Cyngor i fusnesau am y coronafeirws
Wrth i'r sefyllfa gyda'r coronafeirws ddatblygu, rydym am sicrhau bod gan ein busnesau lleol yr wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth presennol i fusnesau.
- Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2022/2023
- At sylw busnesau: cyngor ar brofion i'ch gweithwyr
- Cymorth busnes cyffredinol
- Arweiniad i fusnesau lletygarwch
- Cynllun Benthyciadau Adferiad Llywodraeth y DU
- Cymorth CThEM ar gyfer TAW a Thalu Wrth Ennill
- Cyfrif Dysgu Personol (CDP)
- Busnesau lleol sy'n cynnig danfoniadau a chludfwyd
- Arweiniad i yrwyr gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
Cymorth busnes cyffredinol
Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi'n busnesau lleol i helpu i leihau effaith Covid-19 a byddwn yn diweddaru'r dudalen hon.
Mae'r cyhoeddiadau diweddaraf ar gymorth busnes ar gael gan:
- I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru ar gyfer busnesau bach yn ystod pandemig Coronafeirws, ewch i: https://businesswales.gov.wales/cy/cyngor-coronafeirws. Neu gallwch ffonio llinell gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000.
- I gael y newyddion diweddaraf gan Lywodraeth y DU am y cymorth sydd ar gael i fusnesau, ewch i: https://www.gov.uk/government/publications/guidance-to-employers-and-businesses-about-covid-19/covid-19-support-for-businesses.
- Mae gan Lywodraeth y DU offeryn 'dod o hyd i gefnogaeth', sef holiadur syml ar-lein. Bydd hyn yn helpu busnesau a phobl hunangyflogedig ar draws y DU i ddod o hyd i restr o gymorth ariannol sydd ar gael yn ystod pandemig COVID-19 yn hawdd - www.gov.uk/business-coronavirus-support-finder
- Cyflymu Cymru i Fusnesau - businesswales.gov.wales/superfastbusinesswales/cy/digwyddiadau.
- Cyngor i fusnesau
Arweiniad i fusnesau lletygarwch
- Rheoliadau: https://llyw.cymru/deddfwriaeth-coronafeirws-cyfyngiadau-ar-unigolion-busnesau-ac-eraill
- Canllawiau ar gyfer busnesau twristiaeth a lletygarwch Llywodraeth Cymru: coronafeirws: https://llyw.cymru/canllawiau-ar-gyfer-busnesau-twristiaeth-a-lletygarwch-coronafeirws
- Arweiniad UKH ar gyfer Lletygarwch yng Nghymru: https://www.ukhospitality.org.uk/page/WalesGuidance
- Rheoliadau Coronafeirws Llywodraeth Cymru: cwestiynau cyffredin: https://llyw.cymru/rheoliadau-coronafeirws-canllawiau
Cynllun Benthyciadau Adferiad Llywodraeth y DU
Mae Llywodraeth y DU wedi lansio Cynllun Benthyciadau Adferiad (CBA) newydd i ddarparu cymorth ariannol pellach i fusnesau wrth iddynt adfer a thyfu yn dilyn y pandemig Coronafeirws.
Gallwch wneud cais i'r cynllun os yw COVID-19 wedi effeithio ar eich busnes. Gallwch ddefnyddio'r cyllid at unrhyw ddibenion busnes cyfreithlon - gan gynnwys rheoli llif arian, buddsoddi a thwf. Fodd bynnag, mae'n rhaid i chi allu fforddio cael cyllid ychwanegol i ariannu dyledion at y dibenion hyn.
Os yw'ch busnes eisoes wedi benthyca gan unrhyw un o'r cynlluniau Coronafeirws eraill, sef:
- Cynllun Benthyciadau Adfer,
- Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnesau yn sgîl y Coronafeirws,
- Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnesau Mawr yn sgîl y Coronafeirws,
mae'r CBA ar agor i chi o hyd, er y gall y swm rydych wedi ei fenthyca dan gynllun presennol gyfyngu ar y swm y gallwch ei fenthyca dan y CBA.
Yn ystod Cyllideb yr Hydref 2021, cyhoeddodd y llywodraeth y byddai'r Cynllun Benthyciadau Adfer yn cael ei estyn 6 mis hyd at 30 Mehefin 2022, gyda'r newidiadau canlynol yn berthnasol o 1 Ionawr 2022:
- bydd y cynllun ar agor i fusnesau a chanddynt drosiant nad yw'n fwy na £45 miliwn y flwyddyn yn unig.
- uchafswm y cyllid sydd ar gael yw £2 filiwn fesul busnes (mae uchafswm y swm fesul grŵp yn gyfyngedig i £6 miliwn).
- caiff y cwmpas gwarant y mae'r llywodraeth yn ei roi i fenthycwyr ei ostwng i 70%.
Am ragor o wybodaeth ewch i www.british-business-bank.co.uk/ourpartners/recovery-loan-scheme/.
Cymorth CThEM ar gyfer TAW a Thalu Wrth Ennill
Cynllun Ad-dalu Dyledion CThEM ar gyfer trethi heb eu talu - https://www.gov.uk/anawsterau-talu-cthem
Llinellau cymorth CThEM
Mae CThEM hefyd wedi creu llinell gymorth yn arbennig ar gyfer pobl hunangyflogedig a busnesau a fydd yn ei chael hi'n anodd oherwydd COVID-19, sy'n cynnwys rhoi cyngor ar dreth a'r budd-daliadau y gallwch wneud cais amdanynt. Rhif y llinell gymorth yw 0300 456 3565.
Os ydych yn rhedeg busnes neu'n hunangyflogedig ac rydych yn pryderu ynghylch talu'ch treth oherwydd Coronafeirws, gallwch ffonio llinell gymorth CThEM am gymorth a chyngor: 0800 024 1222.
Cyfrif Dysgu Personol (CDP)
Lansiwyd y rhaglen hon ym mis Medi 2019 gan Lywodraeth Cymru a'i nod yw helpu busnesau ar draws y sectorau â blaenoriaeth i recriwtio talent newydd a goresgyn prinderau sgiliau presennol ac yn y dyfodol. Bydd y rhaglen hon hefyd yn ymateb i ofynion gwella sgiliau cyflogwyr. Bydd yn cefnogi gweithwyr i baratoi ar gyfer anghenion sgiliau a chymwysterau yn y dyfodol, i helpu busnesau yn ystod y cyfnod hwn o ansicrwydd economaidd.
Efallai fod eich gofynion sgiliau wedi newid o ganlyniad i COVID-19, er enghraifft:
- efallai fod angen i chi nawr newid y ffordd rydych chi'n marchnata'ch busnes
- efallai y bydd angen sgiliau digidol newydd ar eich gweithwyr fel eu bod yn addas ar gyfer marchnadoedd newydd
Efallai y gall y rhaglen CDP eich helpu drwy:
- gefnogi datblygiad sgiliau eich gweithwyr drwy gyrsiau hyfforddiant hyblyg
- galluogi gweithwyr i ennill cymwysterau i lenwi'r bylchau yn eich sgiliau presennol
- eich helpu i fynd i'r afael â heriau a thyfu'r busnes
I holi am gael mynediad at y cyllid hwn, ffoniwch Coleg Gŵyr ar 01792 284400 neu e-bostiwch training@gcs.ac.uk
Ydych chi'n fusnes lleol sy'n cynnig danfoniadau i'r cartref, casgliadau neu gludfwyd?
Rydym wedi llunio rhestr o rai busnesau lleol sy'n cyflenwi bwyd ac eitemau hanfodol eraill trwy eu dosbarthu neu i'w casglu yn ystod pandemig Coronafeirws: Dosbarthiadau a chludfwyd - cyflenwyr bwyd ac eitemau hanfodol yn Abertawe
Os ydych yn fusnes lleol sy'n cynnig danfoniadau i'r cartref neu gasgliadau bwyd ac eitemau hanfodol eraill yn Abertawe, rhowch wybod i ni fel y gallwn eich ychwanegu at y rhestr: Cyflwynwch wybodaeth am ba fwydydd/hanfodion y gallwch chi eu darparu
Arweiniad i yrwyr gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
Gyda chynnydd mewn danfoniadau wrth i ragor o bobl archebu eitemau ar-lein, mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn ceisio sicrhau y gofelir am les y gyrrwr.
Mae'n bwysig bod gan y gyrwyr fynediad at gyfleusterau lles yn yr adeiladau y maent yn ymweld â nhw fel rhan o'u gwaith. Dylai'r rhai hynny sydd eisoes yn darparu mynediad rhesymol i doiledau a chyfleusterau golchi dwylo barhau i wneud hynny.Mae atal mynediad yn erbyn y gyfraith.