Toglo gwelededd dewislen symudol

Datganiad o gyfrifon

Y Gyfriflen yw'r Crynodeb statudol o faterion ariannol y Cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol a chaiff ei pharatoi'n unol â Chôd Ymarfer Cyfrifeg yr awdurdod lleol (ACOP).

Datganiad Cyfrifon 2021/22 - Cyngor Abertawe

Mae Rheoliad 10(1) yn Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (fel y'u diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol bod Swyddog Cyllid Cyfrifol Cyngor Abertawe yn llofnodi'r datganiad cyfrifon ac yn rhoi dyddiad arno, ac yn ardystio'i fod yn cyfleu darlun gwir a theg o sefyllfa ariannol y corff ar ddiwedd y flwyddyn ariannol y mae'n ymwneud â hi ac o incwm a gwariant y corff hwnnw am y flwyddyn honno.  Yn ôl y Rheoliadau roedd yn ofynnol cwblhau hyn erbyn 31 Mai 2022.

Nid yw'r Swyddog Cyllid Cyfrifol wedi llofnodi ac ardystio'r cyfrifon am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2022, o ganlyniad i'r achos parhaus pandemig COVID-19.  Bydd y datganiad cyfrifon yn cael ei baratoi, a bydd y Swyddog Cyllid Cyfrifol yn llofnodi ac yn ardystio'r datganiad cyfrifon, pan fydd pwysau uniongyrchol yr achos o COVID-19 wedi cilio.

Diben y Gyfriflen yw darparu gwybodaeth glir am gyllid gyffredinol y cyngor ar gyfer etholwyr, trethdalwyr lleol, aelodau'r cyngor ac unrhyw bartïon eraill â diddordeb, a dangos sut mae cyngor y ddinas wedi defnyddio arian cyhoeddus yn ystod y flwyddyn.

Mae'r Gyfriflen ar gyfer sawl blwyddyn ar gael isod.

Oherwydd natur dechnegol y dogfennau hyn, nid ydynt ar gael yn Gymraeg.

Close Dewis iaith