Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynllun Corfforaethol 2023 / 2028

Cyflwyno Abertawe Lwyddiannus a Chynaliadwy.

Rhagair

1. Cyflwyniad - adolygiad o'r Cynllun Corfforaethol a'r Amcanion Lles

2. Crynodeb o'r Datganiad Lles

3. Ein hamcanion lles

4. Monitro cyflawniad - monitro perfformiad yn barhaol

5. Camau nesaf - yr hyn ydym yn bwriadu ei wneud nesaf

6. Ble i gael mwy o wybodaeth

 

 

Rhagair

Mae nifer o heriau mawr yn wynebu'r byd, y DU, Cymru ac Abertawe. Mae nifer o'r heriau hyn yn cael effaith fawr ac yn ei gwneud yn ofynnol i ni weithio mewn ffordd wahanol i'r ffordd yr ydym wedi gweithio o'r blaen; ac yn enwedig effaith pandemig COVID-19 sydd, ynghyd â ffactorau byd-eang eraill wedi cyfrannu at argyfwng costau byw gyda phrisiau cynyddol a chostau ynni cynyddol.

Ers mis Mawrth 2020, ffocws y cyngor oedd diogelu bywyd, lleihau ymlediad y feirws a chefnogi'n holl gymunedau. Dangosodd staff y cyngor a phartneriaid eu parodrwydd, eu hyblygrwydd, eu hymrwymiad a'u hymroddiad i ddarparu gwasanaethau rheng flaen i gymunedau'r ddinas, gwirfoddoli i gefnogi meysydd blaenoriaeth a hefyd addasu i ffydd newydd o weithio. Mae'r ymateb byd-eang a gafwyd i'r pandemig a'r rhyfel yn Ewrop wedi effeithio ar gadwyni cyflenwi ac wedi tarfu ar gyflenwad a chost ynni, ac mae chwyddiant cynyddol wedi gwaethygu'r sefyllfa, sy'n cael effaith ddifrifol ar gostau byw. Nid yw'r cyngor yn ddiogel rhag y costau cynyddol hyn, ac mae galw cynyddol am ei wasanaethau'n gwaethygu'r sefyllfa. Dros y pum mlynedd nesaf, bydd angen i'r cyngor newid ei ffordd o weithio mewn sawl maes busnes i sicrhau ein bod yn gynaliadwy ar hyn o bryd yn ogystal ag yn y dyfodol. Cynllun hollgynhwysol y cyngor yw'r Cynllun Corfforaethol, sy'n darparu'r fframwaith strategol ar gyfer y gwaith trawsnewid sydd ei angen i wireddu gweledigaeth y cyngor drwy sicrhau ei fod yn gallu ymateb i heriau'r presennol a'r dyfodol.

Mae'r heriau hyn yn cynnwys newid yn yr hinsawdd, sef un o'r peryglon a'r heriau mwyaf sydd yn ein hwynebu ni i gyd, ac mae angen i ni feddwl am sut gallwn addasu, lleihau ein hallyriadau carbon a thŷ gwydr a lleihau ein perygl o ddioddef llifogydd ac effeithiau sylweddol eraill. Mae hyn hefyd yn ymwneud â gwneud gwell defnydd o'n tir a'n hadnoddau naturiol wrth geisio gwarchod natur, ein hamgylchedd naturiol a gwella bioamrywiaeth.

These challenges include climate change, which is one of the greatest dangers and challenges facing us all and we need to think how we can adapt, reduce our carbon and greenhouse emissions and reduce our risk to flooding and other significant impacts. This also involves making better use of our land and natural resources whilst seeking to protect nature, our natural environment and improve biodiversity.

I fynd i'r afael â'r heriau hyn, mae angen i ni weithio gyda'n gilydd. I roi ansawdd bywyd da i breswylwyr presennol a chenedlaethau'r dyfodol, mae angen i ni feddwl beth fydd effaith tymor hir ein penderfyniadau. Mae'n rhaid i ni wneud pethau'n wahanol er mwyn newid pethau. Os ydym yn mynd i drechu'r heriau hyn, mae angen i ni feddwl mwy am y tymor hir, gweithio'n well gyda phobl a chymunedau a'n gilydd, ceisio atal problemau a defnyddio ymagwedd fwy cydlynol. Bydd hyn yn ein helpu i greu Abertawe a Chymru rydym oll am fyw ynddi, nawr ac yn y dyfodol.

Y Cynghorydd Rob Stewart
Arweinydd y Cyngor

Martin Nicholls
Prif Weithredwr


1. Cyflwyniad - Adolygiad o'r Cynllun Corfforaethol a'r Amcanion Lles

Mae'r Cynllun Corfforaethol hwn yn cynnwys crynodeb o ddatganiad lles a blaenoriaethau allweddol y cyngor, a elwir yn 'Amcanion Lles', sy'n ofyniad Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae'r Cynllun Corfforaethol a'r Amcanion Lles wedi'u hadolygu a'u diweddaru ar gyfer 2023/28.

Aethpwyd ati i adolygu'r Cynllun Corfforaethol a'n hamcanion lles ar gyfer 2023/28 drwy ymgynghori â phobl leol a thrwy asesu, ymysg ffynonellau eraill, y dystiolaeth ganlynol:

  • Tueddiadau a heriau'r dyfodol.
  • Adroddiad Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol 2020.
  • Ein hamcanion cydraddoldeb, gan gynnwys y Gymraeg.
  • Ein hymrwymiadau polisi.

Mae'r Cynllun Corfforaethol yn disgrifio'r camau sy'n cael eu cymryd i fodloni'n hamcanion lles a chyfrannu at y saith nod llesiant cenedlaethol1 sy'n cael eu hamlinellu yn y Ddeddf.

Mae'r cynllun hefyd yn nodi sut rydym yn mwyafu'n cyfraniad at ein hamcanion lles a'n nodau cenedlaethol drwy'r ffordd rydym yn gweithio, sy'n unol ag egwyddorion cynaliadwy fel a ganlyn:

  • Edrych i'r dyfodol at yr heriau tymor canolig a thymor hir.
  • Atal problemau rhag codi neu waethygu.
  • Sicrhau nad yw ein hamcanion yn gwrthddweud ei gilydd, a'u bod yn ategu rhai cyrff cyhoeddus eraill.
  • Gweithio mewn partneriaeth ag eraill.
  • Cynnwys pobl leol.

Cynllun Cydraddoldeb Strategol

Mae cydberthynas agos rhwng Cynllun Corfforaethol ac Amcanion Lles y cyngor a Chynllun Cydraddoldeb Strategol 2020/24 ac Amcanion Cydraddoldeb y cyngor. Bydd Cynllun Cydraddoldeb Strategol newydd gydag Amcanion Cydraddoldeb Strategol yn cael ei gyhoeddi yn ystod 2024/25. Byddwn yn ceisio sicrhau bod cydweddiad agos rhwng amcanion cydraddoldeb a lles y cyngor wrth i ni fynd ar drywydd integreiddio, ceisio gwella lles ac ymdrechu i sicrhau Abertawe mwy cyfartal a Chymru mwy cyfartal.

1Y Nodau Cenedlaethol yw: Cymru ffyniannus; Cymru gydnerth; Cymru iachach; Cymru fwy cyfartal; Cymru o gymunedau cydlynus; Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu; Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fydeang.

2. Crynodeb o'r Datganiad Lles

Ein Cynllun Corfforaethol - gweledigaeth, gwerthoedd, egwyddorion ac amcanion lles

Mae ein Cynllun Corfforaethol Cyflwyno Abertawe Lwyddiannus a Chynaliadwy a'n hamcanion lles yn amlinellu sut byddwn yn gweithio i ateb heriau presennol a rhai'r dyfodol.

Yr heriau sydd i ddod

Mae Abertawe'n wynebu sawl her yn y blynyddoedd sydd i ddod, sy'n cynnwys:

  • Newidiadau poblogaeth - Abertawe sy'n tyfu, sy'n heneiddio ac sy'n fwy amrywio.
  • Newidiadau economaidd - denu buddsoddiad, swyddi o safon a thechnoleg newydd i Abertawe wrth fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau.
  • Newid yn yr hinsawdd ac argyfyngau natur - peryglon llifogydd, ansawdd aer a dŵr, peryglon i ecosystemau a bioamrywiaeth a diogelwch ynni.
  • Newidiadau cymdeithasol a diwylliannol - mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd, addysg, cyflogaeth a chyfleoedd bywyd.
  • Newidiadau byd-eang - helpu Abertawe i ymdrin â chostau ynni cynyddol, prisiau cynyddol, tarfu ar y gadwyn gyflenwi ac argyfwng costau byw o ganlyniad i hyn.

Nodir yr heriau hyn yn ein Risgiau Corfforaethol:

  • Diogelu.
  • Cyrhaeddiad a chyflawniad disgyblion.
  • Effaith tlodi.
  • Argyfwng costau byw.
  • Cydlyniant cymdeithasol.
  • Economi ac isadeiledd lleol.
  • Targed sero net 2030.
  • Rheolaeth ariannol - Cyflawni cynllun Ariannol Tymor Canolig.
  • Cynllun Trawsnewid Corfforaethol
  • Recriwtio a chadw gweithlu.
  • hyfforddiant gorfodol.
  • Gweithredu prosiect Oracle Fusion.
  • Diogelwch seiber, data a digidol.
  • Iechyd a Diogelwch.
  • Cynllunio rhag Argyfyngau, Cydnerthedd a Pharhad Busnes.

Pe bai ein risgiau corfforaethol yn dod i rym, gallent gael effaith andwyol ar y cyngor neu'r gymuned gyfan neu gallent atal y cyngor rhag cyflawn'i flaenoriaethu a'i amcanion.

Rydym wedi ceisio mynd i'r afael â'n Risgiau Corfforaethol drwy fesurau rheoli perthnasol a thrwy ein Cynllun Corfforaethol a'n hamcanion lle

Ein huchelgeisiau a'n hymrwymiad i breswylwyr - ein gweledigaeth a'n hamcanion lles

Ein gweledigaeth

Yn 2028 mae Abertawe yn lle ag iddi ganol dinas defnydd cymysg ac economi leol. Mae'n fan lle gall pobl ennill y sgiliau a'r cymwysterau y mae eu hangen arnynt i lwyddo mewn bywyd, lle gall pawb gyflawni'u potensial a lle mae cymunedau'n gadarn ac yn gydlynol. Mae Abertawe'n fan lle mae hawliau dynol yn cael eu parchu, a lle mae pobl yn cael eu diogelu rhag niwed a chamfanteisio. Mae'n fan lle mae natur a bioamrywiaeth yn cael eu cynnal a'u gwella, ac allyriadau carbon yn gostwng.

Er mwyn ateb yr heriau hyn, a chyflawni'n gweledigaeth, rydym wedi blaenoriaethu chwe amcan lles. Sef:

  • Diogelu pobl rhag niwed - er mwyn sicrhau bod ein dinasyddion yn ddiogel rhag niwed a chamfanteisio.
  • Gwella Addysg a Sgiliau - fel bod pob plentyn a pherson ifanc yn Abertawe yn ennill y sgiliau a'r cymwysterau y mae eu hangen arnynt i lwyddo mewn bywyd.
  • Trawsnewid ein Heconomi a'n Hisadeiledd - fel bod gan Abertawe ganol dinas defnydd cymysg, ffyniannus ac economi leol a fydd yn cefnogi ffyniant ein dinasyddion.
  • Trechu Tlodi a Galluogi Cymunedau - fel y gall pob person yn Abertawe gyflawni ei botensial.
  • Cyflawni ar Adfer Natur a Newid yn yr Hinsawdd - fel ein bod yn cynnal ac yn gwella natur a bioamrywiaeth yn Abertawe, yn lleihau ein hôl troed carbon ac yn mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.
  • Trawsnewid a Chadernid Ariannol - fel ein bod ni a'r gwasanaethau rydym yn eu darparu'n gynaliadwy ac yn addas i'r dyfodol.

Diwygiwyd yr amcan 'Trechu Tlodi a Galluogi Cymunedau' i ychwanegu 'galluogi cymunedau' er mwyn cydnabod ymagwedd yn seiliedig ar gryfderau lle gellir elwa ar gryfderau unigolion, cymunedau a rhwydweithiau i helpu i drechu tlodi. Ailenwyd yr amcan 'Trawsnewid a Chadernid Ariannol' i adlewyrchu sut y bydd angen i'r cyngor newid i ddod yn gynaliadwy a bod yn fwy abl i ymdopi'n well â digwyddiadau bydeang, gan arwain at fwy o alw a phrisiau cynyddol ar adeg pan fo adnoddau'n cael eu lleihau.

Sut byddwn yn gweithio - ein gwerthoedd a'n hegwyddorion

Mae ein gwerthoedd a'n hegwyddorion a fynegwyd yn ein Cynllun Corfforaethol yn sail i gyflawni'n hamcanion lles ac maent yn adlewyrchu'r ffyrdd cynaliadwy o weithio:

Ein gwerthoedd
Mae ein cynlluniau'n seiliedig ar dri gwerth clir a fydd yn arwain y ffordd rydym yn gweithio, sut byddwn yn datblygu fel sefydliad a'n penderfyniadau yn y blynyddoedd i ddod.

  • Ffocws ar Bobl
    Byddwn yn canolbwyntio ar anghenion a chanlyniadau cymunedau ac ar wella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio yn Abertawe. Byddwn hefyd yn parchu, yn gwerthfawrogi ac yn cefnogi'n gweithwyr ac yn dangos y safonau uchaf o uniondeb.
     
  • Gweithio gyda'n gilydd
    Byddwn yn hyrwyddo ymagwedd partneriaeth gyfan, gan weithio ar draws gwasanaethau i fwyafu adnoddau a gwybodaeth a byddwn yn gweithio gydag eraill y tu allan i'r cyngor i sicrhau ein bod yn blaenoriaethu ein hadnoddau er mwyn cael y gwasanaethau gorau ar gyfer ein cymunedau.
     
  • Arloesedd
    Byddwn yn hyrwyddo ac yn cefnogi diwylliant blaengar. Byddwn yn meddwl ac yn gweithio'n wahanol i wella'n gallu i gyflawni ac ymdopi â'r heriau ariannol, demograffig a chymdeithasol rydym yn eu hwynebu. Mae'r ymateb i'r argyfwng COVID-19 wedi arwain at ddatblygiadau arloesol a newidiadau sylweddol i'r ffordd y mae staff yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau.

Ein Hegwyddorion
Bydd ein cynlluniau a'n blaenoriaethau'n seiliedig ar dair egwyddor allweddol. Mae'r egwyddorion hyn yn hanfodol er mwyn cyflawni'n hamcanion lles a chânt eu plethu i mewn i'n ffordd o weithio.

  • Cynaladwyedd
    Byddwn yn gweithio i wella lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Abertawe. Mae hyn yn golygu sicrhau y diwellir anghenion y presennol heb beryglu gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwy. Bydd hyn wrth wraidd ein rhaglen drawsnewid.

    Fel rhan o hyn, byddwn yn parhau i ymgysylltu â phreswylwyr a defnyddwyr gwasanaethau a cheisio'u barn. Mae ataliaeth ac integreiddio yn ganolog i'r egwyddor cynaladwyedd a byddwn yn datblygu cynlluniau tymor hir er mwyn mynd i'r afael â'n hamcanion lles, gan gydweithio ag eraill. Drwy'r ymagwedd hon, byddwn hefyd yn sicrhau ein bod yn bodloni gofynion Deddf Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
     
  • Ataliaeth
    Byddwn yn ymyrryd yn gynharach er mwyn cefnogi pobl sydd yn y perygl mwyaf, yn newid ymddygiad ac yn atal yr angen am wasanaethau arbenigol drud, gyda rhaglen gefnogi tymor hir yn aml. Bydd hyn yn helpu i wneud teuluoedd a chymunedau'n fwy gwydn, yn lleihau'r galw am wasanaethau'r cyngor, yn lleihau costau ac yn cyflawni gwell canlyniadau. Byddwn yn mabwysiadu ymagwedd cyngor cyfan tuag at reoli'r galw am wasanaethau, gan geisio gwella'n dealltwriaeth o gyswllt â chwsmeriaid a sut gellir ail-lunio gwasanaethau er mwyn atal, lleihau neu arallgyfeirio galw.

    Yn ystod y pandemig, parhaom i weithio gyda darparwyr gofal cymdeithasol i gefnogi heriau parhaus llacio'r cyfyngiadau symud a brwydro yn erbyn effeithiau COVID-19, a rhoddwyd cynlluniau ar waith i symud y cydbwysedd oddi wrth ofal acíwt tuag at wasanaethau ataliol a chymunedol.
     
  • Cydweithio ac integreiddio
    Byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid ar draws y sectorau cyhoeddus, busnes a gwirfoddol drwy'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a thrwy ffyrdd cydweithredol eraill er mwyn wynebu'r heriau a rennir gan Abertawe a'i chymunedau.

    Roedd yr ymagwedd 'Tîm Abertawe' hon yn hanfodol wrth ymdrin â COVID-19, wrth i ni weithio fel cyngor cyfan gyda phartneriaid, fel Iechyd, i sicrhau bod pob gwasanaeth yn chwarae rhan wrth gyfrannu at ein hamcanion lles a'n bod yn rhannu adnoddau ac arbenigedd mewn ymateb i COVID-19. Er mwyn diwallu anghenion ein preswylwyr a mynd i'r afael â'r heriau sylweddol sy'n wynebu Abertawe, mae'n rhaid cael partneriaethau cynhyrchiol, integreiddio ein gwasanaethau'n well a rhannu adnoddau.

Cyflawni - y camau

Mae ein Cynllun Corfforaethol yn dangos bod ein holl amcanion lles gyda'i gilydd a'r camau rydym yn eu cymryd i'w cyflwyno'n dangos ein cyfraniad at bob un o'r saith nod cenedlaethol ac at les cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol Abertawe a Chymru.

Nid yw'n cyfraniad at y nodau cenedlaethol a lles Abertawe a Chymru wedi'u mynegi yn ein Cynllun Corfforaethol yn unig. Mae'r Cynllun Corfforaethol yn nodi ein hamcanion lles allweddol a'n cyfraniad ond mae hefyd yn rhan o'n Fframwaith Gwella Perfformiad ehangach, sy'n cynnwys Cynlluniau Gwasanaeth adrannol, y Cynllun Corfforaethol ynghyd â'r Cynlluniau Gwasanaeth sy'n datgan ein cyfraniad llawn. Gwelir y broses hon yn y diagram isod:

Cyflawni - ffyrdd cynaliadwy o weithio
Byddwn yn mwyafu eto'n cyfraniad at les cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol Abertawe a Chymru drwy wreiddio ffyrdd cynaliadwy o weithio.

Adlewyrchir y ffyrdd hyn o weithio yn ein gwerthoedd a'n hegwyddorion ond hefyd yn y camau rydym yn eu cymryd ac rydym yn bwriadu eu cymryd, ac a amlygir yn y tabl drosodd, er mwyn mwyafu ein cyfraniad.

  • Edrych ymlaen at heriau'r tymor hir
    Mae ein Cynllun Corfforaethol a'n hamcanion lles yn ceisio mynd i'r afael â heriau presennol a thymor hwy.

    Parhaom i ddatblygu ein gallu a'n hadnoddau ar gyfer rhagolwg strategol tymor hwy. Bydd hyn yn rhan bwysig o'n trawsnewidiad wrth i ni geisio ailfodelu gwasanaethau a chanolbwyntio ar ddiwallu anghenion pobl, hwyluso ffyniant economaidd, datblygu cymunedau cydlynol a chadarn, datblygu gwasanaethau cwsmeriaid rhagorol a gwneud yn fawr o effeithlonrwydd, lleihau effaith y cyngor ar yr amgylchedd a datblygu gweithlu ymroddedig a brwdfrydig.
     
  • Atal problemau rhag codi neu waethygu
    Gyda'n hamcanion lles, rydym yn gweithio i atal problemau neu eu hatal rhag gwaethygu.

    Mae angen i'r cyngor barhau i ddatblygu ei ymagwedd ataliol ac i'r perwyl hwnnw, mae wedi datblygu Strategaeth Atal. Bydd y strategaeth hon yn gwreiddio ymyrryd ac atal cynnar ymhellach ym musnes y cyngor a rhoi hyd yn oed mwy o ffocws ar wella lles.
     
  • Sut mae ein hamcanion lles yn perthyn i'w gilydd ac i gyrff cyhoeddus eraill
    Mae'n bwysig nodi, fodd bynnag, na ellir ystyried y blaenoriaethau hyn fel rhai sy'n gwbl amherthnasol i'w gilydd. Mae'r holl amcanion lles yn effeithio ar ei gilydd.

    Er enghraifft, mae gwella addysg a sgiliau yn bwysig i'n hymdrechion i leihau tlodi a gwella'r ddinas a'r economi, sy'n golygu trawsnewid ein system addysg i sicrhau bod gan blant a phobl ifanc y sgiliau angenrheidiol ar gyfer yr economi newydd a sut mae cymdeithas wedi newid yn dilyn COVID-19 ac o ganlyniad i fygythiadau newid yn yr hinsawdd a'r dirywiad mewn bioamrywiaeth.

    Caiff y rhyngddibyniaeth ei ddangos yn y diagram isod:

Rydym yn gweithio i nodi cysylltiadau ac effeithiau posib amrywiaeth o bolisïau a rhaglenni er mwyn amlygu lle gall y fath bolisïau/raglenni atgyfnerthu neu danseilio'i gilydd.

Rydym wedi datblygu teclyn Asesu Effaith Integredig newydd sy'n cael ei ddefnyddio i nodi a chryfhau rhyngddibyniaethau.

Rydym wedi defnyddio'r teclyn hwn i asesu ac adolygu'n Cynllun Corfforaethol a'n hamcanion lles, sydd wedi helpu i fapio'n cyfraniad at y nodau cenedlaethol a nodi rhagor o opsiynau ar gyfer mwyafu'r cyfraniad at les cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol Abertawe a Chymru.

  • Gweithio ar y cyd ag eraill

    Rydym yn cydweithio â phartneriaid o'r sectorau cyhoeddus a phreifat a'r trydydd sector er mwyn cymryd camau i gyflawni'n hamcanion lles, gan ddangos ein cyfraniad a'n hopsiynau ar gyfer mwyfau'r cyfraniad at les cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd Abertawe a Chymru. Mae'r rhain yn cynnwys y canlynol:
    • Gweithio gydag awdurdod lleol eraill i ddarparu gwasanaethau gwella ysgolion.
    • Gweithio mewn partneriaeth ar ddiogelu gyda chynrychiolwyr o bob un o'r prif asiantaethau a gweithwyr proffesiynol sy'n gyfrifol am helpu i amddiffyn plant ac oedolion rhag cam-drin ac esgeulustod drwy fyrddau Diogelu Plant ac Oedolion Gorllewin Morgannwg.
    • Gweithio gyda thri awdurdod lleol arall, Llywodraeth Cymru, Prifysgolion a'r sector preifat drwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe i drawsnewid tirlun economaidd yr ardal, rhoi hwb o £1.8 biliwn i'r economi leol a chreu born 10,000 o swyddi newydd dros y 15 mlynedd nesaf.
    • Gweithio mewn partneriaeth â'r gwasanaeth Iechyd, Llywodraeth Cymru, cyrff cyhoeddus eraill a'r trydydd sector i ymateb i ganlyniadau pandemig COVID19.
       
  • Cynnwys ein holl ddinasyddion yn yr hyn rydym yn ei wneud

    Mae'r cyngor yn ymroddedig i ymgynghori â phreswylwyr, rhanddeiliaid eraill a gweithwyr a'u cynnwys ym mhroses benderfynu'r cyngor. Mae gennym Strategaeth Ymgynghori ac Ymgysylltu newydd ar gyfer ymarferwyr i'w helpu i gynnwys preswylwyr a defnyddwyr gwasanaeth.

    Yn ogystal â hyn, mae'r cyngor yn ymgysylltu ag amrywiaeth y boblogaeth drwy grwpiau a fforymau amrywiaeth, megis y Rhwydwaith 50+ a'r Fforwm LGBT. Mae disgyblion ysgol yn ymwneud â'u haddysg drwy Gynghorau Ysgol a thrwy Lais y Disgybl, sydd wedi'i anelu'n uniongyrchol at gynyddu cyfranogiad disgyblion fel a nodir yn Erthygl 12 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP); Abertawe oedd y cyngor cyntaf yn y DU i fabwysiadu a gwreiddio CCUHP. Mae digwyddiadau Sgwrs Fawr y cyngor yn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc drafod materion sydd o bwys iddynt a dylanwadu ar bolisi'r cyngor.

    Mae gennym gynlluniau i gynnwys mwy o bobl leol ym mhenderfyniadau'r cyngor sy'n effeithio arnyn nhw, eu teuluoedd a'u cymunedau ac, i'r perwyl hwnnw, rydym wedi gweithio gyda Rhwydwaith Cydgynhyrchu Abertawe i ymgysylltu â Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru (Lab Cyd-gynhyrchu Cymru) i wella sgiliau a datblygu'r cyngor, gan wreiddio ymddygiadau a meddylfryd cydgynhyrchu ym mhopeth a wnawn.

Cynnwys pobl yn ein hamcanion lles

Cynhaliwyd ymgynghoriad ar Gynllun Corfforaethol Cyngor Abertawe 2023-28 o 27 Ionawr tan 24 Chwefror 2023. Diben yr ymgynghoriad oedd casglu barn pobl am amcanion lles y cyngor (blaenoriaethau), y camau gweithredu (camau) roedd y cyngor yn eu cynnig er mwyn cyflawni pob un o'r blaenoriaethau hyn a nodi awgrymiadau eraill mewn perthynas ag unrhyw gamau ychwanegol y gallai'r cyngor eu cymryd i roi'r blaenoriaethau hyn ar waith.

Mae ymgynghori ar Gynllun Corfforaethol Cyngor Abertawe yn broses ailadroddus a pharhaus. Yn ystod gwanwyn 2022 datblygodd y cyngor arolwg fel arweiniad a 'gwiriad tymheredd' i helpu i gyfeirio'r gwaith i adnewyddu'r Cynllun Corfforaethol. Dangosodd ganlyniadau'r arolwg hwn fod lefel uchel o gefnogaeth ar gyfer yr amcanion lles fel y blaenoriaethau cywir ar gyfer y cyngor, i barhau i wella lles yn Abertawe.

Mae'r Swyddogion Arweiniol ar gyfer pob amcan lles hefyd wedi ymgynghori'n eang ar ddatblygu eu blaenoriaethau a'r camau. Er enghraifft, mewn perthynas ag Addysg, mae rhanddeiliaid unigol yn ymwneud â'r rhan fwyaf o fentrau ysgolion, sy'n aml yn cael eu nodi mewn deddfwriaeth e.e. aildrefnu ysgolion. Hefyd, mae nifer o rwydweithiau sy'n cynnwys staff ysgolion, staff eraill yr ALl, rhieni/gofalwyr (e.e. Fforwm Rhieni sy'n Ofalwyr) sydd wedi'u hen sefydlu i drafod blaenoriaethau a datblygu ffrydiau gwaith gyda'i gilydd. Mae'r cyngor hefyd yn cynnal nifer mawr o ymgynghoriadau parhaus sy'n arwain, yn anuniongyrchol ac yn uniongyrchol, y gwaith o ddatblygu'r cynllun, er enghraifft Newid yn yr Hinsawdd, Teithio Llesol ac ymgysylltu ag Isadeiledd Gwyrdd neu ddigwyddiadau ymgysylltu penodol sy'n ymwneud â lles Abertawe e.e. digwyddiad Diwrnod Plant y Byd.

Yn ystod yr un cyfnod â'r ymgynghoriad ar y Cynllun Corfforaethol, roedd y cyngor hefyd yn ymgynghori ar ei gynigion cyllidebol ar gyfer 2023-2024, Cynllun Lles Lleol Abertawe a Chynllun Corfforaethol Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, felly bwriedid i'r ymgynghoriad ar y Cynllun Corfforaethol fod yn gymesur ac adeiladu ar ymgynghoriadau blaenorol a pharhaus mewn perthynas â llywio blaenoriaethau'r cyngor.

Lluniwyd yr arolwg fel bod yr ymatebwyr yn rhoi eu barn am y canlynol:

  • i ba raddau yr oeddent yn cytuno neu'n anghytuno â'r 6 amcan drafft (blaenoriaethau) ar gyfer Cyngor Abertawe, er mwyn parhau i wella lles yn Abertawe.
  • i ba raddau roeddent yn cytuno neu'n anghytuno â phob un o'r camau i gyflawni pob un o'r blaenoriaethau.

Yn gyffredinol, roedd canlyniadau'r arolwg yn dangos bod nifer cymharol uchel o bobl yn cytuno â'r 6 amcan, sy'n unol â chanlyniadau ymgynghoriadau blaenorol:

  • Cytunodd 88% o ymatebwyr y dylai Diogelu Pobl rhag Niwed fod yn flaenoriaeth i Gyngor Abertawe.
  • Cytunodd 93% y dylai Addysg a Sgiliau fod yn flaenoriaeth ar gyfer y cyngor.
  • Cytunodd 87% y dylai Trawsnewid ein Heconomi ac Isadeiledd fod yn flaenoriaeth ar gyfer y cyngor.
  • Cytunodd 90% y dylai Trechu Tlodi a Galluogi Cymunedau fod yn flaenoriaeth ar gyfer y cyngor.
  • Cytunodd 75% y dylai cyflawni ar Adfer Natur a Newid yn yr Hinsawdd fod yn flaenoriaeth ar gyfer y cyngor.
  • Cytunodd 75% y dylai Trawsnewid a Chadernid Ariannol fod yn flaenoriaeth ar gyfer y cyngor.

Roedd lefel debyg o gytundeb gyda phob un o'r camau arfaethedig i gyflawni'r holl amcanion lles.

Ein cyllideb - adnoddau ar gyfer ein hamcanion lles

Yn dilyn ymgynghoriad â staff, y cyhoedd a rhanddeiliaid eraill, mae adroddiad ar y gyllideb yn mynd gerbron y Cabinet ac yna caiff ei drafod mewn cyfarfod cyngor llawn. Mae gan y cyngor £550 miliwn i'w wario. Daw'r mwyafrif helaeth o'r arian hwn o'r Llywodraeth a grantiau, ac rydym yn codi mwy o arian drwy dreth y cyngor ac incwm. Dyma sut y dyrennir y gyllideb ar hyn o bryd (2023-2024):

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar gyllideb 2024/25 ar waith erbyn yr hydref oni bai y caiff ei oedi, fel sydd wedi digwydd am y 3 blynedd diwethaf oherwydd penderfyniadau cenedlaethol Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru i oedi dyraniadau cyllidebol a chyhoeddiadau (sydd wedi gwaethygu'n ddiweddar oherwydd ansicrwydd ariannol Covid-19). Er bod swm yr arian rydym yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru yn sylweddol fwy ar gyfer y flwyddyn nesaf (2023-2024), ac y gallai fod cynnydd cymharol fach mewn arian dros y blynyddoedd i ddod, bydd angen sicrhau llawer mwy o arbedion i wrthbwyso ein rhagolwg o wariant ychwanegol, sydd y tu hwnt i'n rheolaeth, megis chwyddiant prisiau cynyddol, codiadau cyflog cenedlaethol a demograffeg.

Mae'r cyhoedd eisoes wedi dweud wrthym mai eu blaenoriaethau yw ysgolion a'r gwasanaethau cymdeithasol. Eto, maent hefyd yn dweud wrthym fod rhai digwyddiadau penodol, glanhau strydoedd a chynnal a chadw priffyrdd yn bwysig iawn iddynt. Mae gennym gynllun hefyd ar gyfer lefelau uchel o chwyddiant ac i sicrhau adferiad cadarn a chyflym o'r argyfwng costau byw o ran iechyd, lles a 13 gweithgarwch economaidd, a'r cyfan yn dod ar ben pandemig COVID-19. Mae ein cyllideb yn cynnwys rhestr o flaenoriaethau cyllidebol yn unol â'n hamcanion lles fel y'u nodwyd yn ein Cynllun Corfforaethol. Ond gydag adnoddau cyfyngedig bydd yn rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd yn y dyfodol o ran gwariant a threthi er mwyn mantoli'r cyfrifon.

Rydym yn codi dros £140 miliwn mewn treth y cyngor bob blwyddyn, ond nid yw hyn hyd yn oed yn ddigon i dalu am gostau ein gwasanaethau cymdeithasol, heb sôn am yr holl wasanaethau eraill a ddarperir gennym. Mae cost gyffredinol gwasanaethau'r cyngor yn golygu nad yw cynyddu treth y cyngor yn unig yn opsiwn. Felly, rhaid i ni gymryd camau eraill.

3. Ein hamcanion lles

Mae rhan nesaf y cynllun yn nodi'n hamcanion lles ar gyfer 2023/28. Caiff pob amcan ei ddisgrifio'n fanwl dan y penawdau canlynol:

  • Pam mae'r flaenoriaeth hon yn amcan lles?
  • Yr heriau tymor hwy y bydd pob amcan lles yn helpu i fynd i'r afael â hwy.
  • Y camau y byddwn yn eu cymryd i gyflawni pob amcan lles.
  • Yr hyn rydym wedi'i wneud erbyn diwedd 2023-2024.
  • Sut byddwn yn mesur cynnydd.
  • Cyfraniad pob amcan lles at y nodau cenedlaethol.
  • Sut byddwn yn mwyafu ein cyfraniad at y nodau cenedlaethol drwy'r ffordd rydym yn gweithio.
  • Cyfraniad pob amcan lles at Amcanion Lles y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

Diogelu pobl rhag niwed

Pam mae'r flaenoriaeth hon yn amcan lles?

  • Mae Abertawe'n ddinas deg a chyfartal lle gall plant gael y dechrau gorau mewn bywyd i fod y gorau y gallant fod, yn ddiogel gyda'u teuluoedd.
     
  • Mae Abertawe'n ddinas iach lle gall pobl ddisgwyl byw bywydau hapus, iach, boddhaus; i gyflawni eu canlyniadau lles eu hunain a heneiddio'n dda.
     
  • Mae Abertawe'n ddinas hawliau dynol sydd wedi ymrwymo i wella iechyd, lles a diogelwch ac i hyrwyddo hawliau oedolion, plant a theuluoedd sy'n agored i niwed.
     
  • Ein nod yw atal ac ymyrryd yn gynnar, lle mae person neu blentyn mewn perygl o niwed, camdriniaeth, esgeulustod neu gamfanteisio, a sicrhau'r gofal a'r cymorth cywir ar yr adeg gywir.
     
  • Byddwn yn parhau i hyrwyddo'r ffaith bod diogelu pobl sy'n agored i niwed yn fater i bawb, ar draws y cyngor, drwy weithlu medrus a phroffesiynol, ein haelodau etholedig ac unrhyw sefydliad neu berson sy'n ymgymryd â gwaith ar ein rhan.

Yr heriau tymor hwy y bydd yr amcan lles hwn yn helpu i fynd i'r afael â hwy

  • Bydd dysgu o'r pandemig diweddar ac edrych ymlaen gyda chymorth Cynllun Adfer y cyngor yn parhau i fod yn ffocws allweddol yn 2023 a thu hwnt, wrth i ni barhau â rhaglenni trawsnewid i foderneiddio gwasanaethau gofal cymdeithasol, er mwyn cyflawni ymagwedd fwy ataliol, cynaliadwy, ac ôl troed carbon sero net.
     
  • Rydym yn gweithio mewn partneriaethau i wella diogelwch, iechyd, a chanlyniadau lles ein dinasyddion mwyaf agored i niwed.
     
  • Drwy 'gydgynhyrchu' - rydym yn cynnwys pobl ym mhopeth rydym yn ei wneud, gan ganolbwyntio ar 'yr hyn sydd bwysicaf' iddynt fel dinasyddion, gan eu rhoi yn ganolog i'w gofal a'u cymorth eu hunain a thrwy gydgynhyrchu gwasanaethau i gyflawni canlyniadau gwell.
     
  • Drwy sicrhau bod gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig o ansawdd uchel a mwy hygyrch ar gael i oedolion, plant a theuluoedd y mae angen ein gofal a'n cymorth arnynt.
     
  • Mae Abertawe'n gweithio ar ymagwedd strategol ranbarthol at gefnogi anghenion lles gofalwyr a gofalwyr ifanc, mae angen troi hyn yn ymagwedd glir yn lleol i wneud gwahaniaeth ym mywydau unigolion.

Y camau y byddwn yn eu cymryd i gyflawni'r amcan lles hwn fydd:

  • Mae diogelu yn fusnes i bawb - mae diogelu ein pobl fwyaf agored i niwed yn 'fusnes i bawb' ar draws y cyngor, o fewn ysgolion a chyda phartneriaid, a thrwy Fwrdd Diogelu a phartneriaethau Gorllewin Morgannwg, byddwn yn cynnal adolygiad o ddarpariaeth gofal a chymorth ôl-bandemig.
     
  • Gwasanaethau statudol cadarn o ansawdd uchel - drwy sicrhau bod y Gwasanaethau i Oedolion a'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn gadarn ac yn effeithiol wrth ddarparu'r gofal a'r gefnogaeth gywir, i'r person cywir, ar yr adeg gywir. Rydyn ni'n ymrwymo i fuddsoddi £750 miliwn ar gyfer gwell gofal yn Abertawe, i ddechrau arfarnu opsiynau i gynyddu darpariaeth gofal uniongyrchol y cyngor.
     
  • Gwella canlyniadau i blant a phobl ifanc - drwy hyrwyddo hawliau plant a phobl ifanc ym mhopeth a wnawn, drwy ein strategaeth i gefnogi plant a phobl ifanc i fyw'n ddiogel gartref gyda'u teulu; drwy'r strategaeth magu plant corfforaethol i helpu pob un sy'n gofalu am blentyn i gyflawni bywyd gwell; Byddwn yn ymdrechu i ddarparu cyfleusterau gofal plant newydd yn Abertawe; drwy ddatblygu cyfleuster gofal plant newydd sy'n cynnig lleoliadau lleol o ansawdd uchel, nid er elw, pan fo'u hangen fwyaf.
     
  • Trawsnewid Gofal a Chefnogaeth i oedolion sy'n agored i niwed - Cefnogi ein hoedolion mwyaf agored i niwed i aros yn ddiogel ac yn annibynnol gartref, drwy ailfodelu mynediad at wasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol integredig. Byddwn yn ail-gydbwyso'n cynnig gwasanaeth i ddarparu gwell cyfleoedd gofal dydd a gwasanaethau seibiant ledled y ddinas; i ganolbwyntio ar atal, ail-alluogi, a thrwy ymgysylltu ag Iechyd i sicrhau bod cynlluniau gofal yn cyd-fynd ag adfer iechyd i wella canlyniadau
     
  • Cymorth i ofalwyr di-dâl, gofalwyr sy'n rhieni a gofalwyr ifanc - gan gydnabod cyfraniad hanfodol gofalwyr di-dâl, gofalwyr sy'n rhieni a gofalwyr ifanc drwy gydgynhyrchu dulliau newydd o ddarparu'r cymorth cywir i gyflawni eu canlyniadau lles eu hunain.
     
  • Adeiladu gweithlu medrus, proffesiynol a chefnogi eu lles - - drwy recriwtio'n ddiogel, a chadw gweithlu sy'n parhau i ddarparu gwasanaethau cymdeithasol o ansawdd uchel, drwy ymrwymo i dâl tecach i weithwyr gofal; drwy arweinyddiaeth gefnogol; drwy ganolbwyntio ar les y gweithlu, safonau arfer a datblygiad proffesiynol i gefnogi pob gweithiwr i fod y gorau y gall fod.
     
  • Rhoi rhaglen waith Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg ar waith drwy weithio gyda phartneriaid i gyflawni model gofal cymdeithasol cynaliadwy, integredig a sero net o ran carbon.

Erbyn diwedd 023-2024 bydd:

  • Diogelu yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r cyngor cyfan ac yn fater i bawb.
  • Byddwn wedi gwella mynediad at gymorth cynnar a bydd cynnig lles ac atal y cyngor yn helpu i leihau'r galw ar wasanaethau statudol.
  • Bydd safonau diogelwch a diogel yn llywio'n hymarfer.
  • Bydd ffocws ar ansawdd wrth ddarparu gwasanaethau cymdeithasol statudol.
  • Bydd gweithwyr yn teimlo'u bod yn cael eu cefnogi yn eu gwaith a'u datblygiad proffesiynol.
  • Bydd gofalwyr yn cael eu nodi a'u cefnogi gyda'u lles.
  • Bydd dinasyddion Abertawe yn profi taith lefn tuag at eu canlyniadau iechyd a lles eu hunain.

Sut byddwn yn mesur cynnydd*

*Dros dro wrth aros am adolygiad a datblygiad data.

  • Cymorth Cynnar - nifer y plant a'r teuluoedd a gefnogir.
  • Nifer/cyfradd y plant y mae angen gofal a chefnogaeth arnynt, plant sy'n derbyn gofal a phlant sydd ar y gofrestr amddiffyn plant.
  • Ymweliadau statudol a wnaed â phlant ar y gofrestr amddiffyn plant.
  • Ailalluogi - oedolion sy'n derbyn ailalluogi cymunedol a phreswyl i ddiwallu eu hanghenion lles eu hunain.
  • Adolygiadau o gynlluniau gofal a chymorth (oedolion) o fewn amserlenni statudol.
  • Cefnogaeth i ofalwyr - nifer/cyfradd y gofalwyr a nodwyd ac y cynigwyd asesiad gofalwyr iddynt i helpu i ddiwallu eu hanghenion lles.
  • Amserlenni wrth ymateb i ymholiadau'n ymwneud â diogelu oedolion.
  • Canran y cysylltiadau a dderbyniwyd gan y gwasanaethau cymdeithasol statudol i blant yn ystod y cyfnod lle gwnaed penderfyniad erbyn diwedd y diwrnod gwaith nesaf.

 

Cyfraniad yr amcan lles hwn at y nodau cenedlaethol
Cymru lewyrchusCymru gydnerthCymru sy'n fwy cyfartalCymru o gymunedau cydlynusCymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnuCymru iachachCymru sy'n gyfrifol ar lefel fydeang
AnuniongyrcholAnuniongyrcholUniongyrcholUniongyrcholAnuniongyrcholUniongyrcholAnuniongyrchol

Sut byddwn yn mwyafu ein cyfraniad at y nodau cenedlaethol drwy'r ffordd rydym yn gweithio

  • Atal problemau rhag digwydd neu waethygu - datblygu gwasanaethau ataliol i helpu dinasyddion i gyflawni'u canlyniadau lles eu hunain, a lleihau'r angen i bobl gael mynediad at wasanaethau statudol.
     
  • Mynd i'r afael â heriau tymor hir - gweithio mewn ffordd ataliol, sy'n seiliedig ar hawliau, cydgynhyrchu cynlluniau gofal a chymorth gyda dinasyddion i helpu i gynllunio i fynd i'r afael â chanlyniadau gofal a chymorth yn y dyfodol, a nodi datrysiadau ar gyfer mynd i'r afael â'r gofynion newydd a chynyddol ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol lleol.
     
  • Gweithio mewn partneriaeth ag eraill - i fynd i'r afael â phroblemau lles a chymdeithasol cymhleth fel profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, trais domestig, digartrefedd a helpu pobl i fyw a heneiddio'n dda gyda phartneriaid drwy'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
     
  • Osgoi gwrthdaro rhwng amcanion cyrff cyhoeddus - gweithio ar y cyd â phartneriaid drwy fwrdd partneriaeth iechyd a gofal cymdeithasol rhanbarthol Bae'r Gorllewin, y bwrdd diogelu rhanbarthol, a thrwy'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
     
  • Cynnwys pobl - cynnwys pob dinesydd, gan gynnwys gofalwyr, gofalwyr ifanc a dioddefwyr cam-drin domestig a phlant sy'n derbyn gofal a'u teuluoedd wrth gydgynhyrchu eu cynlluniau gofal a chymorth eu hunain, a thrwy ganolbwyntio ar eu hawliau, eu cryfderau a'u hasedau a'r hyn y gallant ei gyfrannu at eu rhwydweithiau teuluol a'u cymunedau eu hunain.

 

Cyfraniad yr amcan lles hwn at amcanion y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
Plant yn cael y dechrau gorau mewn bywyd i fod y gorau y gallant fodPobl yn byw'n dda ac yn heneiddio'n ddaGweithio gyda naturCymunedau cryf
UniongyrcholUniongyrcholAnuniongyrcholUniongyrchol

Gwella Addysg a Sgiliau

Pam mae'r flaenoriaeth hon yn amcan lles?

  • Rydym am i bob plentyn a pherson ifanc fynychu'r ysgol yn rheolaidd, cael eu cynnwys, bod yn wydn a chael dyfodol llwyddiannus.
     
  • Rydym am i bob plentyn a pherson ifanc feddu ar sgiliau Cymraeg da.
     
  • Rydym am gefnogi a chynnal arweinyddiaeth ysgol effeithiol.
     
  • Rydym am gefnogi a chynnal addysgu rhagorol.
     
  • Rydym am i bob dysgwr dderbyn ei addysg mewn amgylcheddau sy'n gymunedau diogel a chynaliadwy ar gyfer dysgu.

Yr heriau tymor hwy y bydd yr amcan lles hwn yn helpu i fynd i'r afael â hwy

  • Sicrhau bod gan bobl ifanc y sgiliau i ymuno â chyfleoedd cyflogaeth lleol, gan gynnwys y rheini sy'n deillio o Fargen Ddinesig Bae Abertawe.
     
  • Sicrhau bod dysgu, iechyd a lles plant a phobl ifanc yn cael eu cefnogi, yn enwedig ar ôl effaith pandemig COVID-19.
     
  • Mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau a grëwyd gan y cysylltiad sy'n bodoli rhwng cyrhaeddiad addysgol a ffyniant economaidd.
     
  • Sicrhau bod y gefnogaeth ar gyfer darparu anghenion dysgu ychwanegol yn gryfach, yn llai gwrthwynebol ac yn rhoi plant a phobl ifanc wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau.
     
  • Sicrhau cyfle cyfartal i bob dysgwr ddysgu Cymraeg, siarad yr iaith yn hyderus a hyrwyddo manteision dwyieithrwydd/amlieithrwydd.
     
  • Sicrhau bod arweinwyr ac ymarferwyr yn cael eu cefnogi i barhau i ddarparu addysg ragorol ym mhob lleoliad dysgu.
     
  • Darparu ysgolion sy'n addas, yn ddiogel ac yn gynaliadwy.

Y camau y byddwn yn eu cymryd i gyflawni'r amcan lles hwn fydd:

  • Strategaeth Cynhwysiad - Byddwn yn cyflwyno'r strategaeth cynhwysiad er mwyn gwreiddio'r ddarpariaeth gyffredinol ar gyfer anghenion ychwanegol, lleoedd arbenigol ar gyfer anghenion ychwanegol ac ymagwedd ysgol gyfan at ymdrin ag iechyd emosiynol a lles seicolegol. Bydd y strategaeth yn hyrwyddo presenoldeb, cynhwysiad, cyfranogiad dysgwyr wrth wneud penderfyniadau ac yn lleihau bwlio ymhlith cyfoedion ac aflonyddu mewn ysgolion.
     
  • Strategaeth Sgiliau'r Gymraeg - Byddwn yn cyflwyno strategaeth sy'n ymgorffori'r Siarter Iaith ym mhob ysgol. Bydd y strategaeth yn sicrhau bod pob 19 ysgol yn cael ei chefnogi i ddatblygu sgiliau dysgwyr o fewn a thu allan i'r dosbarth. Rydym am i ddysgwyr siarad Cymraeg yn hyderus pan maent yn gadael yr ysgol.
     
  • Strategaeth Cefnogi Arweinyddiaeth - - Byddwn yn cyflwyno strategaeth i gynnal a chefnogi arweinyddiaeth effeithiol, gan gynnwys llywodraethu, ar draws pob ysgol. Bydd y strategaeth yn hybu hunan-wella a chydweithio. Rydym am i'n harweinwyr ysgolion wella eu lles eu hunain er mwyn cefnogi ymarferwyr a dysgwyr yn dda.
     
  • Strategaeth Cefnogaeth Addysgu - Byddwn yn cyflwyno strategaeth i gefnogi llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol i gynnal, adfer a chyflymu sgiliau dysgwyr. Bydd y strategaeth yn hybu rhagoriaeth ar draws pob ysgol. Rydym am i bob athro roi'r sgiliau allweddol i ddysgwyr i gael mynediad at bob maes dysgu.
     
  • Strategaeth Dylunio Cyrchfannau - Byddwn yn cyflwyno strategaeth i gefnogi dysgu galwedigaethol, cydweithio ar y cwricwlwm ôl-16, gyrfaoedd ac addysg sy'n gysylltiedig â gwaith. Rydym am i ysgolion ymgysylltu â hyrwyddwyr dysgu cymunedol, cyflogwyr a darparwyr addysg eraill i ysbrydoli dyfodol llwyddiannus i ddysgwyr.
     
  • Strategaeth Tegwch mewn Addysg - Byddwn yn cyflwyno strategaeth i ymgorffori arferion sydd wedi'u llywio gan drawma ar draws pob ysgol, camau gweithredu i leihau effaith tlodi ar ddysgwyr a chyflawni ein cyfrifoldebau fel rhieni corfforaethol. Rydym am i'n dysgwyr sy'n agored i niwed gael mynediad at gymorth mewn un lle drwy ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned.
     
  • Strategaeth Ysgolion Newydd a Gwell - Rydym am ddarparu isadeiledd addysgol effeithlon ac effeithiol i fodloni gofynion am leoedd ysgol, yn awr ac yn y dyfodol. Byddwn yn darparu ystâd ysgolion wedi'i thrawsnewid drwy ddefnyddio ein rhaglen adeiladu a chynnal a chadw ysgolion a hefyd yn ymateb i'r datblygiadau a nodir yn y cynllun datblygu lleol (CDLl) wrth sicrhau buddion cymunedol o gontractau. Rydym am leihau ein hôl troed carbon yn yr ystâd ysgolion a sicrhau bod asedau ar gael at ddefnydd y gymuned lle mae galw lleol yn bodoli.

Erbyn diwedd 2023-2024 byddwn wedi:

  • Datblygu a hyrwyddo Strategaeth Cynhwysiad newydd.
  • Parhau i gefnogi ysgolion i gefnogi dysgwyr i ddatblygu sgiliau'r Gymraeg, yn unol â chynllun cyflawni Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg.
  • Annog staff ysgolion i ymgymryd â chyfleoedd datblygu arweinyddiaeth gan gynnwys cymwysterau, a'u cefnogi i wneud hyn.
  • Hyrwyddo gweledigaeth newydd ar gyfer llywodraethu ysgolion i gefnogi arweinyddiaeth ysgolion.
  • Hyrwyddo cyfleoedd dysgu proffesiynol lleol a rhanbarthol i gefnogi dysgu ac addysgu rhagorol.
  • Ymgynghori â dysgwyr ar ddewisiadau ôl-16 a datblygu strategaeth ôl-16 a galwedigaethol newydd.
  • Sicrhau cyfleusterau addas ar gyfer darparu prydau ysgol am ddim cyffredinol i blant oedran y dosbarth Derbyn, yn unol â chynnig Llywodraeth Cymru.
  • Cyflwyno rhaglen amlinellol strategol ar gyfer cymunedau cynaliadwy ar gyfer dysgu.

Sut byddwn yn mesur cynnydd*

*Dros dro wrth aros am adolygiad a datblygiad data.

  • Presenoldeb gwell ym mhob lleoliad addysgol.
  • Gostyngiad mewn gwaharddiadau o bob lleoliad addysgol.
  • Canran gynyddol o ddysgwyr yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn yr oedran meithrin a Derbyn.
  • Canran gynyddol o ddysgwyr yn aros mewn darpariaeth cyfrwng Cymraeg wrth drosglwyddo o un cyfnod allweddol i'r llall.
  • Canran gynyddol o ddysgwyr yn cael eu hasesu ar gyfer cymwysterau drwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Nifer yr arweinwyr sy'n meddu ar gymwysterau RhDAG/RhDUA/Darpar Bennaeth/CPCP.
  • Canran well o ddysgwyr yn gwneud cynnydd da mewn sgiliau darllen ac ysgrifennu.
  • Canran well o ddysgwyr yn gwneud cynnydd da yn eu cymhwysedd digidol.
  • Gostyngiad yn nifer y bobl ifanc y gwyddys eu bod yn NEET yn 16 oed.
  • Cofrestru a chanlyniadau prentisiaethau yn y cyngor a'r gymuned ehangach.
  • Sicrhau ymgysylltu ac wythnosau hyfforddiant ar gyfer y rhai sy'n anweithgar yn economaidd neu'n ddi-waith drwy gymalau budd cymdeithasol mewn contractau.
  • Cynnydd yn nifer y rhai sy'n derbyn prydau ysgol cyffredinol (o fewn cynnig Llywodraeth Cymru).
  • Abertawe yn dod yn gyngor cyntaf sy'n ystyriol o Brofiad Niweidiol yn ystod Plentyndod cyntaf yng Nghymru.
  • Achosion busnes cymeradwy a chyflawni'r prosiectau Band B sy'n weddill.
  • Cynnydd yn nifer yr ysgolion sydd ar gael at ddefnydd cymunedol.
  • Cynnydd yn nifer yr ysgolion y mae eu graddfa Tystysgrif Ynni i'w Harddangos naill ai'n A neu'n gwella o un gradd o leiaf, e.e. D i C.
  • Cynnydd yn nifer yr ysgolion sy'n garbon gweithredol sero net (nid oes yr un ar hyn o bryd).

 

Cyfraniad yr amcan lles hwn at y nodau cenedlaethol
Cymru lewyrchusCymru gydnerthCymru sy'n fwy cyfartalCymru o gymunedau cydlynusCymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnuCymru iachachCymru sy'n gyfrifol ar lefel 
AnuniongyrcholUniongyrcholUniongyrcholUniongyrcholUniongyrcholAnuniongyrcholUniongyrchol

Sut byddwn yn mwyafu ein cyfraniad at y nodau cenedlaethol drwy'r ffordd rydym yn gweithio

Atal problemau rhag codi neu waethygu - drwy:

  • Gefnogi ysgolion i gynllunio cwricwlwm diddorol a chyfleoedd i ddatblygu addysgu o ansawdd da ymhellach, fel bod disgyblion yn datblygu sgiliau a chymwysterau sydd eu hangen arnynt i fynd ymlaen i addysg bellach ac addysg uwch, hyfforddiant neu gyflogaeth.
  • Cefnogi dysgwyr a'u teuluoedd o'r cyfle cyntaf i oresgyn rhwystrau i bresenoldeb da.
  • Cefnogi dysgwyr a'u teuluoedd drwy ymyrryd yn gynnar i gynyddu cynhwysiad ymgysylltiad ac atal gwaharddiadau.
  • Nodi angen yn gynnar er mwyn sicrhau bod gan ddysgwyr ddarpariaeth addas.

Mynd i'r afael â heriau tymor hir - drwy:

  • Sicrhau bod y cwricwlwm ysgol yn Abertawe'n rhoi cyfle i ddisgyblion ennill y sgiliau a'r cymwysterau ar gyfer y dyfodol, ac yn cyfrannu at lwyddiant Bargen Ddinesig Bae Abertawe wrth wella ffyniant.
  • Sicrhau bod ystad ysgolion yn cael ei chynnal i fod yn addas ac yn ddiogel ar gyfer dysgwyr presennol a dysgwyr y dyfodol.

Gweithio mewn partneriaeth ag eraill - drwy:

  • Cynnal a datblygu gweithio'n agos gyda gwasanaethau eraill ar draws yr awdurdod lleol ymhellach.
  • Cydweithio ag awdurdodau lleol drwy'r trefniadau rhanbarthol i gefnogi gwasanaethau gwella ysgolion.
  • Gwell cydweithio a rhannu gwybodaeth ag asiantaethau i sicrhau nodi'n gynnar a chefnogaeth i gyflawni canlyniadau cadarnhaol ar gyfer plant a phobl ifanc.

Osgoi gwrthdaro rhwng amcanion cyrff cyhoeddus - drwy:

  • Greu synergedd rhwng amcanion cenedlaethol a lleol a datblygiad economaidd.

Cynnwys pobl - drwy:

  • Cynnwys dysgwyr yn eu haddysg trwy ystod o ddulliau ymgysylltu er mwyn dangos ein bod yn gwerthfawrogi'r rhanddeiliaid allweddol hyn.
  • Sicrhau bod barn teuluoedd a'r gymuned ehangach yn cael ei hystyried.
  • Llunio polisïau a chynlluniau ar y cyd fel y bo'n briodol i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion a disgwyliadau'r gymuned sy'n dysgu.

 

Cyfraniad yr amcan hwn at Amcanion Lles y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
Plant yn cael y dechrau gorau mewn bywyd i fod y gorau y gallant fodPobl yn byw'n dda ac yn heneiddio'n ddaGweithio gyda naturCymunedau cryf
UniongyrcholAnuniongyrcholAnuniongyrcholUniongyrchol

Trawsnewid ein Heconomi a'n Hisadeiledd

Pam mae'r falenoriaeth hon yn amcan lles?

  • Rydym am wella perfformiad economaidd i greu cyfoeth a chyfleoedd cyflogaeth i wella lles economaidd dinasyddion Abertawe.
     
  • Rydym am annog yr holl gyfleoedd buddsoddi ac ariannu wrth wireddu'r amcan hwn gan gynnwys Bargen Ddinesig Llywodraeth y DU, Cronfa Codi'r Gwastad a Chronfa Ffyniant Gyffredin, Cronfa Fusnes Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, Economi a Chymru Greadigol ac arianwyr mawr eraill.
     
  • Rydym am sicrhau bod ein heconomïau lleol yn cael eu cefnogi i gyflawni cadernid yn wyneb heriau byd-eang, cenedlaethol a rhanbarthol yn y dyfodol, yn benodol canol y ddinas a'n busnesau a'n sefydliadau bach annibynnol sy'n rhan o strwythur ein cymunedau bach a mawr.
     
  • Rydym am ddarparu dull galluogol i gefnogi unigolion, busnesau a chymunedau drwy ein cymorth cyflogaeth a busnes, gweithgareddau adfywio, asedau diwylliannol, cysylltedd trafnidiaeth, cynllunio a fframweithiau cefnogi a rheoleiddio eraill wrth gyflawni'r mesurau ymarferol hyn.
     
  • Rydym am sicrhau bod Abertawe yn lle a nodweddir gan gymunedau cynaliadwy sydd â digon o dai o ansawdd da a lleoedd ar gyfer gwaith a hamdden.
     
  • Rydym am barhau i greu rhwydweithiau cryf, gweithgar gyda'n partneriaid allanol sy'n cyflawni ar y cyd â'r cyngor.
     
  • Rydym am fanteisio ar botensial twf sydd heb ei ddefnyddio i gynhyrchu ynni cynaliadwy, cyflawni ymrwymiadau sero net, gwarchod yr amgylchedd a hybu'r economi.

Yr heriau tymor hwy y bydd yr amcan lles hwn yn helpu i fynd i'r afael â hwy

  • Cefnogaeth ac adferiad ar ôl COVID-19.
     
  • Dyfodol digidol a chysylltiedig a modelau gweithio newydd.
     
  • Bwlch cynhyrchedd parhaus gyda gweddill y DU - roedd cynhyrchedd Abertawe (gwerth ychwanegol gros yr awr a weithiwyd) yn 85.9% o gyfartaledd y DU yn 2020.
     
  • Mae lefel iach o fusnesau'n cael eu sefydlu yn Abertawe ond mae maint cymharol y sylfaen busnes (508 o fusnesau fesul 10,000 o'r boblogaeth) yn is na chyfartaleddau Cymru (539) a'r DU (718). Mae'r cyfraddau goroesi blwyddyn a phum mlynedd ar gyfer mentrau wedi gwella ac yn 2020 roeddent yn unol â'r cyfraddau cyfatebol ar gyfer Cymru a'r DU, ond mae costau cynyddol nwyddau a gwasanaethau, yn enwedig costau ynni, a chyfraddau llog cynyddol yn creu amodau masnachu heriol iawn i fusnesau lleol.
     
  • Dyfodol newydd ar gyfer canol y ddinas a chanolfannau ardal a lleol llai ac addasu i ffyrdd newydd o weithio gan gynnwys dulliau trafnidiaeth a chysylltedd ac effaith gadarnhaol ar leoedd.
     
  • Newid yn yr hinsawdd ac argyfyngau natur, yr angen am addasu cyflym a chyflawni uchelgeisiau sero net y cyngor.
     
  • Problem barhaus diweithdra ac anweithgarwch a sicrhau cyflenwad o lwybrau a chyfleoedd gwirioneddol. Mae gweithgarwch economaidd a chyfraddau cyflogaeth yn Abertawe yn is na chyfartaleddau Cymru ac yn is na chyfraddau cyfatebol y DU.
     
  • Bwlch Incwm Aelwydydd - er y bu cynnydd o 8.5% yn Incwm Gwario Gros Aelwydydd yn Abertawe rhwng 2014 a 2019, roedd yn dal ar ei hôl hi o'i gymharu â Chymru a'r DU lle cafwyd cynnydd o 12.3% a 15.8% yn y drefn honno dros yr un cyfnod. Yn 2019 roedd Incwm Gwario Gros Aelwydydd yn Abertawe yn 75.9% o gyfartaledd y DU.
     
  • Bwlch cyfradd cyflog - dros y flwyddyn hyd at fis Ebrill 2021, bu cynnydd o 5.2% mewn enillion amser llawn canolrif blynyddol yn Abertawe (yn y gweithle), a oedd yn fwy na chyfartaledd Cymru (+1.2%) a'r DU (-0.6%). O ganlyniad, roedd y cyfraddau cyflog amser llawn canolrif blynyddol yn Abertawe yn 91.6% o gyfartaledd y DU ym mis Ebrill 2021.
     
  • Cyfrannu at leihad mewn amddifadedd, drwy greu cyflogaeth gynaliadwy sy'n talu'n dda. Mae pocedi o amddifadedd ar draws y sir, gyda nifer o ardaloedd ymysg y lefelau amddifadedd uchaf yng Nghymru. Ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2019, roedd gan Abertawe gyfran uwch na'r cyfartaledd o Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (ACEHI), ac roedd ymysg y 10% mwyaf difreintiedig yng Nghymru, gydag 17 (11.5%) o'i 148 ACEHI yn y 191 (10%) mwyaf difreintiedig.
     
  • Newid y cymysgedd sector busnes presennol i gyflogaeth sgiliau uwch, â chyflogau uwch. Ar hyn o bryd, mae 87.3% o gyflogaeth yn seiliedig ar y sector gwasanaeth, a thangynrychiolir busnesau yn y sectorau proffesiynol, gwyddonol a thechnegol sy'n dueddol o fod â swyddi sy'n talu cyflogau uwch ac sy'n gofyn am sgiliau gwell.
     
  • Mae gan Abertawe gyfran uwch o fusnesau manwerthu na chyfartaledd Cymru a'r DU - bydd y cynlluniau adfywio arfaethedig yn helpu i arallgyfeirio'r canolfannau dinesig ac ardal.
     
  • Sgiliau preswyl - parhau i wella sgiliau pobl i fanteisio ar gyfleoedd mewn diwydiannau newydd a rhai sy'n dod i'r amlwg.
     
  • Mynd i'r afael â bylchau mewn sgiliau fel gofal, lletygarwch ac adeiladu.
     
  • Cydnabod a gweithio gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol hirsefydlog, trosedd a phroblemau cysylltiedig a darparu dewisiadau a chefnogaeth wirioneddol.
     
  • Galluogi creu ffynonellau ynni cynaliadwy.
     
  • Helpu i leihau'r bwlch dichonoldeb eiddo masnachol gan ddarparu swyddfeydd hyblyg o ansawdd uchel mewn ymateb i lefelau cynyddol o ddiddordeb mewn buddsoddiad mewnol a thwf busnesau annibynnol lleol yng nghanol y ddwy dref a lleoliadau diwydiannol modern.
     
  • Cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy drwy adeiladu a chaffael cartrefi newydd a chwilio am atebion arloesol i addasu adeiladau presennol yn llety preswyl.
     
  • Ar ôl cwblhau'r SATC, parhau i fuddsoddi i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi presennol a lleihau effaith tlodi tanwydd ar breswylwyr.

Y camau y byddwn yn eu cymryd i gyflawni'r amcan lles hwn fydd:

Trawsnewid ein heconomi drwy sicrhau cyfleoedd ariannu a pharhau i gydweithio â'n partneriaid a'n rhwydweithiau adfywio lleol i roi'r cynllun adfywio economaidd ar waith. Byddwn yn gwneud y mwyaf o'r buddion drwy greu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant ar gyfer y rheini sy'n ddi-waith yn y tymor hir ac yn anweithgar yn economaidd drwy gymalau buddion cymunedol mewn contractau. Bydd ffocws hefyd ar y canlynol -

  • Arwain ar y gwaith o roi Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol De-orllewin Cymru ar waith yn Abertawe, a phecynnau gwaith cysylltiedig a ffrydiau ariannu fel Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU a ffynonellau Llywodraeth Cymru.
     
  • Parhau i gefnogi busnesau (rhai newydd a rhai sydd eisoes yn bodoli) drwy'r ddarpariaeth Busnes Abertawe.
     
  • Timau Iechyd Cyhoeddus yn sicrhau y gall busnesau redeg yn effeithiol drwy gadw at y ddeddfwriaeth berthnasol, boed hynny yn y sector lletygarwch ac arlwyo neu'r sector tacsis trwyddedig.
     
  • Helpu i greu miloedd o swyddi newydd i bobl Abertawe, gan anelu at ddarparu cyfleoedd cyflogaeth diogel o ansawdd uchel.
     
  • Cyflwyno rhaglen ddigwyddiadau bob blwyddyn, am y pum mlynedd nesaf, sy'n ehangu ac yn tyfu yn unol ag adfywio'r ddinas ac economi ymwelwyr sy'n tyfu.
     
  • Cyflwyno amrywiaeth o atyniadau newydd a chyffrous y gellir ymgolli ynddynt, cyngherddau haf a chyfnod newydd o sioeau'r Arena; fel rhan o raglen ddigwyddiadau sy'n tyfu'n fwy nag erioed (gan gynnwys y digwyddiad Ironman), a ddechreuodd gyda chefnogaeth gymunedol ar gyfer ddigwyddiadau'r Jiwbilî Platinwm.
     
  • Cadw Sioe Awyr Genedlaethol Cymru yn Abertawe, gan ddod â degau ar filoedd o ymwelwyr i'r ddinas ar gyfer y digwyddiad blynyddol hwn ac adolygu sut y gellir ei chyflwyno yn unol â'i thargedau carbon sero net.
     
  • Sicrhau tenant newydd mawr ar gyfer uned Debenhams yng Nghanolfan Siopa'r Cwadrant, gan sicrhau'r defnydd o'r uned hon ar gyfer y dyfodol.
     
  • Parhau i weithio gyda phartneriaid i adeiladu Rhwydwaith Creadigol cryf a chadarn i gefnogi asedau diwylliannol a hamdden ar draws canol y ddinas, y cylch a chanolfannau lleol sy'n bodoli eisoes, sy'n dod i'r amlwg ac yn y dyfodol.

Trawsnewid isadeiledd y ddinas a'r sir i gefnogi economi gref a chadarn drwy ganolbwyntio ar ddatblygiadau allweddol a gwella asedau allweddol, yn benodol:

  • Drwy weithio gyda'n partneriaid rhanbarthol, datblygu partneriaeth adfywio gwerth £1 biliwn a phartneriaeth strategol gwerth £750 miliwn gydag Urban Splash, sef ein partner strategol newydd, gyda ffocws cychwynnol ar Gam 2 Bae Copr, safle'r Ganolfan Ddinesig a safle St Thomas.
     
  • Gwneud cynnydd gyda datblygiadau Theatr y Palace a Neuadd Albert i sicrhau ein hadeiladau hanesyddol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol a cheisio cael ateb arloesol i sicrhau dyfodol yr adeilad Elysium.
     
  • Gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu defnyddiau masnachol yn y cyfamser.
     
  • Datblygu a hyrwyddo mwy o fyw yn y ddinas, gan gynnwys gwestai, mannau manwerthu, swyddfeydd a chyfleusterau bwyd a diod newydd.
     
  • Gwneud cynnydd ar brosiect newydd Gerddi Sgwâr y Castell.
     
  • Gwneud cynnydd ar brosiect Hwb Cymunedol newydd canol y ddinas sy'n darparu cartref newydd i'r Llyfrgell Ganolog.
     
  • Dechrau dymchwel Tŷ Dewi Sant fesul cam, a'r hen faes parcio aml-lawr.
     
  • Gwneud cynnydd gyda'r gwaith i adeiladu 71-72 Ffordd y Brenin, i greu hwb arloesi a fydd yn gartref i fusnesau newydd a hyd at chwe chant o swyddi newydd.
     
  • Parhau i ddatblygu a buddsoddi yn yr atyniad parc Skyline ar Fynydd Cilfái.
     
  • Bwrw ymlaen â thrafodaethau gwestai ar gyfer canol y ddinas a'r Stadiwm.
     
  • Drwy weithio mewn partneriaeth â Distyllfa Penderyn, cefnogi atyniad distyllfa wisgi newydd yng Nglandŵr.
     
  • Bwrw ymlaen â'r gwaith o ddatblygu ac ailagor coridor afon Tawe, gan gynnwys pontynau newydd.
     
  • Cyflwyno gwelliannau a datblygiadau newydd i'r promenâd, yn ogystal â goleuadau newydd o amgylch Bae Abertawe.
     
  • Ymrwymo i wella toiledau cyhoeddus.
     
  • Bwrw ymlaen â thrafodaethau am yr acwariwm rhyngweithiol newydd, gyda'r nod o gynnig profiad y gall ymwelwyr ymgolli ynddo ac adnodd addysgol ehangach.
     
  • Ymdrechu i fwrw ymlaen â thrafodaethau ynghylch gwasanaeth fferi newydd sy'n cysylltu Cymru â De-orllewin Lloegr.
     
  • Ymrwymo i fwrw ymlaen â thrafodaethau gyda phartneriaid ynghylch y Pentref Gwyddor Chwaraeon Rhyngwladol.
     
  • Ymrwymo i fuddsoddiad yn ein trefi a'n pentrefi.
     
  • Cwblhau'r gwaith o adnewyddu ac uwchraddio'r blociau tŵr sy'n weddill.
     
  • Darparu rhagor o gartrefi effeithlon o ran ynni a rhagor o dai fforddiadwy, ochr yn ochr â rhagor o fuddsoddiad mewn tai cymdeithasol.
     
  • Mae Timau Iechyd Cyhoeddus yn sicrhau bod eiddo rhentu preifat a chartrefi amlfeddiannaeth yn ddiogel i denantiaid a bod masnachwyr twyllodrus yn cael eu herlyn.
     
  • Cwblhau Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) 1a dechrau cynllunio ar gyfer SATC 2.
     
  • Parhau i'r cam nesaf o adeiladu Rhagor o Gartrefi, a chynnal y cynnydd ar ôlosod cartrefi cyngor ymhellach.

Hyrwyddo a gwella economi leol amrywiol a chynaliadwy drwy sicrhau fframwaith polisi cadarn:

  • Bwrw ymlaen â Chynllun Datblygu Lleol newydd Abertawe i ddarparu'r fframwaith cynllunio a chreu lleoedd diweddaraf ar gyfer arwain penderfyniadau ar gynigion datblygu.
     
  • Cytuno ar Strategaeth Bae Abertawe newydd.
     
  • Ailfodelu gwasanaethau, gan ganolbwyntio ar ddiwallu anghenion pobl o fewn y cyllid sydd ar gael.
     
  • Dechrau adolygiad o'r polisi cilfachau parcio i'r anabl.
     
  • Bwrw ymlaen â thrafodaethau TAN15 gyda Llywodraeth Cymru i ddod o hyd i ddatrysiad sy'n cefnogi'r datblygiad priodol.

Buddsoddi yn ein cymunedau i ddarparu isadeiledd cymunedol da:

  • Hyrwyddo'r defnydd cynaliadwy ac am ddim o gaeau chwaraeon i glybiau chwaraeon lleol.
     
  • Parhau i fuddsoddi mewn parciau a mannau chwarae.
     
  • Bwrw ymlaen â'r gwaith o gyflwyno wifi cyhoeddus am ddim.
     
  • Ymrwymo i gwblhau'r gwaith o uwchraddio ardaloedd chwarae.
     
  • Cwblhau'r gwaith o osod llochesi bysus.
     
  • Ymrwymo i osod biniau newydd ac i ddisodli biniau gwastraff cŵn gyda biniau cyffredinol mwy.
     
  • Ymrwymo i gyflwyno timau draenio newydd a rhaglenni PATCH (Tîm Gweithredu Blaenoriaeth ar gyfer Priffyrdd Cymunedol) newydd.
     
  • Cychwyn y gwaith o uwchraddio ffyrdd lleol gwerth £10 miliwn.
     
  • Gwneud cynnydd wrth gyflwyno caeau chwaraeon pob tywydd.
     
  • Ymrwymo i ddarparu gwell cyfleusterau parc sglefrio yn Abertawe.
     
  • Sicrhau bod adnoddau pwrpasol ar gael i fynd i'r afael â chwyn, sbwriel a mân waith ym mhob cymuned; recriwtio gweithredwyr ward lleol.

Erbyn diwedd 2023-2024 byddwn wedi:

  • Cyflwyno cyfleusterau sglefrfyrddio gwell.
  • Dechrau ar y gwaith gwerth £10 miliwn i wella ffyrdd lleol.
  • Hyrwyddo'r defnydd cynaliadwy ac am ddim o gaeau chwaraeon i glybiau chwaraeon lleol.
  • Sicrhau tenant ar gyfer Debenhams.
  • Gwneud cynnydd ar brosiect newydd Gerddi Sgwâr y Castell.
  • Dechrau dymchwel Tŷ Dewi Sant fesul cam, a'r hen faes parcio aml-lawr.
  • Cwblhau 71-72 Ffordd y brenin.
  • Gwneud cynnydd mewn trafodaethau am wasanaeth fferi newydd a fydd yn cysylltu Cymru â De-orllewin Lloegr.

Sut byddwn yn mesur cynnydd*

*Dros dro wrth aros am adolygiad a datblygiad data.

  • Prydlondeb wrth asesu ceisiadau cynllunio.
  • Cymeradwyo ceisiadau cynllunio o bwys.
  • Unedau tai a swyddfeydd masnachol wedi'u creu o ganlyniad i'r rhaglen Trawsnewid Trefi.
  • Gwerth buddsoddi mewnol yn Abertawe.
  • Gwariant twristiaeth.
  • Prosiectau sy'n cynnwys cymalau budd cymunedol a chreu nifer o wythnosau hyfforddiant.
  • Amserlen gyfartalog ar gyfer Chwiliadau Pridiannau Tir.

 

Cyfraniad yr amcan lles hwn at y nodau cenedlaethol
Cymru lewyrchusCymru gydnerthCymru sy'n fwy cyfartalCymru o gymunedau cydlynusCymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnuCymru iachachCymru sy'n gyfrifol ar lefel fydeang
UniongyrcholUniongyrcholUniongyrcholUniongyrcholUniongyrcholUniongyrcholAnuniongyrchol

Sut byddwn yn mwyafu ein cyfraniad at y nodau cenedlaethol drwy'r ffordd rydym yn gweithio

  • Atal problemau rhag digwydd neu waethygu - hyrwyddo cyfleoedd datblygu ar gyfer ynni adnewyddadwy a chludiant cynaliadwy i ddatblygu'r economi a helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.
     
  • Mynd i'r afael â heriau tymor hir - ail-lunio Abertawe a'r economi ranbarthol i ateb heriau economaidd y dyfodol a newid technolegol drwy'r Fargen Ddinesig a'r Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol newydd.
     
  • Gweithio mewn partneriaeth ag eraill - gweithio gyda thri awdurdod lleol arall, Llywodraeth Cymru, Prifysgolion, Byrddau Iechyd a'r sector preifat drwy'r Cydbwyllgor Corfforedig ac Adfywio Abertawe i ddarparu'r Fargen Ddinesig a'r Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol.
     
  • Osgoi gwrthdaro rhwng amcanion cyrff cyhoeddus - llunio Cynllun Datblygu Lleol newydd i gefnogi adfywio Abertawe a darparu glasbrint ar gyfer penderfyniadau cynllunio defnydd tir priodol a chyson ar gyfer y genhedlaeth bresennol a rhai'r dyfodol.
     
  • Cynnwys pobl - proses ymgynghori ac ymgysylltu helaeth i lunio cynlluniau adfywio, ac yn ystod pob cam o ddatblygu'n Cynllun Datblygu Lleol er mwyn nodi cyfleoedd i ddiwallu angen tai a darparu cyflogaeth.

 

Cyfraniad yr amcan lles hwn at Amcanion Lles y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
Plant yn cael y dechrau gorau mewn bywyd i fod y gorau y gallant fodPobl yn byw'n dda ac yn heneiddio'n ddaGweithio gyda naturCymunedau cryf
UniongyrcholUniongyrcholUniongyrcholUniongyrchol

Trechu tlodi a galluogi cymunedau

Pam mae'r flaenoriaeth hon yn amcan lles?

  • Rhwng 2023 a 2028, bydd yr argyfwng costau byw a'r heriau economaidd parhaus yn parhau i effeithio ar unigolion, teuluoedd a chymunedau ar draws Abertawe. Mae tlodi yn amlddimensiwn, yn gymhleth, yn tyfu ac yn effeithio ar ragor o bobl yng Nghymru. Mae gan y cyngor rôl bwysig i'w chwarae wrth helpu pobl i liniaru tlodi, gwella'u ffyniant personol drwy sgiliau a swyddi gwell a mynd i'r afael â'r materion allweddol sy'n dylanwadu ar dlodi fel digartrefedd.
     
  • Rydym hefyd yn gweld rôl i'n cymunedau o ran cefnogi pobl i ddarparu ymyriadau cynnar, gwella lles pobl leol a meithrin perthnasoedd cydweithredol â darparwyr gwasanaethau. Ein gweledigaeth ar gyfer y flaenoriaeth hon yw creu cymunedau croesawgar, cryf, cadarn, cysylltiedig a ffyniannus fel rhan o'n hymateb i drechu tlodi yn Abertawe a'i liniaru.
     
  • Mae trechu tlodi a galluogi cymunedau'n amcan lles oherwydd mae angen i ni:
    • barhau i ymateb i'r pwysau economaidd byd-eang - gan gynnwys yr argyfwng costau byw - sy'n effeithio ar ein cymunedau.
    • targedu cefnogaeth i bobl mewn tlodi neu sydd mewn perygl o dlodi er mwyn lliniaru tlodi a mynd i'r afael â'r effeithiau tymor hwy ar ein cymdeithas.
    • canolbwyntio ar helpu pobl i osgoi'r angen i ddefnyddio gwasanaethau drwy hyrwyddo ymyrryd yn gynnar a chamau gweithredu atalio.
    • gwreiddio profiad bywyd pobl mewn tlodi ar draws ein gwasanaethau i sicrhau ein bod yn deall ac yn diwallu'r anghenion hynny.
    • creu cymunedau sy'n ddiogel ac yn gadarn lle mae hawliau ac anghenion pobl yn cael eu parchu.
    • gwella ffyniant personol unigolion drwy gyfleoedd i ddatblygu sgiliau, gwella cyflogadwyedd, cael gafael ar waith a gofalu am eu lles eu hunain.

Yr heriau tymor hwy y bydd yr amcan lles hwn yn helpu i fynd i'r afael â hwy

  • Lefelau tlodi sy'n parhau i fod yn gyson uchel - gyda bron chwarter y bobl yng Nghymru'n byw mewn tlodi - ac yn effeithio ar ddisgwyliad oes, canlyniadau iechyd ac effeithiau andwyol ar yr ardaloedd tlotaf.
     
  • Profiadau pobl o dlodi yn cynnwys ystod o broblemau cyffredin gan gynnwys mynediad at adnoddau hanfodol fel tai, tanwydd, ynni, dillad, esgidiau, bwyd a dŵr, yn ogystal â chymorth gyda chyllid, eithrio o wasanaethau, a phroblemau emosiynol a chyda pherthnasoedd.
     
  • Y costau ychwanegol y mae'n rhaid i bobl ar incwm isel eu talu am hanfodion - fel cludiant, tanwydd a bwyd - oherwydd y premiwm tlodi, sydd wedi'i ddwysáu gan yr argyfwng costau byw cyfredol.
     
  • Y rôl y mae ein cymunedau'n ei chwarae wrth drechu tlodi ac atal anghenion pobl rhag cynyddu i'r pwynt lle mae angen gwasanaethau neu ymyriadau arnynt.
     
  • Newidiadau i'r boblogaeth a demograffeg yn ogystal ag anghenion y boblogaeth leol gan fod mwy o bobl hŷn yn ein cymunedau, mae ein cymunedau'n dod yn fwy trefol, ac mae angen adeiladu rhagor o gartrefi.
     
  • Cyfleoedd i weithio'n agosach â chymunedau i fynd i'r afael â'r heriau pwysig hyn, datblygu'r rhwydweithiau, cryfderau ac asedau ein hardaloedd lleol.

Y camau y byddwn yn eu cymryd i gyflawni'r amcan lles hwn fydd:

  • Cyfeiriad strategol - Byddwn yn datblygu dulliau o weithio gyda phobl sydd â phrofiadau bywyd i gydgynhyrchu a chyhoeddi ein gweledigaethau, ein canlyniadau a'n blaenoriaethau strategol cyson ar gyfer Trechu Tlodi a Galluogi Cymunedol.
     
  • Costau Byw - Byddwn yn lleihau lefelau tlodi ac yn lliniaru'r effeithiau o fod mewn tlodi drwy gyflwyno grantiau'r llywodraeth, darparu cyngor ar hawliau lles a rhoi cynlluniau wedi'u targedu ar waith gan gynnwys y fenter 'teithio ar fysus am ddim' a Lleoedd Llesol Abertawe.
     
  • Mynd i'r afael â digartrefedd a'i atal - Byddwn yn rhoi Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai ar waith i gefnogi pobl sy'n ddigartref neu sydd mewn perygl o ddod yn ddigartref.
     
  • Sicrhau bod mwy o gartrefi ar gael - Byddwn yn cynnig mwy o gartrefi ynni effeithlon a fforddiadwy i helpu i leihau costau aelwydydd, yn ogystal â chynyddu argaeledd ac ansawdd tai cymdeithasol i helpu mwy o bobl i gael mynediad i lety sy'n addas ar gyfer eu hanghenion.
     
  • Gwella ffyniant pobl - Byddwn yn darparu rhaglenni cyflogadwyedd, datblygiad sgiliau a gwelliannau cymunedol sy'n helpu pobl i wella eu rhagolygon ar gyfer y dyfodol a gwirfoddoli eu hamser i gyfrannu at eu cymunedau lleol.
     
  • Canolbwyntio ar ymyrryd yn gynnar - Byddwn yn cydweithio â chymunedau i'w helpu i chwarae rôl gryfach wrth atal anghenion unigolion rhag dwysáu, ac yn integreiddio â phartneriaid/ffynonellau cefnogaeth lleol i liniaru'r galw am wasanaethau.
     
  • Grymuso cymunedau - Byddwn yn gwreiddio egwyddorion hawliau dynol ar draws ein gwaith gyda chymunedau, gan rymuso pobl leol i gymryd mwy o ran mewn cydgynhyrchu gwasanaethau, cydlyniant cymunedol a gwerth cymdeithasol.
     
  • Cadw cymunedau'n ddiogel - Byddwn yn mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol drwy fentrau wedi'u targedu ac yn cefnogi pobl sy'n agored i 33 niwed neu sydd mewn perygl drwy wella presenoldeb gorfodi a defnyddio digwyddiadau/technolegau i ddiogelu pobl leol ac eiddo.
     
  • Adeiladu asedau cymunedol - Byddwn yn parhau i dyfu asedau pob cymuned ledled Abertawe drwy ddefnyddio dull sy'n seiliedig ar gryfderau i gynyddu mentrau cadarn a arweinir gan y gymuned (fel mentrau cymdeithasol) a sefydlu hybiau cymunedol integredig sy'n cyd-fynd â'n Cynllun Llyfrgelloedd Lleol.

Erbyn diwedd 2023-2024 byddwn wedi:

  • Cyhoeddi ein Strategaeth Trechu Tlodi ddiwygiedig, gan weithio'n gydgynhyrchiol gyda'n partneriaid a phobl sydd â phrofiad uniongyrchol o dlodi.
  • Datblygu Fframwaith Perfformiad Trechu Tlodi sy'n cydlynu amcanion, canlyniadau a mesurau perfformiad sy'n ymwneud â threchu tlodi.
  • Dechrau adolygiad o Bolisi Dyrannu Tai'r cyngor i sicrhau ffocws ar ddarparu cartrefi addas i bobl sy'n agored i niwedd, y rheini sy'n anfwriadol ddigartref a phobl a all fod yn cael trafferth gyda thlodi.
  • Cytuno ar strategaeth i gefnogi unigolion digartref wrth i'r defnydd o westai COVID-19 ddod i ben, wrth barhau â'n haddewid 'gwely ar gael bob amser'.
  • Cefnogi sefydlu Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy Abertawe.
  • Cyhoeddi ein Polisi Gwirfoddoli Corfforaethol i ddatblygu a rheoli gweithredu gwirfoddol yn y sefydliad.

Sut byddwn yn mesur cynnydd*

*Dros dro wrth aros am adolygiad a datblygiad data.

  • Nifer (gwerth) y grantiau a glustnodwyd i unigolion sy'n ymgeisio am gyllid costau byw.
  • Nifer (gwerth) y grantiau a glustnodwyd i fusnesau sy'n ymgeisio am gyllid costau byw.
  • Nifer (gwerth) yr hawliadau budd-dal a hawliwyd drwy Gyngor Hawliau Lles.
  • Yr amser a gymerwyd (dyddiau) i brosesu ceisiadau Gostyngiad Treth y Cyngor a Budd-dal Tai.
  • Yr amser a gymerwyd (dyddiau) i brosesu newidiadau mewn amgylchiadau Gostyngiad Treth y Cyngor a newidiadau mewn amgylchiadau Budd-dal Tai.
  • Nifer y tai fforddiadwy newydd a adeiladwyd.
  • Nifer y bobl sy'n cael cyflogaeth drwy Gefnogaeth Cyflogadwyedd.
  • Nifer yr oedolion sy'n ennill cymwysterau achrededig drwy Dysgu Oedolion.
  • Nifer y bobl sy'n gwirfoddoli drwy gynlluniau gwirfoddoli'r cyngor.
  • The number of beneficiaries who have attended the 'Get Swansea online' programme.

 

Cyfraniad yr amcan lles hwn at y nodau cenedlaethol
Cymru lewyrchusCymru gydnerthCymru sy'n fwy cyfartalCymru o gymunedau cydlynusCymru o ddiwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnuCymru iachachCymru sy'n gyfrifol ar lefel fydeang
UniongyrcholAnuniongyrcholUniongyrcholUniongyrcholAnuniongyrcholUniongyrcholAnuniongyrchol

Sut byddwn yn mwyafu ein cyfraniad at y nodau cenedlaethol drwy'r ffordd rydym yn gweithio

  • Atal problemau rhag digwydd neu waethygu - byddwn yn ymyrryd yn gynnar ac yn defnyddio partneriaethau strategol a mentrau a arweinir gan y gymuned i gymryd ymagwedd ataliol at dlodi a'i effeithiau ehangach i sicrhau yr eir i'r afael ag anghenion cynyddol cyn bod angen ymyriadau gwasanaeth.
     
  • Mynd i'r afael â heriau tymor hir - byddwn yn sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion tymor byr pobl mewn tlodi (fel yr angen am dai ac adnoddau hanfodol fel bwyd a dillad) a helpu pobl i wella'u ffyniant personol a'u dyheadau tymor hir ar gyfer y dyfodol.
     
  • Gweithio mewn partneriaeth ag eraill - byddwn yn gweithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid gan gynnwys cymunedau lleol eu hunain i adlewyrchu amrywiaeth ein poblogaeth a'r cyfleoedd sydd ar gael o gydweithio ac integreiddio gwasanaethau.
     
  • Osgoi gwrthdaro rhwng amcanion cyrff cyhoeddus - byddwn yn datblygu fframwaith ar gyfer cysylltu'n canlyniadau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol sy'n dangos cyfraniadau ein gwasanaethau a'n rhaglenni trawsnewid i strategaethau, polisïau ac amcanion cyrff cyhoeddus.
     
  • Cynnwys pobl - byddwn yn gwreiddio egwyddorion hawliau dynol a chydgynhyrchu ar draws ein rhaglenni a'n mentrau trechu tlodi a galluogi cymunedau, gan fapio profiadau ac adlewyrchu lleisiau pobl sydd â phrofiad uniongyrchol o dlodi.

 

Cyfraniad yr amcan lles hwn at Amcanion Lles y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
Plant yn cael y dechrau gorau mewn bywyd i fod y gorau y gallant fodPobl yn byw'n dda ac yn heneiddio'n ddaGweithio gyda naturCymunedau cryf
UniongyrcholUniongyrcholAnuniongyrcholUniongyrchol

Cyflawni ar Adfer Natur a Newid yn yr Hinsawdd

Pam mae'r flaenoriaeth hon yn amcan lles?

  • Yn dilyn datganiadau Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru, datganodd y cyngor Argyfwng Hinsawdd ym mis Mehefin 2019 ac Argyfwng Natur ym mis Tachwedd 2021.
     
  • Gan ddefnyddio map llwybr Llywodraeth Cymru i sero net, bydd Cyngor Abertawe'n cyd-fynd â'i egwyddorion, gan wybod beth sydd angen ei wneud yn awr, erbyn 2022/26, carbon isel yn dod yn norm ac erbyn 2030 lle mae dewis digarbon yn arfero.
     
  • Mae llywodraethu cadarn wedi'i sefydlu yn y cyngor i weithredu ar heriau o'r fath a bydd yr holl weithgarwch yn cael ei ysgogi o fewn paramedrau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, y Cynllun Cydraddoldeb Strategol a'r Cynllun Corfforaethol a Chynllun Lles BGC Abertawe.
     
  • Er mwyn sicrhau, yn ogystal â chyflawni sero net 2030 ar gyfer Cyngor Abertawe, byddwn yn gweithio gyda phartneriaid, sefydliadau, ysgolion, busnesau i gefnogi Abertawe fel sir gyfan a dinasyddion yn ei hymdrechion i ddod yn sero net erbyn 2050, gan gyd-fynd â Cymru Sero net Cyllideb Garbon (2) 2021/2025. Sefydlu Siarterau Hinsawdd a Natur a Wal Addewid i annog cyfranogiad gweithredol a helpu i adeiladu Abertawe iachach, fwy llewyrchus a bioamrywiol/ecolegolgadarn.
     
  • Abertawe yw un o'r siroedd mwyaf ecolegol gyfoethog ac amrywiol yn y DU. Mae angen cynnal, gwella a rheoli ei hamrywiaeth unigryw o gynefinoedd a rhywogaethau a'i hamrywiaeth hyfryd o barciau, mannau gwyrdd, gwarchodfeydd natur, traethau a thirweddau yn gynaliadwy er budd pawb nawr ac yn y dyfodol.
     
  • Mae ein hamgylchedd naturiol a bioamrywiaeth dan fygythiad ac yn dirywio oherwydd gweithgareddau anghynaladwy bodau dynol. Mae cynefinoedd a rhywogaethau'n cael eu colli ar gyfradd ddychrynllyd ac anghynaladwy. Mae angen i ni gynyddu ymwybyddiaeth o effeithiau colli bioamrywiaeth a newid yn yr hinsawdd yn lleol a darparu gwybodaeth, cyngor, a chefnogaeth ymarferol a chymhellion i annog eraill i gymryd camau a chydweithio i ddarparu atebion cadarnhaol i'r heriau hyn.
     
  • Rydym am i bawb gael mynediad at amgylchedd naturiol eithriadol Abertawe, ei ddeall, ei werthfawrogi a chael budd ohono ac i chwarae eu rhan wrth ofalu amdano a'i wella, gan arwain at Abertawe iachach, wyrddach a mwy llewyrchus.
     
  • Mae ein goroesiad ac ansawdd bywyd yn y dyfodol yn dibynnu ar amgylchedd naturiol cadarn, iach, yr amryfal fuddion y mae'n eu darparu i gymdeithas ac ar leihau ein hallyriadau carbon i sero net.
     
  • Mae gennym gyfrifoldeb moesol i ofalu am fioamrywiaeth am ei gwerth cynhenid ei hun.

Yr heriau tymor hwy y bydd yr amcan lles hwn yn helpu i fynd i'r afael â hwy

  • Bydd targed 2030 y sector cyhoeddus, cyn targed 2050 Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru gyfan, yn rhoi'r cyfle gorau i ni o gadw cynhesu byd-eang yn is na 1.5°C. Dyma'r pwynt tyngedfennol pan fydd effeithiau'r hinsawdd rydym eisoes yn eu profi'n mynd o fod yn ddrwg i fod o bosib yn drychinebus. Byddwn yn gweld systemau naturiol yn croesi pwyntiau perygl, gan sbarduno newidiadau parhaol fel stormydd eithafol, tywydd poeth, colli cynefinoedd naturiol a rhywogaethau ar raddfa eang.
  • Rydym ar adeg dyngedfennol o ran adferiad natur a heb newid trawsnewidiol brys, bydd llawer o'n rhywogaethau a'n cynefinoedd yn parhau i ddirywio neu ddiflannu.
  • Atal a gwrthdroi colli bioamrywiaeth drwy leihau niwed a defnydd anghynaladwy a symud ymlaen at sefyllfa lle rydym yn gweithio gyda natur i gynnal ecosystemau cydnerth, iach a fydd yn parhau i ddarparu buddion ansawdd bywyd tymor hir (neu wasanaethau ecosystem) rydym yn dibynnu arnynt.
  • Mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, sef un o'r heriau mwyaf rydym yn eu hwynebu ac mae angen i ni leihau ein hôl troed carbon ac i liniaru ar gyfer y risgiau a'r effeithiau tebygol ac addasu iddynt.
  • Creu swyddi gwyrdd carbon isel cyfrifol a chynaliadwy'n amgylcheddol sydd o ansawdd uchel sy'n gwneud yn fawr o'n hadnoddau naturiol unigryw e.e. drwy dwristiaeth amgylcheddol, rheoli tir a'r arfordir yn gynaliadwy, cynhyrchu bwyd lleol, rheoli gwastraff cynaliadwy, effeithlonrwydd ynni, ynni adnewyddadwy a dal carbon. O ganlyniad, byddwn yn archwilio ac yn cefnogi prosiectau fel ynni adnewyddadwy ar y tir ac ar y môr sy'n cyd-fynd â'r uchelgeisiau hyn.
  • Lleihau anghydraddoldebau mewn iechyd a lles drwy gynnal a gwella amgylchedd naturiol hygyrch o safon uchel ynghyd â sicrhau mynediad teg at ynni carbon isel, cartrefi, opsiynau teithio, bwyd o ffynonellau cynaliadwy a chyfleoedd swyddi gwyrddach.
  • Bydd rheoli a gwella ansawdd ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy gan gynnwys aer, dŵr, priddoedd a bioamrywiaeth yn helpu i gynyddu cadernid ecolegol Abertawe a lles ei phreswylwyr.

Y camau y byddwn yn eu cymryd i gyflawni'r amcan lles hwn fydd:

Cyngor Abertawe Sero Net erbyn 2030

  • Cyflawni allyriadau carbon sero net erbyn 2030, gan ddilyn y Cynllun Cyflawni Cyngor Abertawe Sero Net 2030 a gymeradwywyd.
  • Lleihau effaith y cyngor ar yr amgylchedd, gan fonitro drwy broses adrodd Llywodraeth Cymru ar y 6 chategori sefydliadol.

 

Mae'r 6 chategori sefydliadol
Adeiladau ac YnniCerbydlu ac Offer Symudol EraillDefnydd Tir (Gwrthbwyso)
Gwastraff - GweithredolFfyrdd newydd o weithioCadwyn gyflenwi

 

  • Gosod mwy o oleuadau stryd LED.
  • Datblygu map plannu coed newydd ledled y sir sy'n ein galluogi i blannu miloedd o goed newydd.
  • Parhau i adolygu cerbydlu trafnidiaeth y cyngor er mwyn manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i ddefnyddio cerbydlu gwyrdd yn unol â'i strategaeth cerbydlu gwyrdd.

Abertawe Sero Net erbyn 2050

  • Cefnogi uchelgais ehangach Abertawe, gan weithio ochr yn ochr â llofnodwyr y Siarter Hinsawdd, BGC, dinasyddion, ysgolion, busnesau, grwpiau cymunedol a phartneriaid amgylcheddol i helpu i gyflawni uchelgais Llywodraeth Cymru o gael Cymru Sero Net erbyn 2050.

 

Cymru Sero Net erbyn 2050
Cynhyrchu Trydan a GwresCludianAdeiladau Preswyl
Diwydiant a BusnesAmaethyddiaethEconomi Gwastraff a Chylchol
Addysg ac YmgysylltuCyfoethogi ein Hadnoddau NaturiolDefnydd Tir, Newid Defnydd Tir a Choedwigaeth

 

  • Datblygu Cynllun Addasu a Lliniaru Abertawe.
  • Cefnogi cyflwyno cam cyntaf y prosiect Morlyn Eden Las.
  • Bwrw ymlaen â datblygu fferm ynni solar sy'n cael ei gweithredu gan y cyngor ar safle Tir John y ddinas.
  • Anelu at wneud gwelliannau glasu mewn cymdogaethau.
  • Cefnogi a galluogi cynyddu ac argaeledd pwyntiau gwefru cerbydau trydan a datblygu strategaeth gwefru cerbydau trydan ehangach.
  • Bwrw ymlaen â thrafodaethau ar ddatblygu hwb tanwydd hydrogen.
  • Gweithio tuag at gyhoeddi llwybrau Teithio Llesol newydd, sy'n datblygu'r amgylchedd adeiledig a naturiol ac sy'n annog lefelau uwch o weithgarwch corfforol.

Adfer Natur

  • Datblygu a monitro'r gwaith o gyflwyno'r Cynllun Bioamrywiaeth Corfforaethol Adran 6 a'r nod Cymru Gydnerth drwy ddulliau cynllunio busnes blynyddol a 38 dulliau adrodd hyd at 2028. Byddwn yn adrodd i Lywodraeth Cymru bob 3 blynedd yn unol â'n Dyletswydd Bioamrywiaeth.
     
  • Cyfrannu at adolygu, cyflwyno a monitro'r Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol a'r Strategaeth Isadeiledd Gwyrdd ledled y Sir.
     
  • Gweithio i wella cadernid ecosystem Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) sy'n eiddo i'r cyngor, Gwarchodfeydd Natur Lleol (GNLl), Safleoedd o Bwysigrwydd ar gyfer Cadwraeth Natur (SBCN) a mannau gwyrdd.
     
  • Cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o newid yn yr hinsawdd a'n hamgylchedd naturiol drwy ddarparu gwybodaeth, hyfforddiant a digwyddiadau.
     
  • Parhau i ddarparu rhaglen o blannu a rheoli blodau gwyllt a chymryd camau sy'n helpu i reoli rhywogaethau anfrodorol goresgynnol.
     
  • Ymgysylltu â chymunedau lleol i annog gwirfoddoli a'u cefnogi i weithredu er mwyn gwella a chynnal eu mannau gwyrdd a'u safleoedd bywyd gwyllt lleol.
     
  • Cymryd camau i gynnal a gwella ansawdd ein haer, ein dŵr a'n priddoedd.

Erbyn diwedd 2023-2024 byddwn wedi:

  • Rhoi adroddiad i Lywodraeth Cymru am allyriadau 2022/23 Cyngor Abertawe.
  • Gwneud cynnydd ar gam 2 y rhaglen ôl-osod adeiladau cyhoeddus.
  • Cyflawni ail flwyddyn o brosiectau gyda'n partner amgylcheddol.
  • Cytuno ar fodel datblygu ac wedi gwneud cynnydd gyda datblygiad fferm solar Tir John.
  • Cytuno ar gynnydd ar y prosiect Eden Las gyda'n partner datblygu a'i gyhoeddi.
  • Meithrin perthnasoedd gwaith cydweithredol cryf â llofnodwyr siarter yr hinsawdd ar agenda Abertawe 2050.
  • Dechrau rhoi ein Strategaeth Trawsnewid i Gerbydau Allyriadau Isel Iawn (ULEV) 2021/2030 ar waith, gyda thros 150 o bwyntiau gwefru ULEV i gerbydau a cherbydluoedd.
  • Dechrau'r rhaglen gosod goleuadau stryd.
  • Cytuno ar strategaeth plannu a rheoli coed ddiweddaredig.
  • Plannu cannoedd o goed newydd.
  • Cynhyrchu cyfres o fapiau Yn Wyllt am eich Ward i gefnogi cymunedau wrth nodi cyfleoedd i wella mannau gwyrdd lleol a safleoedd bywyd gwyllt a'u cynnwys mewn gweithgareddau gwirfoddoli.
  • Drafftio Cynlluniau Rheoli ar gyfer Gwarchodfeydd Natur Lleol sy'n eiddo i'r cyngor.
  • Triniaeth benodol ar gyfer rhywogaethau estron goresgynnol ar safleoedd natur a/neu gael gwared arnynt.
  • Cynhyrchu cyfres o fodiwlau e-hyfforddiant Newid yn yr Hinsawdd ac Adferiad Natur.
  • Parhau gyda'r treialon rheoli glaswelltir amwynder ac ymylon ffyrdd i sefydlu dolydd blodau gwyllt sy'n llawn rhywogaethau.
  • Paratoi Cynllun Gweithredu Adferiad Natur Lleol a Strategaeth Gwybodaeth Ddaearyddol ar draws y sir.

Sut byddwn yn mesur cynnydd*

*Dros dro wrth aros am adolygiad a datblygiad data.

  • Gwreiddio Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd a Natur.
  • Monitro gostyngiadau allyriadau'n flynyddol drwy broses adrodd Llywodraeth Cymru.
  • Monitro cynnydd yn erbyn 30 o gamau gweithredu erbyn 2030 ar gyfer cynllun cyflawni Cyngor Abertawe yn flynyddol.
  • Adrodd yn rheolaidd am lwyddiannau cydweithio gyda llofnodwyr Siarter yr Hinsawdd, BGC, dinasyddion, ysgolion, busnesau, grwpiau cymunedol a phartneriaid amgylcheddol.
  • Cyflawni'r Cynllun Bioamrywiaeth Corfforaethol Adran 6, ochr yn ochr â Chynllun Gweithredu Adferiad Natur mewn cydweithrediad â Phartneriaeth Natur Abertawe a mabwysiadu Strategaeth Isadeiledd Gwyrdd ledled y sir. Parhau i fonitro ansawdd aer, dŵr a phridd.

 

Cyfraniad yr amcan lles hwn at y nodau cenedlaethol
Cymru lewyrchusCymru gydnerthCymru sy'n fwy cyfartalCymru o gymunedau cydlynusCymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnuCymru iachachCymru sy'n gyfrifol ar lefel fydeang 
UniongyrcholUniongyrcholAnuniongyrcholUniongyrcholAnuniongyrcholUniongyrcholUniongyrchol

Sut byddwn yn mwyafu ein cyfraniad at y nodau cenedlaethol drwy'r ffordd rydym yn gweithio

  • Atal problemau rhag codi neu waethygu - Drwy roi terfyn ar ddirywiad bioamrywiaeth a chynnal a chyfoethogi amgylchedd naturiol cydnerth, byddwn yn cynnal gwasanaethau ecosystemau hanfodol (e.e. lliniaru llifogydd, ansawdd aer a dŵr, storio carbon a pheillio) a helpu i gynnal iechyd, lles ac ansawdd bywyd pobl. Drwy helpu pobl i ddeall achosion y problemau ac esbonio y gallwn atal problemau rhag digwydd drwy weithio gyda'n gilydd. Drwy gyflawni targedau sero net gallwn helpu i osgoi cynhesu byd-eang a chanlyniadau dilynol. Bydd gweithgaredd addasu yn ein helpu i baratoi ar gyfer newid sydd eisoes wedi'i nodi'n rhywbeth na ellir ei osgoi.
     
  • Mynd i'r afael â heriau tymor hir - Rydym am wrthdroi colli bioamrywiaeth, hyrwyddo ecosystemau cydnerth iach a chryfhau isadeiledd gwyrdd i addasu a lliniaru ar gyfer effeithiau newid yn yr hinsawdd a sicrhau bod ein hamgylchedd naturiol a'r buddion a'r gwasanaethau a ddarperir ganddo'n cael eu gwarchod er budd cenedlaethau'r dyfodol. Rydym am gyflawni carbon sero net.
     
  • Gweithio mewn partneriaeth ag eraill - Byddwn yn parhau i gefnogi a chydweithio ag eraill fel llofnodwyr Siarter yr Hinsawdd, BGC, dinasyddion, ysgolion, busnesau, grwpiau cymunedol a phartneriaid amgylcheddol i gydgysylltu'r gwaith o gynllunio a chyflawni camau gweithredu a defnyddio adnoddau i'r eithaf.
     
  • Osgoi gwrthdaro rhwng amcanion corff cyhoeddus - Drwy gynyddu ymwybyddiaeth o fioamrywiaeth a newid yn yr hinsawdd a sicrhau ei bod yn cael ei hystyried ar gamau cynnar gwneud penderfyniadau/dylunio cynlluniau a phrosiectau, gellir lleihau'r potensial ar gyfer gwrthdaro.
     
  • Cynnwys pobl - Byddwn yn datblygu gallu ac yn cyflawni mwy drwy gynnwys a chefnogi'r gymuned leol i gyfranogi wrth nodi a chyflwyno mentrau sy'n cynnal ac yn gwella'r amgylchedd naturiol ac yn lleihau ein hôl troed carbon. Bydd rhagor o bobl yn gallu cael mynediad i'w hamgylchedd naturiol a'i fwynhau a chyfrannu at liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd.

 

Cyfraniad yr amcan lles hwn at Amcanion Lles y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
Y Blynyddoedd CynnarPobl yn byw'n dda ac yn heneiddio'n ddaGweithio gyda naturCymunedau cryf
UniongyrcholUniongyrcholUniongyrcholUniongyrchol

Trawsnewid a Chadernid Ariannol

Pam mae'r flaenoriaeth hon yn amcan lles?

  • Rhwng 2023 a 2028 bydd heriau eithriadol yn wynebu unigolion, cymunedau, a chyrff cyhoeddus yn Abertawe, yn enwedig o ganlyniad i'r dirwasgiad cyfredol. Ar adeg pan fo angen gwasanaethau cyhoeddus fwyaf ar ein poblogaeth, maent dan fygythiad wrth i'n costau gynyddu ond mae ein cyllid yn gostwng mewn termau go iawn.
     
  • Yn y cyd-destun hwnnw, os yw'r cyngor am gyflawni'i rwymedigaethau statudol a chyflawni'r ymrwymiadau y mae wedi'u gwneud, bydd angen i ni arloesi a thrawsnewid sut rydym yn gweithredu, gan weithio'n agosach nag erioed gydag eraill, a pharhau i sicrhau bod popeth rydym yn ei wneud yn canolbwyntio ar ddiwallu anghenion ein poblogaeth.
     
  • Ein gweledigaeth ar gyfer y flaenoriaeth hon yw cyflawni, drwy drawsnewid, yr un canlyniadau, os nad canlyniadau gwell, ar gyfer ein poblogaeth a gwella'n heffeithlonrwydd drwy wneud newidiadau sylweddol i'r ffordd rydym yn gweithio a sut y caiff ein gwasanaethau eu cynllunio a'u darparu.
     
  • Mae Trawsnewid a Chadernid Ariannol yn amcan lles oherwydd mae angen i ni:
    • rheoli cyllid cyhoeddus yn gynaliadwy, gan gydnabod y cyfyngiadau enfawr y gwyddwn y byddwn yn eu hwynebu dros gyfnod y cynllun;
    • sicrhau bod y cyngor wedi'i ddiogelu'n ddigonol rhag risgiau allanol mawr fel achosion o doriadau data a seiberddiogelwch a heriau recriwtio a chadw sydd gennym ar draws y cyngor ac mewn rhai gwasanaethau'n benodol;
    • ailddylunio ac ailfodelu agweddau ar y sefydliad a'i wasanaethau i ddiwallu anghenion a disgwyliadau newidiol dinasyddion o fewn yr adnoddau sydd ar gael i ni;
    • gwella'n gwasanaeth cwsmeriaid i sicrhau bod ein dinasyddion yn gallu cael mynediad at gyngor, arweiniad, gwybodaeth a gwasanaethau'r cyngor sut a phryd y mae eu hangen arnynt;
    • gwella sut rydym yn ymgynghori, yn ymgysylltu ac yn cynnwys ein poblogaeth er mwyn ein helpu i ddylunio gwasanaethau effeithiol ac effeithlon;
    • lleihau ôl troed carbon y cyngor;
    • creu diwylliant sy'n gwerthfawrogi perfformiad uchel, dysgu a gwelliant parhaus.

Yr heriau tymor hwy y bydd yr amcan lles hwn yn helpu i fynd i'r afael â hwy

  • Mae'r rhagolygon cyllid cyhoeddus tymor hir yn debygol o barhau'n heriol.
     
  • Bydd newidiadau demograffig yn parhau i ysgogi galw cynyddol am wasanaethau'r cyngor ac anghenion mwyfwy cymhleth.
     
  • Bydd newidiadau demograffig yn effeithio ar y farchnad lafur leol a chyfansoddiad gweithlu'r cyngor.
     
  • Disgwylir i ddatblygiadau technolegol barhau i arwain y ffordd wrth ddiffinio sut y bydd cymdeithasau ac economïau modern yn rhyngweithio ac yn datblygu i'r dyfodol, yn enwedig ein hymagwedd at ryngweithio cymdeithasol, ble rydym yn gweithio, a sut rydym yn cael mynediad at wasanaethau allweddol fel addysg, iechyd, a gofal cymdeithasol.
     
  • Cydnabod na all y cyngor ddatrys heriau cymhleth, fel camddefnyddio sylweddau, cynllunio strategol a diwallu anghenion y boblogaeth hŷn ar ei ben ei hun, a bydd angen mwy o ymatebion system gyfan yn gynyddol, drwy rhagor o gydweithredu â phartneriaid a'r boblogaeth yr ydym yn eu gwasanaethu.

Y camau y byddwn yn eu cymryd i gyflawni'r lles hwn fydd:

  • Cynaliadwyedd Ariannol: Byddwn yn cynnal Strategaeth Ariannol Tymor Canolig gynaliadwy sy'n sicrhau bod adnoddau refeniw a chyfalaf y cyngor yn cyd-fynd â bodloni amcanion lles y cyngor a chyflawni ein rhwymedigaethau statudol dros dymor y cynllun. Byddwn yn sicrhau bod arbedion angenrheidiol yn cael eu gwneud, a bod cyfleoedd masnachol yn cael eu cymryd, lle bo hynny'n briodol.
     
  • Trawsnewid ein busnes: Byddwn yn cyflwyno gweledigaeth a nodau trawsnewid y cyngor drwy ddatblygu a gweithredu cynllun trawsnewid corfforaethol, gan ymgorffori'r prosiectau a'r rhaglenni newid trawsnewidiol allweddol o bob rhan o'r cyngor.
     
  • Trawsnewid Digidol: Byddwn yn gweithredu strategaeth ddigidol y cyngor, gan ddefnyddio technoleg ddigidol i wella bywydau pobl, i alluogi mynediad digidol at wasanaethau 24 awr y dydd, ac i wella effeithlonrwydd gweithredol.
     
  • Datblygu'r Gweithlu: Byddwn yn gweithredu strategaeth gweithlu'r cyngor a thrwy hynny yn datblygu gweithlu brwdfrydig ac ymroddedig sy'n arloesol, yn cael ei gefnogi, yn fedrus ac yn canolbwyntio ar gwsmeriaid.
     
  • Datblygiad Sefydliadol: : Byddwn yn sicrhau bod model gweithio'r sefydliad yn adlewyrchu anghenion y boblogaeth a dull gweithio ystwyth y cyngor. Byddwn yn adolygu'r strwythur Uwch-reolwyr, y cyflog a'r graddio i sicrhau eu bod yn briodol ac yn cyd-fynd â chynllun cyflog a graddio ehangach y gweithlu. Byddwn yn datblygu offer i helpu gwasanaethau i roi newid ar waith, gan gynnwys hyfforddiant, arweiniad, a chefnogaeth.
     
  • Rheoli Perfformiad a Llywodraethu: Byddwn yn parhau i ymgorffori hunanasesiad yn nhrefniadau rheoli perfformiad y cyngor ac yn datblygu 43 diwylliant o berfformiad uchel, dysgu a gwelliant parhaus. Byddwn yn sicrhau bod y cynllun corfforaethol, y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a'r Cynllun Trawsnewid yn cyd-fynd ac yn cefnogi anghenion tymor hir y boblogaeth. Byddwn hefyd yn adolygu cyfansoddiad y cyngor, gan gynnwys sicrhau bod trefniadau dirprwyo priodol ar gyfer aelodau a swyddogion yn eu lle.
     
  • Caffael: Byddwn yn parhau i ddatblygu'r gadwyn gyflenwi caffael yn lleol, yn rhanbarthol ac yng Nghymru gyfan er mwyn sicrhau bod ein gweithgarwch caffael yn parhau i fod yn foesegol, yn ymgorffori dyheadau cyflog byw go iawn ar draws y gadwyn gyflenwi ac yn pwyso'n drymach fyth ar werth cymdeithasol caffael, yn unol â'r egwyddorion datblygu cynaliadwy.
     
  • Ystâd weithredol: Byddwn yn parhau i resymoli ystâd weithredol y cyngor i gynyddu effeithlonrwydd a lleihau ein hôl troed carbon.
     
  • Gweithio mewn Partneriaeth: Byddwn yn parhau i gydweithio â'n partneriaid rhanbarthol i ddatblygu ein hamcanion lles, yn benodol mewn perthynas â chynllunio datblygu strategol, cynllunio trafnidiaeth ranbarthol, hyrwyddo lles economaidd a chyflwyno strategaeth ynni ranbarthol (drwy'r Cyd-bwyllgor Corfforedig), iechyd a gofal cymdeithasol (drwy bartneriaeth Gorllewin Morgannwg) a gwella addysg (drwy Partneriaeth). Byddwn hefyd yn parhau i gydweithio gyda phartneriaid lleol i ddatblygu a gweithredu atebion i'r heriau sy'n wynebu ein poblogaeth ac yn symud ymlaen â'n Cynllun Llesiant 2040 (drwy'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus).
     
  • Rhyngweithio â'n poblogaeth: Byddwn yn parhau i sicrhau, lle bo'n briodol, ein bod yn ymgynghori, yn ymgysylltu, ac yn cynnwys ein poblogaeth wrth ddylunio a darparu ein polisïau a'n gwasanaethau, gan wella ein gallu a'n gallu i gydgynhyrchu drwy brosiectau peilot ac ymarfer.
     
  • Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Hawliau Dynol: Byddwn yn parhau i ymgorffori cydraddoldeb, amrywiaeth, a hawliau dynol ym mhopeth rydyn ni'n ei wneud fel cyngor, gan ddefnyddio'r Gymraeg a phrofi ansawdd ein hasesiadau effaith integredig, a gweithio gyda phartneriaid i wneud Abertawe yn Ddinas Hawliau Dynol.

Erbyn diwedd 2023-2024 bydd gennym:

  • Gynllun Ariannol Tymor Canolig cytbwys.
  • Byddwn wedi cyflawni'r holl gynigion arbedion a gymeradwywyd yng Nghyllideb Derfynol 2023-2024.
  • Cynllun trawsnewid corfforaethol sy'n cyflawni newidiadau mawr ar draws y cyngor.
  • Gwreiddio System Cynllunio Adnoddau Menter newydd.
  • Cynyddu nifer defnyddwyr Cyfrif Abertawe a gwella'i ymarferoldeb.
  • Cyflwyno ymddygiadau arweinyddiaeth newydd a chynnig dysgu a datblygu ar gyfer rheolwyr.
  • Adolygu'r strwythur uwch-reoli a'r cynllun cyflog a graddio.
  • Cryfhau Fframwaith Rheoli Perfformiad a Sicrhau Ansawdd y cyngor.
  • Datblygu ein cadwyn gyflenwi leol ymhellach a hefyd sicrhau bod cyfleoedd masnachol yn cael eu datblygu lle bo hynny'n briodol.
  • Llai o allyriadau carbon o'n hystâd weithredol.
  • Cyflwyno hyfforddiant a phecynnau cymorth cydgynhyrchu ar draws y cyngor.
  • Datblygu cynllun gweithredu tymor canolig ar gyfer ehangu ein gwaith ar hawliau dynol ar draws Abertawe.

Sut byddwn yn mesur cynnydd*

*Dros dro wrth aros am adolygiad a datblygiad data.

  • Canran yr arbedion cytunedig a gynlluniwyd sy'n cael eu cyflawni o fewn y flwyddyn ariannol (100%)
  • Nifer deiliaid Cyfrif Abertawe (i'w cadarnhau)
  • Allyriadau carbon uniongyrchol o ystâd weithredol y cyngor (i'w cadarnhau)
  • Cyfradd salwch staff gyfartalog ar draws y cyngor (i'w chadarnhau)
  • Cyfradd trosiant staff y cyngor (i'w chadarnhau)
  • Cyfraddau cydymffurfio â hyfforddiant gorfodol (100%)
  • Canran yr anfonebau a dalwyd o fewn yr amserlen benodedig (i'w chadarnhau)
  • Canran y contractau a gaffaelwyd yn lleol / yn rhanbarthol / dros Gymru gyfan (i'w chadarnhau)
  • Canran y contractau a fydd yn darparu gwerth cymdeithasol (i'w chadarnhau)
  • Canran y cwynion corfforaethol sy'n cael eu datrys yn y cam cyntaf (targed 90%)
  • Nifer y taliadau ar-lein a dderbyniwyd trwy wefannau Dinas a Sir Abertawe
  • Nifer y ffurflenni a gwblhawyd ar-lein ar gyfer prosesau wedi'u hawtomeiddio'n llawn.
  • Nifer yr achosion o fynediad diawdurdod at ddata sydd wedi arwain at orfdaeth neu gosb ariannol gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

 

Cyfraniad yr amcan lles hwn at y nodau cenedlaethol
Cymru lewyrchusCryf CymruCymru sy'n fwy cyfartalCymru o gymunedau cydlynusCymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu Y GymraegCymru iachachCymru sy'n gyfrifol ar lefel fydeang
AnuniongyrcholAnuniongyrcholUniongyrcholAnuniongyrcholUniongyrcholAnuniongyrcholUniongyrchol

Sut byddwn yn mwyafu ein cyfraniad at y nodau cenedlaethol drwy'r ffordd rydym yn gweithio

  • Atal problemau rhag digwydd neu waethygu - gwella gwasanaeth cwsmeriaid a mynediad at gyngor, arweiniad, a chymorth drwy roi'r strategaeth ddigidol ar waith.
  • Mynd i'r afael â heriau tymor hir - sicrhau bod y Cynllun Corfforaethol, y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a'r Cynllun Trawsnewid yn cyd-fynd ag anghenion tymor hir y boblogaeth ac yn eu cefnogi.
  • Gweithio mewn partneriaeth ag eraill - cydweithio â sefydliadau yn rhanbarthol ac yn lleol i gefnogi anghenion y boblogaeth.
  • Osgoi gwrthdaro rhwng amcanion cyrff cyhoeddus - gweithio drwy drefniadau llywodraethu rhanbarthol a lleol sefydledig i sicrhau cysondeb rhwng amcanion cyrff cyhoeddus.
  • Cynnwys pobl - cynnwys dinasyddion lle bo hynny'n briodol wrth ddylunio a darparu polisïau a gwasanaethau, gan alluogi gweithredu a pherchnogaeth gymunedol.

 

Cyfraniad yr amcan lles hwn at Amcanion Lles y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
Plant yn cael y dechrau gorau mewn bywyd i fod y gorau y gallant fodPobl yn byw'n dda ac yn heneiddio'n ddaGweithio gyda naturCymunedau cryf
AnuniongyrcholAnuniongyrcholAnuniongyrcholAnuniongyrchol

 

4. Monitro cyflawniad - monitro perfformiad yn barhaol

Byddwn yn monitro'r cyflawni ac yn adolygu'n cynnydd wrth gyflawni'n hamcanion lles fel a ganlyn:

Sut byddwn yn monitro cynnydd

  • Drwy adroddiadau monitro perfformiad chwarterol a blynyddol i'r Cabinet.

Sut byddwn yn adrodd am gyflawniadau

  • Yn chwarterol ac yn flynyddol drwy'r Cabinet.
  • Adolygiad Perfformiad Blynyddol.

Pryd a sut caiff y cynllun hwn ei ddiwygio

  • Adolygiad a diweddariad blynyddol.

 

5. Camau nesaf - yr hyn ydym yn bwriadu ei wneud nesaf

Gwnaed cynnydd da wrth wreiddio ffyrdd cynaliadwy o weithio yn ein ffordd o wneud busnes, fel y dangoswyd yn y cynllun hwn; rydym am barhau i adeiladu ar hyn.

Er mwyn bodloni'n rhwymedigaethau'n llawn o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, rydym am:

  • sicrhau bod digon o allu ac adnoddau cydlynol wrth gynllunio'n strategol;
  • parhau i chwilio am ffyrdd o gynyddu cyfranogaeth dinasyddion;
  • ceisio creu arolwg strategol tymor hwy, yn edrych hyd at 25 neu fwy o flynyddoedd i'r dyfodol;
  • sicrhau integreiddio strategol a chydlyniant rhwng cynlluniau a strategaethau;
  • gweithio i sicrhau bod yr egwyddor datblygu gynaliadwy yn llywio'r strategaeth a'r broses gwneud penderfyniadau, a
  • pharhau i wreiddio ffyrdd cynaliadwy o weithio ymhellach.

 

6. Ble i gael mwy o wybodaeth

Strategaethau, cynlluniau a pholisïau

Perfformiad ac ystadegau

Cyllid a chyllideb

Craffu

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Diogelu a cham-drin

Ysgolion a dysgu

Hawliau plant a phobl ifanc

Bargen Ddinesig Bae Abertawe

Cynlluniau a pholisïau adfywio a datblygu

Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg (Yn agor ffenestr newydd)

Partneriaeth (Ein Rhanbarth ar Waith (ERW) gynt) (Yn agor ffenestr newydd)

Strategaethau tlodi ac atal tlodi

Newid yn yr hinsawdd a natur

Cyfle i ddweud eich dweud

Cynllun Hawliau Dynol a Chydraddoldeb Strategol

Yr iaith Gymraeg

 

Close Dewis iaith