Toglo gwelededd dewislen symudol

Casglu sachau du

Mae sachau du ar gyfer gwastraff cartref na ellir ei ailgylchu yn unig.

Black bag - keep recycling out.

Mae'n ofyniad cyfreithiol i aelwydydd yn Abertawe ailgylchu. Gall methu ag ailgylchu arwain at Hysbysiad o Gosb Benodol.

I sicrhau y cesglir eich sachau:

  • caniateir i bob cartref roi hyd at 3 sach ddu allan bob pythefnos
  • rhowch eich sachau allan i'w casglu rhwng 7.00pm y noson cyn eich diwrnod casglu a 6.00am ar fore'ch diwrnod casglu
  • defnyddiwch ein teclyn chwilio am gasgliadau ailgylchu a sbwriel i gael gwybod ar ba ddiwrnod rydym yn casglu'ch sachau
  • lapiwch wrthrychau miniog, e.e. gwydr sydd wedi torri
  • sicrhewch nad yw'ch sach sbwriel yn rhy drwm (dan 15kg)
  • defnyddiwch sachau du nad ydynt yn fwy na 80 litr

Dim ailgylchu fan hyn

Dylid ailgylchu'r eitemau canlynol ac NI ddylid eu rhoi yn eich sach ddu.

• papur a cherdyn; cardbord; caniau a thuniau; poteli a jariau gwydr
• gwastraff bwyd
• poteli a chloriau plastig; potiau, tybiau a hambyrddau plastig
• gwastraff gardd

Gwybodaeth am ailgylchu:

• beth gellir ei ailgylchu a pha fagiau/sachau y mae angen i chi eu defnyddio
• diwrnodau casglu ailgylchu
• ble gallwch gael bagiau/sachau a chyfarpar ailgylchu
beth gellir ei ailgylchu mewn canolfannau ailgylchu
lleoliadau ailgylchu eraill

Eithriadau

Gellir ailgylchu'r rhan fwyaf o wastraff cartref. Trwy ddefnyddio'n gwasanaethau ailgylchu ymyl y palmant, ni fydd gennych lawer o wastraff sachau du. Ni ellir ailgylchu'ch holl wastraff cartref, a dyma pam y caiff cartrefi penodol sy'n cynhyrchu symiau mawr wneud cais am eithriad i'r cyfyngiad.

Gwneud cais am eithriad i'r terfyn sachau du Gwneud cais am eithriad i'r terfyn sachau du

Gwneud cais am eithriad i'r terfyn sachau du

Os ydych yn ailgylchu'r holl ddeunyddiau ymyl y ffordd a dderbynnir ac yn dal i lenwi mwy na thair sach ddu o wastraff na ellir ei ailgylchu, gallwch wneud cais am eithriad i osod sachau ychwanegol y tu allan.