Cronfa Plant a Phobl Ifanc 2025 / 2026
Rydym yn gwahodd ceisiadau gan ddarparwyr gofal plant cofrestredig newydd a phresennol sydd wedi ystyried eu sefyllfa ariannol ac y mae angen cymorth arnynt i barhau i ddarparu gofal plant o safon uchel mewn modd cynaliadwy.
Gwybodaeth am y gronfa
Mae Cronfa Plant a Phobl Ifanc 2025 / 2026 yn gronfa sefydledig sy'n ceisio creu, cefnogi a chynnal gofal plant yn Abertawe. Mae ar agor drwy gydol y flwyddyn i ddarparwyr cofrestredig.
Argaeledd y gronfa
£5,000 yw'r uchafswm y gellir cyflwyno cais unigol amdano (£2,000 ar gyfer gwarchodwr plant). Dan amgylchiadau eithriadol yn unig y dyfernir symiau mwy mewn unrhyw flwyddyn ariannol. Rhaid i'r holl gyllid a ddyfernir gael ei wario erbyn 31 Mawrth 2026. Mae swm cyfyngedig o gyllid ar gael. Ni fydd ceisiadau'n cael eu gwarantu a byddant yn cael eu blaenoriaethu yn unol â meini prawf Cronfa Plant a Phobl Ifanc 2025 / 2026 - amodau'r grant.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y broses ymgeisio drwy e-bostio fis@abertawe.gov.uk. Mae staff hefyd ar gael dros y ffôn: Tîm Cefnogi Gwasanaethau