
Budd-dal Tai
Ni allwn dderbyn unrhyw hawliadau newydd am Fudd-dal Tai gan y rhan fwyaf o bobl oedran gweithio.
Fodd bynnag, gellir gwneud cais newydd am Fudd-dal Tai ar hyn o bryd:
- Rydych yn byw mewn llety dros dro neu fathau penodol o lety â chymorth,
- Ydych chi'n bensiynwr sengl neu'n rhan o bâr o bensiynwyr lle mae'r ddau ohonoch o oedran cymwys i dderbyn Credyd Pensiwn?
- Yn bâr oedran cymysg* sydd wedi derbyn taliadau Credyd Pensiwn yn barhaus ers 14/05/2019 neu'n gynharach
- Yn bâr oedran cymysg* sydd wedi derbyn taliadau Credyd Pensiwn neu Fudd-dal Tai yn barhaus ers 14/05/2019 neu'n gynharach os rydych wedi newid eich cyfeiriad
*Pâr oedran cymysg yw pâr lle mae un ohonoch o oedran cymwys i dderbyn Credyd Pensiwn y wladwriaeth ac mae un ohonoch o oedran gweithio
Gellir cysylltu â'r Is-adran Budd-daliadau drwy ffonio 01792 635353 rhwng 10am a 3pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Fel arall gallwch e-bostio budd-daliadau@abertawe.gov.uk