturiol Cymru ar sut y gallwn wella mynediad cyhoeddus i gefn gwlad at ddibenion hamdden awyr agored a mwynhad o'r ardal.
Oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan?
Dewisir aelodau oherwydd eu gallu, trwy wybodaeth a phrofiad, i gynrychioli lles o leiaf un grŵp o ddefnyddwyr mynediad, rheolwyr a pherchnogion tir neu faterion eraill sy'n berthnasol i fynediad fel cadwraeth neu dwristiaeth. Mae aelodau'n cynrychioli eu hunain yn hytrach nag unrhyw sefydliad penodol.
Mae croeso i aelodau'r cyhoedd arsylwi ym mhob un o gyfarfodydd y fforwm.
Os oes gennych unrhyw faterion i'w hystyried neu os hoffech ddod yn aelod cysylltwch â ni.
Cysylltwch â'r Tîm Mynediad i Gefn Gwlad Mynyediad Cefn Gwlad
Mae Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol ddarparu fforwm mynediad lleol a phob ychydig flynyddoedd mae'n ofynnol i ni ddileu'r fforwm presennol a sefydlu un newydd. Gall aelodau presennol gyflwyno cais arall.