Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynllun Corfforaethol 2023 / 2028 (diweddariad 2024 / 25)

Cyflwyno Abertawe Lwyddiannus a Chynaliadwy.

Rhagair

  1. Cyflwyniad
  2. Crynodeb o'r Datganiad Llesiant
  3. Cynnydd ers 2023
  4. Ein hamcanion llesiant
  5. Monitro cyflawniad - monitro perfformiad yn barhaol

Ble i gael mwy o wybodaeth

 

Rhagair

Mae Abertawe, fel gweddill Cymru a'r DU, yn wynebu cyfnod o newid dwys a pharhaus. Caiff cynghorau eu herio'n fwy nag erioed o'r blaen - ac mae'r galw cynyddol am wasanaethau, chwyddiant parhaus, pwysau ar y gweithlu, cyllidebau cyfyngedig ac anghydraddoldebau cynyddol i gyd yn golygu bod yn rhaid i ni barhau i feddwl a gweithio'n wahanol er mwyn diwallu anghenion ein cymunedau.

Er y pwysau hyn, rydym wedi gwneud cynnydd gwirioneddol er mis Mai 2023. Gan weithio ochr yn ochr â'n staff, ein partneriaid a'n preswylwyr, rydym wedi llwyddo i gyflawni ein prif ymrwymiadau - cefnogi'r rhai sydd ein hangen fwyaf, buddsoddi mewn gwasanaethau a seilwaith hanfodol, gwella canlyniadau i blant a theuluoedd, a chymryd camau gweithredu ystyrlon ynghylch yr hinsawdd a natur. Rydym yn falch o'r hyn rydym wedi'i gyflawni hyd yma, ond gwyddom fod llawer mwy i'w wneud.

Mae'r Cynllun Corfforaethol hwn sydd wedi'i ddiweddaru ar gyfer 2025-28 yn ychwanegu at y cynnydd hwnnw. Mae'n amlinellu camau nesaf ein hymateb i heriau mawr heddiw - o fynd i'r afael â'r argyfwng tai i wella iechyd a lles y cyhoedd, lleihau tlodi, cyflymu datgarboneiddio a rhoi hwb i gadernid economaidd lleol. Mae hefyd yn edrych i'r dyfodol, gan gydnabod bod angen i ni feddwl yn yr hirdymor, bod yn arloesol a chydweithio ym mhopeth a wnawn.

Rydym yn ymrwymedig i drawsnewid sut mae'r Cyngor yn gweithio er mwyn i ni fod yn gynaliadwy yn ariannol, yn fwy ymatebol i anghenion ein preswylwyr, a chanolbwyntio ar gyflawni'r canlyniadau gorau posibl gyda'r adnoddau sydd gennym. Golyga hyn ein bod yn croesawu technolegau newydd, yn cryfhau ein partneriaethau, ac yn parhau i wneud dewisiadau anodd ond angenrheidiol.

I lwyddo, mae'n rhaid i ni weithio gyda'n gilydd. Golyga hyn ein bod yn cynnwys trigolion wrth lunio gwasanaethau sy'n bwysig iddynt, yn gweithio mewn partneriaeth â gwasanaethau cyhoeddus eraill a'r trydydd sector, ac yn parhau i ganolbwyntio ar atal, tegwch a chynaliadwyedd. Trwy wneud hynny, gallwn greu Abertawe sy'n gryfach, yn wyrddach ac yn decach - nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
 

Y Cynghorydd Rob Stewart
Arweinydd y Cyngor

Martin Nicholls
Prif Weithredwr


1. Cyflwyniad

Mae'r Cynllun Corfforaethol diwygiedig hwn yn amlinellu Datganiad Llesiant Cyngor Abertawe a'i brif flaenoriaethau, a elwir yn Amcanion Llesiant, yn unol â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Datblygwyd yr amcanion yn wreiddiol yn 2023, ac maent yn adlewyrchu canlyniadau gwaith ymgysylltu eang â phreswylwyr a gwneud dadansoddiad cadarn o'r dystiolaeth gan gynnwys tueddiadau'r dyfodol, Adroddiad 2020 Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, ein hamcanion ar gyfer cydraddoldeb a'r Gymraeg, a'n hymrwymiadau i bolisïau craidd. Maent yn sylfaen i'n gweledigaeth ar gyfer Abertawe yn yr hirdymor ac yn rhoi arweiniad i ni o ran sut rydym yn cyfrannu at y saith nod llesiant cenedlaethol.

Fel sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith, rydym yn adolygu ein Hamcanion Llesiant yn flynyddol er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn berthnasol ac yn uchelgeisiol. Cadarnhaodd yr adolygiad diweddaraf, a gwblhawyd ddechrau 2025, fod pob un o'r chwe amcan yn parhau i fod yn briodol ac yn cyd-fynd â'r nodau cenedlaethol a'r angen lleol. Maent yn parhau i adlewyrchu heriau mwyaf dybryd Abertawe, o'r galw cynyddol am ofal cymdeithasol a'r angen i wella presenoldeb mewn ysgolion, i'r argyfwng costau byw, newid yn yr hinsawdd, a chadernid gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol.

Mae'r Cynllun hwn hefyd yn amlinellu'r camau rydym yn eu cymryd i gyflawni'r amcanion hyn ac yn disgrifio sut rydym yn ymgorffori'r pum ffordd o weithio sy'n diffinio datblygu cynaliadwy yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys:

  • Edrych ar ddyfodol y ddinas yn yr hirdymor.
  • Atal problemau cyn iddynt waethygu.
  • Cydweddu ein blaenoriaethau ar draws y gwasanaethau a chyda phartneriaid.
  • Cydweithio ar draws sectorau.
  • Cynnwys pobl yn y broses o wneud penderfyniadau sy'n effeithio arnynt mewn ffordd ystyrlon.

Trwy'r dull hwn, rydym yn llwyddo i gyflawni ein cyfrifoldebau lleol yn ogystal â chyfrannu'n helaeth ac yn integredig at greu Cymru decach, wyrddach a mwy cydnerth.

Cynllun Hawliau Dynol a Chydraddoldeb Strategol

Ers cymeradwyo Cynllun Corfforaethol 2023-2028, rydym wedi mabwysiadu Cynllun Cydraddoldeb Strategol newydd ar gyfer 2024-2028, sydd bellach yn canolbwyntio'n fwy penodol ar hawliau dynol ynghyd ag amcanion cydraddoldeb wedi'u diweddaru. Mae hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau, hyrwyddo cynhwysiant, a pharchu hawliau pob unigolyn. Rydym wedi mireinio ein Hamcanion Llesiant yn dilyn yr adolygiad blynyddol, gan ymateb i heriau fel yr argyfwng costau byw a newid yn yr hinsawdd. Rydym hefyd wedi gwella ein defnydd o asesiadau data ac effaith er mwyn llywio penderfyniadau ac addasu i ddyletswyddau newydd o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Mae'r newidiadau hyn yn cefnogi dull mwy integredig, sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sy'n canolbwyntio ar hawliau i gyflawni ein blaenoriaethau.

2. Ein datganiad llesiant

Mae'r adran hon yn crynhoi Datganiad Llesiant y Cyngor ac yn amlinellu sut mae ein Cynllun Corfforaethol yn bodloni gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'n esbonio'r dystiolaeth a gwaith ymgysylltu sy'n sail i'n Hamcanion Llesiant, y prif heriau rydym yn eu hwynebu, a sut mae ein gwerthoedd, egwyddorion a'n ffyrdd o weithio yn cefnogi'r broses gyflawni. Gyda'i gilydd, y rhain sy'n ffurfio'r sail i'n hymrwymiad hirdymor i wella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Abertawe a Chymru.

Ein heriau

Bydd Abertawe yn wynebu cyfres o heriau cymhleth ac esblygol dros y blynyddoedd i ddod. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Newid demograffig, sef poblogaeth sy'n tyfu, yn heneiddio ac yn fwy amrywiol gan greu gofynion newydd ar wasanaethau, yn enwedig iechyd, gofal cymdeithasol a thai.
  • Ansicrwydd economaidd, sef pwysau parhaus i ddenu buddsoddiad, rhoi hwb i gynhyrchiant, a mynd i'r afael â diweithdra a bylchau mewn sgiliau, gan addasu i awtomeiddio a thrawsnewid i economi carbon isel.
  • Pwysau tai cynyddol, sef mwy o ddigartrefedd, defnyddio llety dros dro, a'r angen am fwy o opsiynau tai fforddiadwy a thai â chymorth.
  • Cynaliadwyedd ariannol, sef bod cynghorau ledled Cymru, gan gynnwys Abertawe, yn wynebu pwysau digynsail yn sgil chwyddiant, dyfarniadau cyflog, galw cynyddol am wasanaethau, a llai o gyllid allanol, gyda phob un ohonynt yn effeithio ar ein gallu i gydbwyso cyllidebau a chreu trawsnewid yn gyflym.
  • Yr argyfwng hinsawdd a natur, gan gynnwys y risg o lifogydd, colli bioamrywiaeth, a'r heriau a ddaw yn sgil darparu llwybr credadwy i fod yn Sero Net erbyn 2030 yng nghanol ansicrwydd ariannol a rheoliadol.
  • Newidiadau cymdeithasol a diwylliannol, gan gynnwys tlodi hirsefydlog, anghydraddoldebau mewn mynediad at wasanaethau, anghenion iechyd meddwl cynyddol, a galw cynyddol am gymorth gan wasanaethau plant ac oedolion.
  • Gwydnwch digidol a seiberwydnwch, sef cynghorau yn fwy dibynnol ar seilwaith digidol wrth wynebu mwy o fygythiadau seiber a bylchau o ran capasiti mewn systemau critigol a'r gweithlu.
  • Diwygio gwasanaethau cyhoeddus, sef newid deddfwriaethol a rheoleiddiol gan gynnwys y Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus, yn gofyn am fodelau cydweithio, cynnwys y gymuned, ac arferion caffael newydd.

Gwelir yr heriau hyn yn ein Cofrestr Risg Strategol, sy'n nodi'r risgiau mwyaf a allai effeithio ar y Cyngor neu ein hatal rhag cyflawni ein blaenoriaethau. Mae'r risgiau corfforaethol cyfredol yn cynnwys:

  • Diogelu.
  • Digartrefedd a Chyflenwad Tai.
  • Effaith Tlodi.
  • Addysg a Sgiliau.
  • Cysylltu Gofal.
  • Recriwtio a Chadw'r Gweithlu.
  • Rheoli Ariannol a Chynllunio Ariannol Tymor Canolig.
  • Byw o fewn ein Cyllideb.
  • Cyflwyno'r Rhaglen Trawsnewid Corfforaethol.
  • Sero Net erbyn 2030.
  • Seiberddiogelwch, Diogelu Data, a Diogelwch Digidol.
  • Datblygu Strategaeth Wastraff Newydd.

Diweddarwyd ein Fframwaith Rheoli Risg Corfforaethol ym mis Ebrill 2024 i gryfhau dulliau llywodraethu, gwella gwelededd, a sicrhau bod risg yn rhan o gynllunio gwasanaethau ac ariannol. Trwy gyflawni'r Cynllun Corfforaethol hwn, ein Hamcanion Llesiant, a'r trawsnewid parhaus, ein nod yw lliniaru'r risgiau hyn a chreu Abertawe fwy cadarn, cynhwysol a chynaliadwy.

Ein gweledigaeth

Yn 2028 mae Abertawe yn lle sydd â chanol dinas defnydd cymysg ac economi leol ffyniannus. Mae'n fan lle gall pobl ennill y sgiliau a'r cymwysterau sydd eu hangen arnynt i lwyddo mewn bywyd, lle gall pawb gyflawni ei botensial a lle mae cymunedau'n wydn ac yn gydlynol. Mae Abertawe yn fan lle mae hawliau dynol yn cael eu parchu, a lle mae pobl yn cael eu diogelu rhag niwed a cham-fanteisio. Mae'n fan lle mae natur a bioamrywiaeth yn cael eu cynnal a'u gwella, a lle mae allyriadau carbon yn gostwng.

Ein hamcanion llesiant

Er mwyn ateb yr heriau hyn, a chyflawni'n gweledigaeth, rydym wedi blaenoriaethu chwe amcan lles. Sef:

  • Diogelu pobl rhag niwed - er mwyn sicrhau bod ein dinasyddion yn ddiogel rhag niwed a chamfanteisio.
  • Gwella Addysg a Sgiliau - fel bod pob plentyn a pherson ifanc yn Abertawe yn ennill y sgiliau a'r cymwysterau y mae eu hangen arnynt i lwyddo mewn bywyd.
  • Trawsnewid ein Heconomi a'n Seilwaith - fel bod gan Abertawe ganol dinas defnydd cymysg, ffyniannus ac economi leol a fydd yn cefnogi ffyniant ein dinasyddion.
  • Trechu Tlodi a Galluogi Cymunedau - fel y gall pob person yn Abertawe gyflawni ei botensial.
  • Cyflawni'r cynllun Adfer Natur a Newid yn yr Hinsawdd - fel ein bod yn cynnal ac yn gwella natur a bioamrywiaeth yn Abertawe, yn lleihau ein hôl troed carbon ac yn mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.
  • Trawsnewid a Chadernid Ariannol - fel ein bod ni a'r gwasanaethau rydym yn eu darparu'n gynaliadwy ac yn addas i'r dyfodol.

Yn 2024-25, diweddarwyd yr amcan 'Trechu Tlodi' i gynnwys 'Galluogi Cymunedau', sef dull sy'n seiliedig ar gryfderau sy'n gwerthfawrogi rôl unigolion, cymunedau a rhwydweithiau er mwyn mynd i'r afael â thlodi. Ail-enwyd yr amcan 'Trawsnewid a Chadernid Ariannol' i bwysleisio'r ffaith bod angen i'r Cyngor esblygu i fod yn sefydliad mwy cynaliadwy, sy'n gallu gwrthsefyll pwysau byd-eang, galw cynyddol, a llai o adnoddau.

Ein gwerthoedd

Mae tri gwerth eglur yn sail i'n Cynlluniau ac yn llywio'r ffordd rydym yn gweithio, sut rydym yn datblygu fel sefydliad a'n dull o wneud penderfyniadau ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

  • Ffocws ar Bobl: Byddwn yn canolbwyntio ar anghenion a chanlyniadau cymunedau ac ar wella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio yn Abertawe. Byddwn hefyd yn parchu, yn gwerthfawrogi ac yn cefnogi'n gweithwyr ac yn dangos y safonau uchaf o uniondeb.
     
  • Gweithio gyda'n gilydd: Byddwn yn hyrwyddo ymagwedd partneriaeth gyfan, gan weithio ar draws gwasanaethau i fwyafu adnoddau a gwybodaeth a byddwn yn gweithio gydag eraill y tu allan i'r cyngor i sicrhau ein bod yn blaenoriaethu ein hadnoddau er mwyn cael y gwasanaethau gorau ar gyfer ein cymunedau.
     
  • Arloesi: Byddwn yn hybu ac yn cefnogi diwylliant o arloesi. Byddwn yn meddwl ac yn gweithio'n wahanol i wella ein gallu i gyflawni ac ymdopi â'r heriau ariannol, demograffig a chymdeithasol rydym yn eu hwynebu. Arweiniodd yr ymateb i'r argyfwng Covid at arloesi a newidiadau sylweddol i'r ffordd mae'r staff yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau.

Ein hegwyddorion

Mae tair egwyddor allweddol yn parhau i fod yn sail i'n cynlluniau a'n blaenoriaethau. Mae'r egwyddorion hyn yn hanfodol i gyflawni ein Hamcanion Llesiant ac maent wedi'u hymgorffori yn y ffordd rydym yn gweithio ar draws y Cyngor a chyda'n partneriaid.

  • Cynaladwyedd: Rydym yn ymrwymedig i wella lles economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol Abertawe - nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae'r egwyddor hon yn llunio ein rhaglenni cynllunio a thrawsnewid yn yr hirdymor, gan sicrhau ein bod yn gweithredu yn ataliol, yn integreiddio gwasanaethau, ac yn cynnwys preswylwyr a chymunedau yn y broses o lunio ein gwaith. Mae cynaliadwyedd yn rhan ganolog o'n hymateb i newid yn yr hinsawdd, y galw am wasanaethau, a gwydnwch cymunedol, ac mae'n un o ofynion craidd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
  • Atal: Byddwn yn parhau i gymryd camau cynnar i gefnogi pobl sydd fwyaf mewn perygl, atal problemau rhag gwaethygu, a lleihau dibyniaeth ar wasanaethau cost uchel. Mae hyn yn cynnwys cryfhau gwydnwch teuluoedd a chymunedau, gwella mynediad at gymorth a chyngor yn gynnar, ac ailgynllunio gwasanaethau i leihau a rheoli'r galw yn well. Bydd dull sy'n seiliedig ar y Cyngor cyfan, sy'n defnyddio data a gwybodaeth fanwl, yn ein helpu i ganolbwyntio'r adnoddau ble byddan nhw'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf.
  • Cydweithio ac integreiddio: Mae angen cydweithio'n agos ar draws y sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol i gwrdd â'r heriau sy'n wynebu Abertawe. Rydym yn cryfhau'r broses o gydweithio gyda'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a phartneriaethau lleol a rhanbarthol eraill, gan gydweddu ein blaenoriaethau a'n hadnoddau er mwyn sicrhau canlyniadau gwell. Mae'r dull integredig hwn yn adlewyrchu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn ogystal â'n dyletswyddau o dan Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023, gan ein helpu i greu gwasanaethau cyhoeddus sy'n fwy unedig a chyfrifol yn gymdeithasol.

Ein dull cyflwyno - camau

Mae ein Cynllun Corfforaethol yn nodi sut mae ein holl Amcanion Llesiant, a'r camau penodol rydym yn eu cymryd i'w cyflawni, i gyd yn cyfrannu at y saith nod llesiant cenedlaethol a lles cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol Abertawe a Chymru.

Fodd bynnag, mae ein cyfraniad yn ymestyn y tu hwnt i'r Cynllun Corfforaethol ei hun. Er bod y Cynllun yn diffinio ein prif Amcanion Llesiant ac yn amlinellu ein cyfeiriad strategol, mae'n rhan o Fframwaith Rheoli Perfformiad ehangach. Mae hyn yn cynnwys Cynlluniau Gwasanaethau adrannol, sy'n nodi sut y mae gwasanaethau unigol yn cyfrannu at gyflawni ein hamcanion cyffredin. Gyda'i gilydd, mae'r Cynllun Corfforaethol a'r Cynlluniau Gwasanaethau yn rhoi darlun cyflawn o sut mae'r Cyngor yn cyfrannu at y nodau cenedlaethol ac yn darparu ar gyfer cymunedau Abertawe.

Dangosir y berthynas hon yn y diagram isod:

  • Meddwl yn yr hirdymor

Cynlluniwyd ein Cynllun Corfforaethol a'n Hamcanion Llesiant i fynd i'r afael â'r heriau presennol a'r rhai sy'n dod i'r amlwg yn yr hirdymor. Rydym yn parhau i gynyddu ein gallu i ragweld yn strategol, gan gefnogi'r broses o drawsnewid gwasanaethau i ddiwallu anghenion yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys galluogi twf economaidd, cefnogi cymunedau gwydn, lleihau'r effaith ar yr amgylchedd, gwella gwasanaethau cwsmeriaid, a chryfhau ein gweithlu. Mae meddwl yn yr hirdymor yn parhau i fod yn rhan ganolog o sut rydym yn dylunio ac yn cyflawni newid. 

  • Atal problemau cyn iddynt waethygu

Rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod ymyrryd yn gynnar ac atal problemau yn rhan ganolog o sut rydym yn gweithio. Mae ein Strategaeth Atal yn cefnogi'r broses o newid er mwyn gallu mynd i'r afael â gwraidd y broblem, lleihau'r galw am wasanaethau dwys, a gwella llesiant hirdymor. Rydym yn ymgorffori mwy o ddulliau atal yn y broses o wneud penderfyniadau, dylunio gwasanaethau, a chynllunio adnoddau ar draws y Cyngor.

  • Integreiddio ein hamcanion a'n partneriaethau

Mae ein Hamcanion Llesiant yn rhyng-gysylltiedig, gyda chynnydd mewn un maes yn creu cynnydd mewn meysydd eraill. Er enghraifft, mae gwella addysg a sgiliau yn hanfodol i fynd i'r afael â thlodi, creu twf economaidd, a rhoi sylw i anghydraddoldebau. Mae ein dull yn adlewyrchu natur integredig yr heriau rydym yn eu hwynebu, o newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth i gadernid economaidd a iechyd y cyhoedd. Rydym hefyd yn cydweithio â chyrff cyhoeddus eraill i wneud ein nodau yn gydnaws â'i gilydd ac i wneud y mwyaf o'r effaith gyfunol.

Rydym yn cymryd camau pendant i asesu sut mae polisïau, rhaglenni a gweithgareddau trawsnewid yn rhyng-gysylltu i sicrhau bod ein gwaith yn unedig, yn gydlynol ac yn cyd-fynd â'n Hamcanion Llesiant. Rydym yn defnyddio ein teclyn Asesu Effaith Integredig (IIA) a matrics rhyngddibynnol ar draws ein rhaglenni Trawsnewid Corfforaethol i nodi lle mae'r camau gweithredu yn atgyfnerthu ei gilydd neu mewn perygl o danseilio ei gilydd. Roedd y dulliau hyn yn cefnogi'r broses o adolygu'r Cynllun hwn ac yn helpu i lunio ein cyfraniad cyfunol at y nodau lles cenedlaethol a lles ehangach Abertawe.

  • Cydweithio ag eraill

Rydym yn gweithio'n agos gyda phartneriaid ar draws y sector cyhoeddus a phreifat, a'r trydydd sector i gyflawni ein Hamcanion Llesiant ac i wneud y mwyaf o'n cyfraniad at les cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd Abertawe a Chymru. Y prif feysydd cydweithio yw:

  • Gwella addysg - ymuno ag awdurdodau lleol eraill i ddarparu gwasanaethau gwella ysgolion rhanbarthol sy'n codi safonau ac yn rhannu arferion gorau.
  • Diogelu - gweithio gyda gweithwyr proffesiynol o asiantaethau allweddol drwy Fwrdd Diogelu Gorllewin Morgannwg i amddiffyn plant ac oedolion rhag camdriniaeth, niwed ac esgeulustod.
  • Trawsnewid economaidd - cydweithio â chynghorau cyfagos, Llywodraeth Cymru, prifysgolion, a'r sector preifat drwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe. Nod y rhaglen uchelgeisiol hon yw rhoi hwb o £1.8 biliwn i'r economi ranbarthol a chreu bron i 10,000 o swyddi newydd dros y 15 mlynedd nesaf.

Mae'r partneriaethau hyn yn hanfodol i fynd i'r afael â'r heriau sy'n gyffredin i ni a chyflawni canlyniadau gwell i'n cymunedau.

  • Cynnwys ein holl ddinasyddion yn yr hyn a wnawn:

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i gynnwys preswylwyr, gweithwyr, partneriaid, a rhanddeiliaid yn y broses o wneud penderfyniadau sy'n effeithio arnynt hwy, eu teuluoedd, a'u cymunedau. Mae ein Strategaeth Ymgynghori ac Ymgysylltu yn nodi fframwaith eglur i gefnogi gweithgarwch ymgysylltu cyson ac o ansawdd uchel ar draws y Cyngor, gan helpu gwasanaethau i gynllunio a gweithredu ffyrdd ystyrlon o gymryd rhan er mwyn llywio'r broses o wneud penderfyniadau.

Rydym yn ymrwymedig i ymgysylltu mewn ffordd gynhwysol ac i gymryd camau pendant i gynnwys trawstoriad eang o'r boblogaeth. Mae hyn yn cynnwys cynnal sgyrsiau rheolaidd â grwpiau a fforymau sefydledig fel y Rhwydwaith 50+, Fforwm LGBT, a rhwydweithiau cydraddoldeb eraill. Rydym yn ymgysylltu â phlant a phobl ifanc drwy gyfrwng Cynghorau Ysgol, Llais Disgyblion, a'r Sgwrs Fawr, sy'n galluogi pobl ifanc i godi materion sy'n bwysig iddynt hwy. Abertawe oedd Cyngor cyntaf y DU i fabwysiadu ac i ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn ffurfiol, ac mae Erthygl 12 - yr hawl i gael eich clywed - yn parhau i fod wrth wraidd ein dull o ymgysylltu â phobl ifanc.

Yn ogystal, rydym yn ymgorffori'r broses o gydgynhyrchu ar draws y sefydliad. Mae gennym Bolisi Cydgynhyrchu corfforaethol a Rhwydwaith Cydgynhyrchu gweithredol sy'n cefnogi gwasanaethau i weithio mewn partneriaeth wirioneddol â dinasyddion. Mae hyn yn adlewyrchu ein cred mai'r bobl sy'n defnyddio gwasanaethau yw'r rhai sydd yn y sefyllfa orau i'w llunio.

  • Cynnwys pobl yn ein Hamcanion Llesiant​​​​​​​

Casglodd ymgynghoriad cyhoeddus ynglŷn â Chynllun Corfforaethol gwreiddiol Cyngor Abertawe ar gyfer 2023-2028 safbwyntiau am yr Amcanion Llesiant arfaethedig a pha gamau i'w cymryd i'w cyflawni. Roedd yn rhan o'n dull gweithio parhaus o ymgysylltu â phreswylwyr, partneriaid a rhanddeiliaid ynghylch blaenoriaethau'r Cyngor.

Llwyddodd gwaith ymgysylltu wedi'i dargedu a gynhaliwyd gan swyddogion arweiniol hefyd i'n helpu i lunio pob amcan, gyda chymorth y mewnbwn a gafwyd o ymgynghoriadau ar lefel y gwasanaeth, rhwydweithiau cydraddoldeb, ac ymgysylltu thematig ar faterion fel newid yn yr hinsawdd, teithio llesol, ac addysg. Ychwanegodd y dull hwn at ein dealltwriaeth flaenorol, a oedd yn cyd-fynd â'r ymgynghoriadau ehangach a gynhaliwyd ar y pryd, gan sicrhau bod y Cynllun yn ystyried ystod eang o safbwyntiau a blaenoriaethau.

Dangosodd yr ymgynghoriad bod cefnogaeth gref i Amcanion Lles drafft y Cyngor, gyda rhwng 75% a 93% o'r ymatebwyr yn cytuno â phob blaenoriaeth. Roedd y lefelau uchaf o gefnogaeth i Addysg a Sgiliau (93%), Diogelu (88%), a Threchu Tlodi a Galluogi Cymunedau (90%). Roedd pawb yn cytuno'n gryf yn yr un modd â'r camau arfaethedig i gyflawni pob amcan.

Ers ymgynghoriad 2023, mae'r Cyngor wedi parhau i gynnwys preswylwyr, defnyddwyr gwasanaeth a rhanddeiliaid yn y broses o lunio ei flaenoriaethau drwy ystod o weithgareddau ymgysylltu. Mae'r rhain yn cefnogi datblygiad parhaus ac adolygiad blynyddol y Cynllun Corfforaethol a'r Amcanion Llesiant, drwy gasglu llawer o adborth ar ffurf:

  • Arolygon preswylwyr ac ymgynghoriadau ynglŷn â'r gyllideb, sy'n amlygu cefnogaeth gyhoeddus gref yn gyson i fuddsoddi mewn meysydd allweddol fel addysg, gofal cymdeithasol, trechu tlodi, a diogelu'r amgylchedd.
  • Ymgynghoriadau thematig ar faterion fel newid yn yr hinsawdd, teithio llesol, a seilwaith gwyrdd, sy'n llunio'r camau sy'n cael eu cymryd i gyflawni'r Amcanion Llesiant yn uniongyrchol.
  • Ymgysylltu drwy fforymau cydraddoldeb a hawliau dynol, gan gynnwys gweithio i gefnogi'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol a chryfhau'r broses o lunio polisïau cynhwysol.
  • Cynnal sgwrs barhaus ag undebau llafur a chynrychiolwyr y gweithlu, gan ystyried dyletswyddau'r Cyngor o dan Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023.

Roedd y gweithgareddau ymgysylltu amrywiol hyn yn rhan allweddol o lunio, cyflawni a sicrhau bod yr Amcanion Llesiant yn parhau i fod yn berthnasol, yn seiliedig ar dystiolaeth, ac yn cael eu cefnogi gan y bobl a'r cymunedau maent wedi'u cynllunio i fod o fudd iddynt. O ganlyniad, cafodd yr amcanion eu cadw a'u hailgadarnhau ar gyfer 2024-25 a 2025-26.

3. Cynnydd ers 2023

Ers lansio Cynllun Corfforaethol 2023-2028, mae'r Cyngor wedi gwneud cynnydd cyson a phwrpasol wrth gyflawni'r camau a nodir o dan bob un o'i Amcanion Llesiant. Creodd dull cyflawni 2023-24 sylfaen gadarn, gyda'r mwyafrif o'r camau gweithredu naill ai wedi'u cwblhau neu ar y trywydd cywir, a thros 70% o'r mesurau llwyddiant wedi'u cyflawni neu y rhagorwyd arnynt. Gwelir hyn yn Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2023-2024, sy'n darparu asesiad manwl o'r cynllun cyflawni ar draws yr holl amcanion.

Gwelwyd y trywydd cadarnhaol hwn ar hyd 2024-25. Erbyn diwedd y trydydd chwarter, roedd dros dri chwarter y camau a gynlluniwyd naill ai wedi'u cwblhau neu wrthi'n cael eu gweithredu fel a fwriadwyd. Mae hyn yn adlewyrchu cryfder ein trefniadau cynllunio a llywodraethu a'r ffocws parhaus ar gyflawni ar draws y sefydliad.

Rydym wedi gwneud cynnydd hynod gadarn mewn meysydd fel buddsoddi mewn addysg, adfywio economaidd, cymorth cynnar i deuluoedd, a chynaliadwyedd amgylcheddol. Caiff cynlluniau seilwaith mawr, gwelliannau i'r ddarpariaeth addysgu arbenigol, a mentrau newydd i hyrwyddo bioamrywiaeth a'r Gymraeg eu cyflawni'n gyflym. Mae'r gwaith ataliol drwy gymorth ar gyfer diogelu a chyflogadwyedd yn parhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i unigolion a chymunedau.

Fel y gellir disgwyl, ceir rhai heriau o hyd. Mae materion fel presenoldeb yn yr ysgol, adolygiadau gofal i oedolion, pwysau oherwydd prinder tai, a gwydnwch y gweithlu yn parhau i fod angen sylw manwl. Heriau cymhleth a hirdymor yw'r rhain a rennir ar draws y sector cyhoeddus. Ym mhob achos, mae camau gweithredu penodol ar y gweill, a chaiff y gwelliannau eu monitro'n agos.
Pan fo'r perfformiad wedi gostwng neu'r cynnydd wedi arafu, llwyddodd ein systemau perfformiad a rheoli risg i sicrhau ymateb prydlon. Llwyddodd bron bob un o'r camau cyflawni i gadw neu i wella ei statws rhwng chwarter dau a thri 2024-25, gan ddangos lefel uchel o ymwybyddiaeth sefydliadol a'r gallu i addasu.

Ar y cyfan, mae'r Cyngor yn parhau i fod ar y trywydd cywir i gyflawni'r Cynllun hwn. Mae ein blaenoriaethau yn parhau i fod yn berthnasol, ein hamcanion wedi'u hymgorffori mewn dulliau cyflawni o ddydd i ddydd, a'n fframwaith rheoli perfformiad yn parhau i gefnogi gwelliant parhaus. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid a chymunedau er mwyn ymateb i heriau, cadw'r momentwm, a sicrhau bod y camau rydym yn eu cymryd nawr yn arwain at ganlyniadau gwell i Abertawe yn y dyfodol.

Ein cynllun trawsnewid corfforaethol - cefnogi ein hamcanion llesiant

Mae Cynllun Trawsnewid Corfforaethol (CTC) 2023-28 yn rhan allweddol o gyflawni'r Cynllun Corfforaethol hwn. Mae'n uno tair rhaglen ar ddeg sy'n cefnogi ein Hamcanion Llesiant drwy ysgogi gwelliant, effeithlonrwydd a chynaliadwyedd hirdymor ar draws y gwasanaethau allweddol.

Mae'r rhaglenni hyn yn canolbwyntio ar feysydd fel addysg, gofal, tai, adfywio, ac arloesi digidol. Maent yn cyd-fynd â'n Hamcanion Llesiant ac yn adlewyrchu'r pum ffordd o weithio a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Mae'r CTC yn sicrhau bod y trawsnewid wedi'i ymgorffori yn y ffordd rydym yn gweithio, gan ganolbwyntio ar atal, cydweithredu, a chyflawni canlyniadau gwell. Trwy ddulliau llywodraethu cadarn a goruchwylio ar y cyd, mae'n ein helpu i ymateb i'r heriau presennol wrth greu dyfodol mwy cynaliadwy i Abertawe.

Ein cyllideb - sicrhau adnoddau ar gyfer ein hamcanion llesiant

Cyllideb refeniw net y Cyngor ar gyfer 2025-26 yw £640.8 miliwn, a daw'r rhan fwyaf o'r cyllid gan Lywodraeth Cymru, gyda'r gweddill yn cael ei godi'n lleol drwy'r Dreth Gyngor ac incwm gwasanaethau. Disgwylir i'r Dreth Gyngor gynhyrchu £165.3 miliwn eleni, yn dilyn cynnydd o 5.95%. Er ei fod yn swm sylweddol, nid yw hyn yn cwmpasu costau ein gwasanaethau cymdeithasol yn unig, gan amlygu'r angen am ddull cytbwys o ariannu, trawsnewid a chynilo.

Dengys ymgynghori cyhoeddus yn gyson fod preswylwyr yn blaenoriaethu addysg a gwasanaethau cymdeithasol, ac yn gwerthfawrogi gwasanaethau lleol hefyd fel glanhau strydoedd, priffyrdd a digwyddiadau cymunedol. Mae'r adborth hwn, ochr yn ochr â'n Hamcanion Llesiant ac ymrwymiadau'r Cynllun Corfforaethol, yn llywio sut rydym yn dyrannu adnoddau ac yn darparu gwerth am arian.

Mae cyllideb 2025-26 yn cynnwys:

•    £228.7 miliwn ar gyfer addysg, y maes gwariant mwyaf.
•    £196.1 miliwn ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, gan gefnogi pobl agored i niwed.
•    £98.5 miliwn ar gyfer gwasanaethau sy'n seiliedig ar leoedd, gan gynnwys gwastraff, seilwaith, a'r amgylchedd.

Er y cafwyd mwy o arian gan Lywodraeth Cymru, mae'n rhaid i'r Cyngor greu £18.5 miliwn o arbedion yn sgil chwyddiant uchel, pwysau cyflog a chynnydd yn y galw. Mae'r rhain yn canolbwyntio ar drawsnewid gwasanaethau, gwella effeithlonrwydd, a rheoli'r galw mewn modd mwy cynaliadwy.

Mae ein cyllideb yn cyd-fynd â'r blaenoriaethau a nodir yn y Cynllun Corfforaethol hwn. Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar ymyrraeth gynnar, cydweithio a chynllunio hirdymor i wneud y mwyaf o'n heffaith a sicrhau bod pob punt rydym yn ei gwario yn cyfrannu at les Abertawe a'i phobl.

4. Ein hamcanion lles

Nid yw'r un o'n chwe Amcan Llesiant wedi newid yn dilyn adolygiad 2025, gan gadarnhau eu bod yn parhau i fod yn berthnasol ac i gyd-fynd â'r nodau cenedlaethol. Mae'r adran hon yn nodi'r camau cyflawni, y mesurau llwyddiant a'r dangosyddion perfformiad allweddol sydd wedi'u diweddaru ar gyfer 2025-26. I gael y cyd-destun llawn i resymeg a chwmpas pob amcan, cyfeiriwch at y Cynllun Corfforaethol gwreiddiol (2023-28).

Diogelu pobl rhag niwed

Y camau y byddwn yn eu cymryd i gyflawni'r amcan lles hwn fydd:

  • Sicrhau bod diogelu yn fater i bawb - Mae diogelu ein pobl sydd fwyaf agored i niwed yn 'fater i bawb' ar draws y Cyngor, mewn ysgolion, gyda phartneriaid, a thrwy Fwrdd Diogelu Gorllewin Morgannwg a'i bartneriaethau, byddwn yn cynnal adolygiad o'r ddarpariaeth gofal a chymorth ar ôl y pandemig.
  • Gwasanaethau statudol o ansawdd uchel a gwydn - sicrhau bod y Gwasanaethau i Oedolion a Phlant ac i Deuluoedd yn gadarn, yn wydn ac yn effeithiol er mwyn cael y gofal a'r gefnogaeth gywir, i'r person cywir, ar yr adeg gywir. Rydym yn ymrwymo i fuddsoddi £750 miliwn mewn gwell gofal yn Abertawe, er mwyn dechrau gwerthuso'r opsiynau i gynyddu darpariaeth gofal uniongyrchol y cyngor.
  • Gwella canlyniadau i blant a phobl ifanc drwy hyrwyddo hawliau plant a phobl ifanc ym mhopeth a wnawn, drwy ein strategaeth i gefnogi plant a phobl ifanc i fyw'n ddiogel gartref gyda'u teuluoedd; drwy'r strategaeth rhianta corfforaethol i helpu pob plentyn sy'n derbyn gofal i gael bywyd gwell; byddwn yn ymdrechu i ddarparu cyfleusterau gofal plant newydd yn Abertawe; drwy ddatblygu cyfleuster gofal plant newydd sy'n cynnig lleoliadau lleol o ansawdd uchel, nid er elw, pan fydd eu hangen fwyaf.
  • Trawsnewid Gofal a Chymorth i oedolion agored i niwed - Cefnogi ein hoedolion mwyaf agored i niwed i gadw'n ddiogel a byw'n annibynnol gartref, drwy ail-greu'r mynediad at wasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol integredig. Byddwn yn pwyso a mesur y gwasanaethau rydym yn eu cynnig i ddarparu gwell cyfleoedd gofal dydd a gwasanaethau seibiant ar draws y ddinas; er mwyn canolbwyntio ar atal ac ailalluogi, a thrwy ymgysylltu â Iechyd er mwyn sicrhau bod y cynlluniau gofal yn cyd-fynd ag adferiad iechyd er mwyn gwella'r canlyniadau.
  • Cymorth i ofalwyr di-dâl, rhieni sy'n ofalwyr a gofalwyr ifanc - cydnabod cyfraniad hanfodol gofalwyr di-dâl, rhieni sy'n ofalwyr a gofalwyr ifanc drwy gyd-greu dulliau newydd o gael y cymorth cywir i gyflawni eu canlyniadau lles personol.
  • Creu gweithlu medrus, proffesiynol a chefnogi eu lles - drwy recriwtio'n ddiogel, a chadw gweithlu sy'n parhau i ddarparu gwasanaethau cymdeithasol o ansawdd uchel, drwy ymrwymo i dâl tecach i weithwyr gofal; drwy arweinyddiaeth gefnogol; sy'n canolbwyntio ar les y gweithlu, safonau ymarfer a datblygiad proffesiynol i gefnogi pob gweithiwr i fod y gorau y gall fod.
  • Gweithredu rhaglen waith partneriaeth ranbarthol Gorllewin Morgannwg, drwy weithio gyda phartneriaid i gyflawni model iechyd a gofal cymdeithasol integredig, cynaliadwy a charbon sero net.

Erbyn diwedd 2024-2025 bydd:

  • Diogelu yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r cyngor cyfan ac yn fater i bawb.
  • Mynediad gwell at wasanaeth cymorth cynnar, lles ac atal y Cyngor a gwell defnydd ohono, a lleihau'r galw am wasanaethau statudol.
  • Mwy o blant yn cael eu cefnogi i fyw'n ddiogel ac yn iach gyda theuluoedd ac mewn cymunedau lleol a phan fydd rhaid i blant dderbyn gofal - mwy i gael cymorth drwy wasanaethau mewnol y Cyngor.
  • Dinasyddion Abertawe ar drywydd esmwyth i gyflawni eu canlyniadau iechyd a lles personol.
  • Nodi pwy sy'n ofalwyr a'u cefnogi o ran eu lles personol.
  • Gweithlu medrus proffesiynol, cymwys sy'n cael digon o gymorth ar gael i gyflawni modelau gweithredu targedau y Gyfarwyddiaeth ar gyfer y gwasanaethau i blant ac oedolion.
  • Gwasanaethau iechyd a gofal wedi'u hintegreiddio'n well yn y gymuned yn cael eu darparu. 
  • Gwneir cynnydd i gyflawni'r rhaglenni Trawsnewid Gwasanaethau Oedolion a Thrawsnewid Plant a Theuluoedd, drwy ganolbwyntio ar atal, ymyrraeth gynnar, a chymorth amserol, gan arwain at well mynediad, llai o ymyriadau statudol, a gwell canlyniadau i bobl fregus.

Sut byddwn yn mesur cynnydd

  • Canran staff y cyngor a gwblhaodd hyfforddiant diogelu gorfodol.
  • Nifer y Plant / Pobl Ifanc sy'n Derbyn Cymorth gan y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ar ddiwedd y cyfnod.
  • Nifer y Plant / Pobl Ifanc sy'n derbyn cymorth gan Ganolfannau Cymorth Cynnar ar ddiwedd y cyfnod.
  • O gyfanswm nifer yr oedolion sy'n derbyn cymorth gan wasanaethau oedolion, y % sy'n derbyn cymorth drwy Gymorth Cynnar.
  • Cyfradd fesul 10000 o oedolion sydd â chynllun gofal a chymorth.
  • Cyfradd y plant sy'n derbyn gofal (LAC) fesul 10,000 o'r boblogaeth 0-17 oed yn Abertawe.
  • Nifer y plant sydd ar Gofrestr Amddiffyn Plant (CPR) yr Awdurdod Lleol ar ddiwedd y cyfnod.
  • Canran yr enwau cyswllt a dderbyniwyd lle gwnaed penderfyniad erbyn diwedd y diwrnod gwaith canlynol.
  • Canran yr ymweliadau â phlant sydd ar y CPR nad oeddent yn hwyr.
  • O gyfanswm nifer y plant a roddwyd mewn gofal preswyl, y ganran lle darparwyd gofal yn fewnol.
  • O gyfanswm nifer y plant a roddwyd mewn gofal maeth, y ganran lle darparwyd gofal yn fewnol.
  • Canran yr arosiadau ailalluogi preswyl lle cafodd yr angen am gefnogaeth ei liniaru neu ei leihau.
  • Canran y pecynnau gofal ailalluogi cymunedol lle cafodd yr angen am gefnogaeth ei liniaru neu ei leihau.
  • Cyfradd fesul 10,000 o oedolion sy'n derbyn gofal preswyl hirdymor.
  • Cynigiwyd asesiad i 90% o'r gofalwyr a nodwyd ar adeg asesu'r 'rhai sy'n derbyn gofal'.
  • Cynyddu canran y preswylwyr sy'n fodlon â darpariaeth gwasanaethau cymdeithasol y cyngor o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol (yn seiliedig ar ganlyniadau'r arolwg preswylwyr).
  • Canran y gyfradd o lefydd gwag mewn gwasanaethau plant.
  • Canran y gyfradd o lefydd gwag mewn gwasanaethau oedolion.
  • Nifer y gweithwyr cymdeithasol wedi'u cofrestru ag asiantaeth sydd â chontract gyda'r Gyfarwyddiaeth.
  • Canran yr arfarniadau a gwblhawyd yn y Gyfarwyddiaeth.
  • O gyfanswm nifer yr achosion o Oedi wrth Drosglwyddo Gofal (DTOC) a gofnodwyd, y ganran gyda'r cod rheswm 'yn aros am waith cymdeithasol ac yn aros i gwblhau'r asesiad gwaith cymdeithasol'.

Gwella addysg a sgiliau

Y camau y byddwn yn eu cymryd i gyflawni'r amcan lles hwn fydd:

  • Strategaeth Gynhwysiad - Byddwn yn cyflwyno'r strategaeth cynhwysiad er mwyn gwreiddio'r ddarpariaeth gyffredinol ar gyfer anghenion ychwanegol, lleoedd arbenigol ar gyfer anghenion ychwanegol ac ymagwedd ysgol gyfan at ymdrin ag iechyd emosiynol a lles seicolegol. Bydd y strategaeth yn hyrwyddo presenoldeb, cynhwysiad, cyfranogiad dysgwyr wrth wneud penderfyniadau ac yn lleihau bwlio ymhlith cyfoedion ac aflonyddu mewn ysgolion.
  • Strategaeth Sgiliau Gymraeg - Byddwn yn cyflwyno strategaeth sy'n ymgorffori'r Siarter Iaith ym mhob ysgol. Bydd y strategaeth yn sicrhau bod pob 19 ysgol yn cael ei chefnogi i ddatblygu sgiliau dysgwyr o fewn a thu allan i'r dosbarth. Rydym am i ddysgwyr siarad Cymraeg yn hyderus pan maent yn gadael yr ysgol.
  • Strategaeth Cymorth Arweinyddiaeth - - Byddwn yn cyflwyno strategaeth i gynnal a chefnogi arweinyddiaeth effeithiol, gan gynnwys llywodraethu, ar draws pob ysgol. Bydd y strategaeth yn hybu hunan-wella a chydweithio. Rydym am i'n harweinwyr ysgolion wella eu lles eu hunain er mwyn cefnogi ymarferwyr a dysgwyr yn dda.
  • Strategaeth Cymorth Addysgu - Byddwn yn cyflwyno strategaeth i gefnogi llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol i gynnal, adfer a chyflymu sgiliau dysgwyr. Bydd y strategaeth yn hybu rhagoriaeth ar draws pob ysgol. Rydym am i bob athro roi'r sgiliau allweddol i ddysgwyr i gael mynediad at bob maes dysgu.
  • Strategaeth Tegwch mewn Addysg - Byddwn yn cyflwyno strategaeth i ymgorffori arferion sydd wedi'u llywio gan drawma ar draws pob ysgol, camau gweithredu i leihau effaith tlodi ar ddysgwyr a chyflawni ein cyfrifoldebau fel rhieni corfforaethol. Rydym am i'n dysgwyr sy'n agored i niwed gael mynediad at gymorth mewn un lle drwy ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned.
  • Strategaeth Ysgolion Newydd a Gwell - Rydym am ddarparu isadeiledd addysgol effeithlon ac effeithiol i fodloni gofynion am leoedd ysgol, yn awr ac yn y dyfodol. Byddwn yn darparu ystâd ysgolion wedi'i thrawsnewid drwy ddefnyddio ein rhaglen adeiladu a chynnal a chadw ysgolion a hefyd yn ymateb i'r datblygiadau a nodir yn y cynllun datblygu lleol (CDLl) wrth sicrhau buddion cymunedol o gontractau. Rydym am leihau ein hôl troed carbon yn yr ystâd ysgolion a sicrhau bod asedau ar gael at ddefnydd y gymuned lle mae galw lleol yn bodoli.

Erbyn diwedd 2025-2026 byddwn wedi sicrhau bod:

  • Cynnydd yng nghynllun gweithredu'r Strategaeth Gynhwysiant.
  • Mwy o ymwybyddiaeth o'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws ysgolion Abertawe i ddylanwadu ar gynnydd yn y nifer sy'n mynychu lleoliadau Blynyddoedd Cynnar, Meithrin a Derbyn Cymraeg/dwyieithog.
  • Rhieni'n fwy ymwybodol bod darpariaeth cyfrwng Cymraeg i hwyrddyfodiaid yn y sector cynradd ac uwchradd ar gael yn Abertawe. 
  • Adroddiadau gwella ysgolion o ansawdd gwell.
  • Safonau dysgu ac addysgu gwell.
  • Monitro gwell ac ymyrryd yn gynnar.
  • Gwella'r cyfleoedd hyfforddi i lywodraethwyr er mwyn iddynt allu herio a chefnogi mewn ysgolion.
  • Y cydweithio ystyrlon rhwng ysgolion yn cael ei esbonio'n eglur, gan ganfod unrhyw fylchau a'r disgwyliadau o ran cyfrifoldeb ar y cyd i wella canlyniadau dysgwyr wedi eu nodi.
  • Gwell canlyniadau llythrennedd.
  • Gwell canlyniadau rhifedd.
  • Isafswm cynnig wedi'i sefydlu ar gyfer holl ddysgwyr Abertawe mewn addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy'n gysylltiedig â byd gwaith (CWRE).
  • Y broses o hawlio grant am wisg ysgol newydd ar waith.
  • Y polisi a'r pecyn cymorth Hawliau, Parch a Chyfrifoldeb ar waith i ysgolion eiriol dros ddull perthynol sy'n seiliedig ar drawma o fynd i'r afael ag ymddygiad mewn ysgolion.
  • Achosion busnes ar gyfer adeiladu ysgolion newydd a gwell wedi'u cymeradwyo.
  • Cyfleusterau addas i ddarparu prydau ysgol am ddim i bob disgybl yn yr ysgol gynradd, yn unol â chynnig Llywodraeth Cymru.
  • Cymorth ar gael i arweinwyr ysgolion ac ymarferwyr gefnogi cynnydd dysgwyr.

Sut byddwn yn mesur cynnydd

  • Canran presenoldeb disgyblion yn yr Uned Cyfeirio Disgyblion (PRU).
  • Canran presenoldeb disgyblion mewn ysgolion arbennig.
  • Canran presenoldeb disgyblion mewn ysgolion cynradd.
  • Canran presenoldeb disgyblion mewn ysgolion uwchradd.
  • Nifer y disgyblion sy'n symud o'r PRU i addysg amser llawn.
  • Dysgwyr a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg yn Oedran Meithrin a Derbyn.
  • Nifer y lleoliadau cyfrwng Cymraeg/dwyieithog (Blynyddoedd Cynnar a Dechrau'n Deg).
  • Nifer yr ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg sy'n cynnig darpariaeth Blynyddoedd Cynnar.
  • Nifer yr ysgolion mewn categori Estyn.
  • Pobl ifanc y gwyddys eu bod yn NEET.
  • Nifer y disgyblion sy'n mynychu cyfarfodydd gyrfaoedd wyneb yn wyneb gyda Gyrfa Cymru.
  • Nifer y disgyblion sy'n mynychu sesiynau grŵp gyda Gyrfa Cymru.
  • Nifer y gweithgareddau gan gyflogwr mae ysgol yn rhan ohonynt, wedi'u trefnu drwy Gyrfa Cymru.
  • Nifer y disgyblion sy'n mynychu gweithgareddau gan gyflogwyr wedi'u trefnu gan Gyrfa Cymru.
  • Nifer yr ysgolion sy'n mabwysiadu'r polisi Hawliau, Parch a Chyfrifoldeb, sydd wedi'i deilwra i gyd-fynd â'u lleoliad hwy.
  • Canran yr ysgolion sydd â chyfleusterau cegin a ffreutur addas i ddarparu'r cynnig prydau ysgol am ddim cyffredinol.
  • Canran y myfyrwyr ôl-16 sy'n teimlo'n barod ar gyfer addysg bellach, cyflogaeth neu hyfforddiant.
  • Cynyddu canran y preswylwyr sy'n fodlon â darpariaeth addysg y cyngor o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol (yn seiliedig ar ganlyniadau'r arolwg preswylwyr).
  • Nifer yr ysgolion sy'n mabwysiadu'r polisi Hawliau, Parch a Chyfrifoldeb, sydd wedi'i deilwra i gyd-fynd â'u lleoliad hwy.

Trawsnewid ein heconomi a'n seilwaith

Y camau y byddwn yn eu cymryd i gyflawni'r amcan lles hwn fydd:

Trawsnewid ein heconomi drwy sicrhau cyfleoedd ariannu a pharhau i gydweithio â'n partneriaid a'n rhwydweithiau adfywio lleol i roi'r cynllun adfywio economaidd ar waith. Byddwn yn gwneud y mwyaf o'r buddion drwy greu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant ar gyfer y rheini sy'n ddi-waith yn y tymor hir ac yn anweithgar yn economaidd drwy gymalau buddion cymunedol mewn contractau. Bydd ffocws hefyd ar y canlynol -

  • Arwain y broses o weithredu Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol De-orllewin Cymru yn Abertawe a phecynnau gwaith a ffrydiau cyllido cysylltiedig megis Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU a ffynonellau Llywodraeth Cymru.
  • Parhau i gefnogi busnesau (sy'n dechrau ac sy'n bodoli'n barod) drwy ddarpariaeth Busnes Abertawe.
  • Helpu i greu miloedd o swyddi newydd i bobl Abertawe, gyda'r nod o ddarparu gwaith o ansawdd uchel a diogel.
  • Cyflwyno rhaglen ddigwyddiadau flynyddol ddeinamig sy'n tyfu dros y pum mlynedd nesaf ac sy'n cefnogi'r broses o adfywio'r ddinas a'r economi ymwelwyr - sy'n cynnwys atyniadau trochol, sioeau Arena, a digwyddiadau blaenllaw fel Sioe Awyr Genedlaethol Cymru - gan edrych ar gyfleoedd i fod yn gydnaws â'r targedau carbon sero net. (Mae'r cam hwn yn cyfuno'r tri cham canlynol o gynllun corfforaethol gwreiddiol 2023-28, gan ddileu'r elfennau sy'n gorgyffwrdd rhyngddynt: Cyflwyno rhaglen ddigwyddiadau bob blwyddyn am y pum mlynedd nesaf, sy'n ehangu ac yn tyfu yn unol â'r broses o adfywio'r ddinas a datblygu'r economi ymwelwyr; cyflwyno amrywiaeth o atyniadau trochol newydd a chyffrous, cyngherddau haf a chyfnod newydd o sioeau Arena; wedi eu cynnwys mewn rhaglen ddigwyddiadau fwy, sy'n tyfu'n barhaus (gan gynnwys y digwyddiad hanner Iron Man), a ddechreuodd gyda chefnogaeth y gymuned i ddigwyddiadau'r Jiwbilî Platinwm; a chadw Sioe Awyr Genedlaethol Cymru yn Abertawe, gan ddenu miloedd o ymwelwyr i'r Ddinas ar gyfer y digwyddiad blynyddol hwn ac ystyried sut y gall ei chyflwyno fod yn gydnaws â'r targedau carbon sero net.)
  • Dod o hyd i brif denantiaid newydd ar gyfer yr uned Debenhams yng Nghanolfan Siopa'r Cwadrant, er mwyn sicrhau bod yr uned hon yn cael ei defnyddio yn y dyfodol.
  • Parhau i weithio gyda phartneriaid i greu Rhwydwaith Creadigol cryf a gwydn i gefnogi'r gwead presennol, sydd yn dod i'r amlwg ac a fydd yn y dyfodol, o asedau diwylliannol a hamdden sydd wedi eu hymgorffori ar draws Canol y Ddinas, yr Ardal ac mewn canolfannau lleol.

Trawsnewid isadeiledd y ddinas a'r sir i gefnogi economi gref a chadarn drwy ganolbwyntio ar ddatblygiadau allweddol a gwella asedau allweddol, yn benodol:

  • Gweithio gyda'n partneriaid rhanbarthol, datblygu partneriaeth adfywio gwerth £1 biliwn a phartneriaeth strategol gwerth £750 miliwn gydag Urban Splash sef ein partner strategol newydd, gan ganolbwyntio i ddechrau ar Gam 2 y Bae Copr, safle'r Ganolfan Ddinesig a safle St Thomas.
  • Bwrw ymlaen i ddatblygu Theatr y Palace a Neuadd Albert er mwyn diogelu ein hadeiladau hanesyddol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol a dod o hyd i ateb arloesol er mwyn sicrhau dyfodol adeilad yr Elysium.
  • Gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu defnydd tymor byrrach ar gyfer adeiladau nes byddant yn cael eu hadfywio yn y tymor hwy.
  • Datblygu a hyrwyddo mwy i fyw yn y ddinas, gan gynnwys gwestai, siopau, swyddfeydd a chyfleusterau bwyd a diod newydd.
  • Parhau i weithio ar brosiect newydd Gerddi Sgwâr y Castell.
  • Parhau i weithio ar brosiect Hwb Cymunedol newydd canol y ddinas sy'n gartref newydd i'r Llyfrgell Ganolog.
  • Cwblhau'r gwaith o ddymchwel maes parcio aml-lawr Dewi Sant yn raddol.
  • Parhau i lenwi 71-72 y Kingsway ar ôl ei gwblhau, i greu canolfan arloesi i fusnesau newydd a hyd at chwe chant o swyddi newydd.
  • Parhau i ddatblygu a buddsoddi drwy atyniad Parc Skyline ar Fynydd Cilfái.
  • Parhau i ddatblygu ac ailagor coridor Afon Tawe, gan gynnwys pontynau newydd.
  • Ymrwymo i wella toiledau cyhoeddus.
  • Parhau â'r trafodaethau i gael acwariwm rhyngweithiol newydd.
  • Ymdrechu i barhau â'r trafodaethau i gael gwasanaeth fferi newydd sy'n cysylltu Cymru â De-orllewin Lloegr.
  • Ymrwymo i barhau â'r trafodaethau â phartneriaid i gael Pentref Gwyddorau Chwaraeon Rhyngwladol.
  • Darparu cartrefi mwy effeithlon o ran ynni a fforddiadwy drwy fuddsoddi mwy mewn tai cymdeithasol, cwblhau SATC1 a chynllunio ar gyfer SATC2, parhau i ddarparu'r rhaglen adeiladu Mwy o Gartrefi, a pharhau i ôl-osod mesurau sy'n canolbwyntio ar ynni mewn cartrefi cyngor, yn ogystal â sicrhau bod eiddo rhent preifat a Chartrefi mewn Amlfeddiannaeth yn ddiogel i denantiaid. (Mae'r cam hwn yn cyfuno'r pedwar cam canlynol o gynllun corfforaethol gwreiddiol 2023-28, gan ddileu'r gorgyffwrdd rhyngddynt: Darparu cartrefi mwy effeithlon o ran ynni a chartrefi mwy fforddiadwy, ynghyd â buddsoddi mwy mewn tai cymdeithasol; cwblhau Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) 1 a dechrau cynllunio ar gyfer SATC 2; symud ymlaen i gam nesaf adeiladu Mwy o Gartrefi, parhau â'r cynnydd mewn ôl-osod mwy o gartrefi cyngor; a sicrhau bod eiddo rhent preifat a Chartrefi mewn Amlfeddiannaeth yn ddiogel i denantiaid.)

Hyrwyddo a gwella economi leol amrywiol a chynaliadwy drwy sicrhau fframwaith polisi cadarn:

  • Bwrw ymlaen â'r Cynllun Datblygu Lleol Abertawe Newydd i ddarparu fframwaith cynllunio a chreu lleoedd cyfredol sy'n cynorthwyo â'r broses o wneud penderfyniadau ar gynigion datblygu.
  • Cytuno ar astudiaeth ddichonoldeb i nodi'r cyfleoedd datblygu ar gyfer Bae Abertawe.
  • Gweithredu TAN15 a chefnogi'r datblygiad priodol.

Buddsoddi yn ein cymunedau i ddarparu isadeiledd cymunedol da:

  • Hyrwyddo clybiau chwaraeon i ddefnyddio'r caeau chwaraeon lleol yn gynaliadwy a darparu caeau chwaraeon pob tywydd yn ogystal â sicrhau cyllid ar gyfer y rhaglen parciau ac ardaloedd chwarae newydd hyd at 2027-28.
  • Parhau i fuddsoddi mewn parciau a mannau chwarae.
  • Cyflwyno Wi-Fi cyhoeddus am ddim.
  • Parhau i osod cysgodfannau bysiau newydd, gan ddatblygu systemau gwybodaeth amser real a chydweithio â Thrafnidiaeth Cymru ar fasnachfreinio bysiau.
  • Parhau i osod biniau newydd.
  • Parhau â'r gwaith rhagweithiol i atal llifogydd a'r rhaglen Cynllun Ailwynebu ar raddfa fach (SRS).
  • Parhau i wella ffyrdd lleol.
  • Ymrwymo i ddarparu cyfleusterau parc sglefrio gwell yn Abertawe.
  • Sicrhau bod adnoddau pwrpasol ar gael i gael gwared â chwyn a sbwriel a gwneud mân waith ym mhob cymuned drwy dimau gweithredol y ward lleol.

Erbyn diwedd 2025-2026 byddwn wedi sicrhau bod:

  • Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU a Rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru yn cael eu cyflawni ar amser ac o fewn y gyllideb.
  • Y wefan Buddsoddwch yn Abertawe yn fyw; mae strategaeth a pholisi y CDLl yn cael eu datblygu.
  • Rhaglen ar gyfer Digwyddiadau mawr am ddim ac am dâl yn cael ei chyflwyno drwy gydol y flwyddyn.
  • Llwyddo i gyflawni a rhagori ar y targedau incwm ar gyfer pecynnau marchnata, baneri pontydd a ffrydiau refeniw o ffilmio.
  • Doc Tywysog Cymru - datblygwyd prydles a defnydd ar gyfer y dyfodol.
  • Wedi cael gafael ar arwyddion digidol / VMS.
  • Wedi cael strategaeth ddigwyddiadau.
  • Lansio gwefan newydd ar gyfer y Sioe Awyr a 10k Bae Abertawe, gan wella profiad y defnyddiwr, y traffig a'r cyfraddau trosi.
  • Mae Rhwydwaith Abertawe Greadigol yn parhau i dyfu.
  • Nifer o ddigwyddiadau rhwydweithio a datblygu proffesiynol wedi eu cynnal.
  • Twf mewn cyrhaeddiad ac ymgysylltiad ar y cyfryngau cymdeithasol.
  • Sefydlu partneriaethau newydd gyda mudiadau a sefydliadau allweddol.
  • Dechreuwyd ar y broses o weithredu'r Strategaeth Ddiwylliannol gyda phartneriaethau sefydledig.
  • Dechreuwyd ar y broses o Weithredu'r Strategaeth Celf Gyhoeddus yn SA1.
  • Crëwyd uwchgynllun ar gyfer St Thomas.
  • Lluniwyd Strategaeth Creu Lleoedd ar gyfer Canol y Ddinas.
  • Bydd Y Storfa yn agor yn 2025.
  • Mae Skyline ar y safle.
  • Mae dau bontŵn newydd wedi'u creu ar Goridor Afon Tawe.
  • Sefydlu Cwmni Menter ar y Cyd a phroses gaffael er mwyn gweithredu Parc Chwaraeon Bae Abertawe.
  • Cyflawni gofynion diogelwch adeiladau, gwella ymwybyddiaeth o ddiogelwch tân ac ymchwilio i'r holl gwynion am fasnachwyr twyllodrus.
  • Cyflwyno rhaglen gyfalaf ar gyfer tai sy'n sicrhau cydymffurfiaeth â phob maes critigol ac sy'n fforddiadwy i'r stoc dai.
  • Mae'r gwaith o uwchgynllunio / adfywio Ystad Tudno ac Emrys yn mynd rhagddo.
  • Cynyddu'r cyflenwad o gartrefi cyngor a chartrefi fforddiadwy newydd drwy'r strategaeth Mwy o Gartrefi a gweithio mewn partneriaeth.
  • Gwneud y mwyaf o ddarparu tai fforddiadwy drwy'r dyraniad llawn o Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru a'i wario'n llawn mewn partneriaeth â Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (LCC).
  • Llunio Strategaeth Tai Lleol newydd.
  • Dewiswyd cynigydd a ffefrir ar gyfer safle Bae Langland.
  • Cwblhau pob cynllun cyfalaf a drefnwyd ar gyfer parcio i'r anabl yn y ddinas o fewn y gyllideb.
  • Cwblhau Rhaglen Gwella Meysydd Chwarae 2025-26.
  • Lleihau llifogydd trwy lanhau draeniau ar raddfa fwy.
  • Cwblhau'r rhaglen gyfalaf i uwchraddio ffyrdd lleol.
  • Cyflwyno cynllun prosiect ar gyfer cyfleusterau chwaraeon sglefrio ac olwynion.
  • Cwblhau rhaglen Tîm Gweithredol y Ward ar gyfer Glanhau.
  • Mae'r Rhaglen Trawsnewid Mwy o Gartrefi yn cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy, yn cyflwyno'r rhaglen gyfalaf at y safonau y cytunwyd arnynt, ac yn datblygu cynlluniau strategol a phartneriaethau i ddiwallu anghenion tai lleol.
  • Mae'r Rhaglen Trawsnewid ac Adfywio yn cyflwyno'r prif brosiectau creu lleoedd, diwylliannol a seilwaith ar amser ac o fewn y gyllideb, gan gryfhau buddsoddiad, digwyddiadau a phartneriaethau creadigol ledled y ddinas a'r sir.

Sut byddwn yn mesur cynnydd

  • Canran y prosiectau a ariennir gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) a gwblhawyd ar amser ac o fewn y gyllideb.
  • Nifer y digwyddiadau cymunedol a chelfyddydol a gynhaliwyd yn y Storfa yn ystod y 6 mis cyntaf.
  • Cynyddu gwariant ymwelwyr ym Mae Abertawe, gyda'r targed yn seiliedig ar y ffigurau STEAM diweddaraf (£484 miliwn yn amodol ar newid, ac yn aros am ddata 2024).
  • O leiaf 75% o'r partneriaid presennol a 30 o bartneriaid newydd wedi ymuno â'r Rhwydwaith Creadigol cyn diwedd y flwyddyn.
  • Cynyddu canran y preswylwyr sy'n fodlon â darpariaeth hamdden, diwylliannol a thwristiaeth y cyngor o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol (yn seiliedig ar ganlyniadau'r arolwg preswylwyr).
  • Nifer y swyddi a ddarparwyd o fewn datblygiadau masnachol a gafodd eu creu neu eu hwyluso gan y Cyngor.
  • Cyfanswm arwynebedd y llawr masnachol (m²) a gafodd ei greu neu ei hwyluso gan Gyngor Abertawe.
  • Nifer y contractau a gychwynnwyd yn sgil cymal budd cymunedol y Tu Hwnt i Frics a Morter.
  • Nifer yr adeiladau masnachol a ddatblygwyd neu sydd wedi gwella.
  • Cynyddu canran y preswylwyr sy'n fodlon â darpariaeth datblygiad economaidd y cyngor o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol (yn seiliedig ar ganlyniadau'r arolwg preswylwyr).
  • Bydd 16 o unedau tai fforddiadwy ychwanegol yn cael eu darparu bob blwyddyn gan yr Awdurdod Lleol.
  • Darperir 176 o unedau tai fforddiadwy ychwanegol bob blwyddyn gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.
  • Darperir 24 o unedau tai fforddiadwy ychwanegol y flwyddyn drwy Gytundeb Adran 106/ffynonellau eraill.
  • Bydd cysgodfannau bysiau newydd ar draws 100% o'r rhwydwaith.
  • Cyflwr y prif ffyrdd (A).
  • Cyflwr ffyrdd nad ydynt yn brif ffyrdd / ffyrdd dosbarthiadol (B).
  • Cyflwr ffyrdd nad ydynt yn brif ffyrdd / ffyrdd dosbarthiadol (C).

Dangosyddion macro-economaidd (Er nad oes gan y Cyngor reolaeth uniongyrchol dros y dangosyddion blynyddol hyn a gafwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), fe'u cynhwysir i roi golwg ehangach ar iechyd economaidd y ddinas a'r sir. Mae monitro'r mesurau hyn yn helpu i lywio polisïau lleol, nodi tueddiadau, a deall y cyd-destun ehangach lle gwneir yr ymyriadau economaidd.):

  • Cyfradd gweithgarwch economaidd (poblogaeth oedran gweithio).
  • Incwm Gwario Gros Aelwydydd (GDHI) y pen yn Abertawe. 
  • Newid net yn nifer y busnesau gweithredol.
  • Canran y boblogaeth o oedran gweithio sy'n gymwys ar gyfer y Fframwaith Cymwysterau Rheoleiddiedig (RQF) Lefel 3 neu uwch.

Trechu tlodi a galluogi cymunedau

Y camau y byddwn yn eu cymryd i gyflawni'r amcan llesiant hwn yw:

  • Cyfeiriad strategol - Byddwn yn datblygu dulliau o weithio gyda phobl sydd â phrofiad bywyd o gyd-gynhyrchu a chyhoeddi ein gweledigaethau, canlyniadau a blaenoriaethau strategol cytûn i Drechu Tlodi a Galluogi Cymunedau.

  • Costau Byw - Byddwn yn lleihau lefelau tlodi ac yn lliniaru effeithiau byw mewn tlodi drwy gyflwyno grantiau'r llywodraeth, darparu cyngor ar hawliau lles a gweithredu cynlluniau wedi'u targedu gan gynnwys y fenter 'teithiau ar fysiau am ddim' a Lleoedd Llesol Abertawe.

  • Trechu ac atal digartrefedd - Byddwn yn gweithredu Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai i gefnogi pobl sy'n ddigartref neu mewn perygl o ddod yn ddigartref. Cartrefi effeithlon a fforddiadwy i helpu i leihau costau y teulu, yn ogystal â chynyddu'r.

  • Sicrhau bod mwy o gartrefi ar gael - Byddwn yn sicrhau bod mwy o ynni a thai cymdeithasol o ansawdd ar gael, er mwyn helpu mwy o bobl i gael mynediad at lety sy'n cyd-fynd â'u hanghenion.

  • Gwella ffyniant i bobl - Byddwn yn cyflwyno rhaglenni cyflogadwyedd, datblygu sgiliau a gwelliannau cymunedol i helpu pobl wella eu rhagolygon ar gyfer y dyfodol ac i wirfoddoli eu hamser er mwyn cyfrannu at eu cymunedau lleol.

  • Canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar - Byddwn yn cydweithio â chymunedau i'w cynorthwyo i gymryd mwy o ran yn y broses o atal dirywiad mewn anghenion unigolion ac yn integreiddio â phartneriaid / ffynonellau cymorth lleol i liniaru'r galw ar wasanaethau.

  • Grymuso cymunedau - Byddwn yn ymgorffori egwyddorion hawliau dynol yn ein holl waith gyda chymunedau, ac yn grymuso pobl leol i gymryd mwy o ran mewn cydgynhyrchu gwasanaethau, cydlyniant cymunedol a gwerth cymdeithasol.

  • Cadw cymunedau'n ddiogel - Byddwn yn mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol drwy fentrau wedi'u targedu ac yn cefnogi pobl sy'n agored i niwed neu mewn perygl drwy wella presenoldeb camau gorfodi a defnyddio digwyddiadau / technolegau i amddiffyn pobl leol ac eiddo.

  • Creu asedau cymunedol - Byddwn yn parhau i ddatblygu asedau pob cymuned ar draws Abertawe gan ddefnyddio dull sy'n seiliedig ar gryfderau i gynyddu mentrau gwydn o dan arweiniad y gymuned (fel mentrau cymdeithasol) ac yn sefydlu canolfannau cymunedol integredig ochr yn ochr â'n Cynllun Llyfrgelloedd Lleol.

  • Byddwn yn talu ac yn dyfarnu'r Gostyngiad mewn Budd-dal Tai a'r Dreth Gyngor yn amserol ac yn gywir gyda'r adnoddau sydd ar gael.

  • Byddwn yn gwneud penderfyniadau parthed yr hawl i Brydau Ysgol am ddim o fewn 7 diwrnod gwaith ar ôl derbyn cadarnhad o hawl y cwsmer.

Erbyn diwedd 2025-2026 byddwn wedi sicrhau bod:

  • Cyflawni'r rhwymedigaethau statudol mewn cysylltiad â digartrefedd, lleihau'r ddibyniaeth ar lety gwely a brecwast a rhoi cyngor a chymorth i bobl sydd angen tai.
  • Cyflwyno rhaglen gyfalaf ar gyfer tai sy'n sicrhau cydymffurfiaeth â phob maes critigol ac sy'n fforddiadwy i'r stoc dai.
  • Mae'r gwaith o uwchgynllunio / adfywio Ystad Tudno ac Emrys yn mynd rhagddo.
  • Cynyddu'r cyflenwad o gartrefi cyngor a chartrefi fforddiadwy newydd drwy'r strategaeth Mwy o Gartrefi a gweithio mewn partneriaeth.
  • Gwneud y mwyaf o ddarparu tai fforddiadwy drwy'r dyraniad llawn o Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru a'i wario'n llawn mewn partneriaeth â Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (LCC).
  • Llunio Strategaeth Tai Lleol newydd.
  • Cyflawni'r gwaith o adnewyddu ac uwchraddio'r blociau o fflatiau sydd ar ôl.
  • Cyflawni gofynion diogelwch adeiladau a gwella ymwybyddiaeth o ddiogelwch tân.
  • Llwyddodd y Gwasanaeth Tai i gefnogi preswylwyr i gadw eu contractau ac i greu cymunedau diogel, gwydn a chynaliadwy.
  • Cwblhawyd y broses o Drosglwyddo Asedau Cymunedol wedi'u cymeradwyo gan y Cabinet mewn safleoedd allweddol lle cafwyd datganiad o ddiddordeb.
  • Cymeradwyo a chyflawni'r Cynllun Llyfrgelloedd a'r Strategaeth Hwb Cymunedol.
  • Cynyddu canran y preswylwyr sy'n fodlon â darpariaeth tai y cyngor o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol (yn seiliedig ar ganlyniadau'r arolwg preswylwyr).
  • Mae'r Rhaglen Trawsnewid Hybiau Cymunedol yn cyflwyno datblygiadau i lyfrgelloedd a chanolfannau yn unol â'r strategaeth a gymeradwywyd, gan wella mynediad at wasanaethau a pharhau i drosglwyddo asedau allweddol.
  • Mae'r Rhaglen Trawsnewid i Alluogi Cymunedau yn cefnogi adfywiad lleol, trosglwyddo asedau, a chynnal tenantiaethau i greu cymunedau cryfach a mwy gwydn.
  • Mae'r Rhaglen Trawsnewid Digartrefedd yn bodloni'r dyletswyddau statudol yn ogystal â lleihau dibyniaeth ar lety dros dro drwy ymyrryd yn gynnar a rhoi cymorth tai cydgysylltiedig.

Sut byddwn yn mesur cynnydd

  • Canran yr aelwydydd y llwyddwyd i'w hatal rhag dod yn ddigartref.
  • Nifer y diwrnodau cyfartalog a dreuliodd pob teulu digartref sydd â phlant mewn llety Gwely a Brecwast.
  • Nifer yr unedau tai fforddiadwy ychwanegol a ddarperir bob blwyddyn gan yr Awdurdod Lleol
  • Nifer yr unedau tai fforddiadwy ychwanegol a ddarperir bob blwyddyn gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.
  • Nifer yr unedau tai fforddiadwy ychwanegol a ddarperir y flwyddyn drwy Gytundeb Adran 106/ffynonellau eraill.
  • Canran yr aelwydydd y llwyddwyd i'w hatal rhag dod yn ddigartref. 
  • Amser cyfartalog i brosesu hawliad newydd (Budd-dal Tai).
  • Amser cyfartalog i brosesu hysbysiad o newid mewn amgylchiadau (Budd-dal Tai).
  • Amser cyfartalog i brosesu hawliad newydd (y Dreth Gyngor).
  • Amser cyfartalog i brosesu hysbysiad o newid mewn amgylchiadau (Budd-dal Tai).
  • Canran y penderfyniadau a wneir mewn cysylltiad â hawl i Brydau Ysgol am ddim o fewn 7 diwrnod gwaith ar ôl derbyn cadarnhad o hawl y cwsmer.

Cyflawni ac adfer natur a newid yn yr hinsawdd

Y camau y byddwn yn eu cymryd i gyflawni'r amcan lles hwn fydd:

Cyngor Abertawe Sero Net erbyn 2030

  • Anelu at fod ag allyriadau carbon sero net erbyn 2030, o fewn y gyllideb sydd ar gael, gan ddilyn Cynllun Cyflawni Sero Net 2030 a gymeradwywyd gan Gyngor Abertawe.

  • Lleihau effaith y cyngor ar yr amgylchedd, drwy fonitro gan ddefnyddio proses gofnodi Llywodraeth Cymru ar y 6 chategori sefydliadol (h.y. adeiladau ac ynni, fflyd ac offer symudol arall, defnydd tir (gwrthbwyso), gwastraff - gweithredol, ffyrdd newydd o weithio, a'r gadwyn gyflenwi).

  • Parhau i osod llusernau LED yn lle goleuadau stryd.

  • Datblygu map plannu coed newydd ledled y sir sy'n ein galluogi i blannu miloedd o goed newydd.

  • Parhau i adolygu cerbydlu trafnidiaeth y cyngor er mwyn manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i ddefnyddio cerbydlu gwyrdd yn unol â'i strategaeth cerbydlu gwyrdd.

Abertawe Sero Net erbyn 2050

  • Cydgefnogi uchelgais ehangach Abertawe, gan weithio ochr yn ochr â llofnodwyr y Siarter Hinsawdd, BGC, dinasyddion, ysgolion, busnesau, grwpiau cymunedol a phartneriaid amgylcheddol i helpu i gyflawni uchelgais Llywodraeth Cymru o gael Cymru Sero Net erbyn 2050.
Cynhyrchu Trydan a GwresTrafnidiaethAdeiladau Preswyl
Diwydiant a BusnesAmaethyddiaethGwastraff ac Economi Gylchol
Addysg ac YmgysylltuCyfoethogi ein Hadnoddau NaturiolDefnydd Tir, Newid Defnydd Tir a Choedwigaeth
  • Datblygu Cynllun Addasu a Lliniaru Abertawe.
  • Cefnogi cyflwyno cam cyntaf y prosiect Morlyn Eden Las.
  • Bwrw ymlaen â datblygu fferm ynni solar sy'n cael ei gweithredu gan y cyngor ar safle Tir John y ddinas.
  • Anelu at wneud gwelliannau glasu mewn cymdogaethau.
  • Cefnogi a galluogi cynyddu ac argaeledd pwyntiau gwefru cerbydau trydan a datblygu strategaeth gwefru cerbydau trydan ehangach.
  • Parhau â'r trafodaethau i ddatblygu canolfan tanwydd hydrogen.
  • Darparu llwybrau Teithio Llesol gwell, sy'n datblygu'r amgylchedd adeiledig a naturiol ac yn annog mwy o weithgarwch corfforol.

Adfer Natur

  • Datblygu a monitro'r gwaith o gyflwyno'r Cynllun Bioamrywiaeth Corfforaethol Adran 6 a'r nod Cymru Gydnerth drwy ddulliau cynllunio busnes blynyddol a 38 dulliau adrodd hyd at 2028. Byddwn yn adrodd i Lywodraeth Cymru bob 3 blynedd yn unol â'n Dyletswydd Bioamrywiaeth.
  • Cyfrannu at adolygu, cyflwyno a monitro'r Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol a'r Strategaeth Isadeiledd Gwyrdd ledled y Sir.
  • Gweithio i wella cadernid ecosystem Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) sy'n eiddo i'r cyngor, Gwarchodfeydd Natur Lleol (GNLl), Safleoedd o Bwysigrwydd ar gyfer Cadwraeth Natur (SBCN) a mannau gwyrdd.
  • Gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o newid yn yr hinsawdd a'n hamgylchedd naturiol drwy ddarparu gwybodaeth, hyfforddiant a digwyddiadau.
  • Parhau i ddarparu rhaglen o blannu a rheoli blodau gwyllt a chymryd camau sy'n helpu i reoli rhywogaethau anfrodorol goresgynnol.
  • Ymgysylltu â chymunedau lleol i annog gwirfoddoli a'u cefnogi i weithredu er mwyn gwella a chynnal eu mannau gwyrdd a'u safleoedd bywyd gwyllt lleol.
  • Cymryd camau i gynnal a gwella ansawdd ein haer, ein dŵr a'n priddoedd.
  • Parhau i weithio gyda'r tîm Cadwraeth Natur mewn perthynas â gwaith ôl-weithredol i wella'r briffordd.

Erbyn diwedd 2025-2026 byddwn wedi sicrhau bod:

  • Gwneud cynnydd ar Gam 2 y rhaglen ôl-osod adeiladau cyhoeddus.
  • Cyflwyno adroddiad i Lywodraeth Cymru ar Allyriadau'r Cyngor ar gyfer 2024-25.
  • Creu map gyda chyfleoedd i blannu coed mewn fformat sy'n addas i'w ddefnyddio ar raddfa ehangach.
  • Dechrau rhoi ein Strategaeth Trawsnewid i ULEV 2021-2030 ar waith, gyda thros 125 o gerbydau ULEV a mannau gwefru fflyd.
  • Parhau â'r gyfres o fodiwlau e-hyfforddi mewn Newid yn yr Hinsawdd ac Adfer Natur.
  • Creu cysylltiadau cydweithio cryf gyda llofnodwyr y siarter hinsawdd ar agenda Abertawe 2050.
  • Sefydlu fframwaith partner amgylcheddol newydd.
  • Datblygu Cynllun Addasu a Lliniaru Abertawe gyda phartneriaid y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
  • Cytuno ar gynnydd y prosiect Eden Las gyda'n partner datblygu, a'n bod wedi ei gyhoeddi.
  • Cwblhau'r holl welliannau gwyrdd a gynlluniwyd ar gyfer y gymdogaeth a ariennir drwy grantiau erbyn diwedd y flwyddyn.
  • Datblygu polisi mannau gwefru EV rhanbarthol a chanllawiau arferion gorau.
  • Cytuno ar dir i greu lleoliad ar gyfer canolfan fysiau hydrogen.
  • Dechrau ar y broses gynigion i helpu ysgolion i ddatblygu cynlluniau teithio llesol.
  • Plannu 300 o goed newydd.
  • Llunio Cynllun Rheoli Tirwedd Genedlaethol Gŵyr drafft i ymgynghori arno.
  • Parhau i ddatgan Gwarchodfeydd Natur Lleol ychwanegol.
  • Parhau i wneud gwelliannau i Lwybr yr Arfordir.
  • Llunio Cynllun Gweithredu Cefn Gwlad diwygiedig drafft.
  • Llunio Strategaeth Seilwaith Gwyrdd ddrafft ledled y Sir.
  • Cwblhau parc cyhoeddus newydd yn SA1.
  • Cyhoeddi ein hadroddiad cynnydd diweddaraf ar fioamrywiaeth (ar gyfer 2022-2025) gyda Chynllun Gweithredu ar Fioamrywiaeth newydd wedi'i ddatblygu ar gyfer 2025-2028.
  • Darparu grant o £500,000 i'w wario ar brosiectau partneriaeth Gŵyr yn ogystal â Chyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur sy'n canolbwyntio ar adfer natur a newid yn yr hinsawdd.
  • Llunio adroddiad cynnydd blynyddol ar gyflawni camau strategol Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol y Bartneriaeth.
  • Dylunio a chyflwyno ystod o ddigwyddiadau ymgysylltu a chodi ymwybyddiaeth a chyfleoedd gwirfoddoli gan gynnwys Her Byd Natur y Ddinas ac Wythnos Natur Cymru.
  • Gwneud cynnydd ar y Rhaglen Sero Net drwy ymestyn y gwaith ôl-osod a darparu ULEV, partneriaethau cryfach, a chyhoeddi cynlluniau hinsawdd, bioamrywiaeth ac ymaddasu wedi'u diweddaru.
  • Sicrhau bod Rhaglen Strategaeth Gwastraff y Dyfodol yn gwella'r gwasanaeth, ailgylchu mwy, ac ymgysylltu â'r cyhoedd yn well gydag arferion gwastraff mwy cyson a chynaliadwy.

Sut byddwn yn mesur cynnydd

  • Plannu 300 o goed yn ystod y flwyddyn ar safle'r cyngor.
  • Y cynnydd yn nifer y lleoliadau cyngor sydd â ffynonellau ynni adnewyddadwy.
  • Nifer yr Aelodau a swyddogion a gwblhaodd Hyfforddiant mewn Newid yn yr Hinsawdd ac Adfer Natur.
  • Nifer y prosiectau a gyflwynwyd drwy'r Partneriaid Amgylcheddol. Fframwaith i gefnogi uchelgais Abertawe Sero Net 2050.
  • Canran y Gwastraff Trefol a gesglir gan awdurdodau lleol ac a baratoir i'w ailddefnyddio a/neu ei ailgylchu, gan gynnwys gwahanu biowastraff sy'n cael ei gompostio neu ei drin yn fiolegol mewn ffordd arall.
  • Cwblhau 50% o'r Strategaeth seilwaith gwyrdd ddrafft ledled y Sir.
  • Gwario 100% o'r cyllid grant ar fesurau i wella ecosystemau erbyn diwedd y flwyddyn.
  • Gwario 100% o'r cyllid grant i blannu blodau gwyllt ac ar fesurau i drin Rhywogaethau Estron Goresgynnol erbyn diwedd y flwyddyn.
  • Nifer y gwirfoddolwyr sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau adfer natur yn eu cymuned leol.

Trawsnewid a chadernid ariannol

Y camau y byddwn yn eu cymryd i gyflawni'r amcan llesiant hwn yw:

  • Cynaliadwyedd Ariannol: Byddwn yn cynnal Strategaeth Ariannol Tymor Canolig gynaliadwy sy'n sicrhau bod adnoddau refeniw a chyfalaf y cyngor yn cyd-fynd â bodloni amcanion lles y cyngor a chyflawni ein rhwymedigaethau statudol dros dymor y cynllun. Byddwn yn sicrhau bod arbedion angenrheidiol yn cael eu gwneud, a bod cyfleoedd masnachol yn cael eu cymryd, lle bo hynny'n briodol.
  • Trawsnewid ein busnes: Byddwn yn cyflwyno gweledigaeth a nodau trawsnewid y cyngor drwy ddatblygu a gweithredu cynllun trawsnewid corfforaethol, gan ymgorffori'r prosiectau a'r rhaglenni newid trawsnewidiol allweddol o bob rhan o'r cyngor.
  • Trawsnewid Digidol: Byddwn yn gweithredu strategaeth ddigidol y cyngor, gan ddefnyddio technoleg ddigidol i wella bywydau pobl, i alluogi mynediad digidol at wasanaethau 24 awr y dydd, ac i wella effeithlonrwydd gweithredol.
  • Datblygu'r Gweithlu: Byddwn yn gweithredu strategaeth gweithlu'r cyngor a thrwy hynny yn datblygu gweithlu brwdfrydig ac ymroddedig sy'n arloesol, yn cael ei gefnogi, yn fedrus ac yn canolbwyntio ar gwsmeriaid.
  • Datblygiad Sefydliadol: : Byddwn yn sicrhau bod model gweithio'r sefydliad yn adlewyrchu anghenion y boblogaeth a dull gweithio ystwyth y cyngor. Byddwn yn adolygu'r strwythur Uwch-reolwyr, y cyflog a'r graddio i sicrhau eu bod yn briodol ac yn cyd-fynd â chynllun cyflog a graddio ehangach y gweithlu. Byddwn yn datblygu offer i helpu gwasanaethau i roi newid ar waith, gan gynnwys hyfforddiant, arweiniad, a chefnogaeth.
  • Rheoli Perfformiad a Llywodraethu: Byddwn yn parhau i ymgorffori hunanasesiad yn nhrefniadau rheoli perfformiad y cyngor ac yn datblygu 43 diwylliant o berfformiad uchel, dysgu a gwelliant parhaus. Byddwn yn sicrhau bod y cynllun corfforaethol, y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a'r Cynllun Trawsnewid yn cyd-fynd ac yn cefnogi anghenion tymor hir y boblogaeth. Byddwn hefyd yn adolygu cyfansoddiad y cyngor, gan gynnwys sicrhau bod trefniadau dirprwyo priodol ar gyfer aelodau a swyddogion yn eu lle.
  • Caffael: Byddwn yn parhau i ddatblygu'r gadwyn gyflenwi caffael yn lleol, yn rhanbarthol ac yng Nghymru gyfan er mwyn sicrhau bod ein gweithgarwch caffael yn parhau i fod yn foesegol, yn ymgorffori dyheadau cyflog byw go iawn ar draws y gadwyn gyflenwi ac yn pwyso'n drymach fyth ar werth cymdeithasol caffael, yn unol â'r egwyddorion datblygu cynaliadwy.
  • Ystâd weithredol: Byddwn yn parhau i ad-drefnu ystad weithredol y cyngor i wneud y mwyaf o'i heffeithlonrwydd a lleihau ein hôl troed carbon.
  • Gweithio mewn Partneriaeth: Byddwn yn parhau i gydweithio â'n partneriaid rhanbarthol i ddatblygu ein hamcanion lles, yn benodol mewn perthynas â chynllunio datblygu strategol, cynllunio trafnidiaeth ranbarthol, hyrwyddo lles economaidd a chyflwyno strategaeth ynni ranbarthol (drwy'r Cyd-bwyllgor Corfforedig), iechyd a gofal cymdeithasol (drwy bartneriaeth Gorllewin Morgannwg) a gwella addysg (drwy Partneriaeth). Byddwn hefyd yn parhau i gydweithio gyda phartneriaid lleol i ddatblygu a gweithredu atebion i'r heriau sy'n wynebu ein poblogaeth ac yn symud ymlaen â'n Cynllun Llesiant 2040 (drwy'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus).
  • Rhyngweithio â'n poblogaeth: Byddwn yn parhau i sicrhau, lle bo'n briodol, ein bod yn ymgynghori, yn ymgysylltu, ac yn cynnwys ein poblogaeth yn y broses o ddylunio a chyflwyno ein polisïau a'n gwasanaethau pan fo hynny'n briodol, gan wella ein capasiti a'n gallu i gydgynhyrchu drwy dreialu prosiectau a dulliau peilot.
  • Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Hawliau Dynol: Byddwn yn parhau i ymgorffori cydraddoldeb, amrywiaeth, a hawliau dynol ym mhopeth rydyn ni'n ei wneud fel cyngor, gan ddefnyddio'r Gymraeg a phrofi ansawdd ein hasesiadau effaith integredig, a gweithio gyda phartneriaid i wneud Abertawe yn Ddinas Hawliau Dynol.

Erbyn diwedd 2025-2026 byddwn wedi sicrhau bod:

  • Cynllun Ariannol Tymor Canolig cytbwys a chyllideb y gellir ei chyflawni ar gyfer 2025-26 wedi'u sefydlu.
  • Y rhan fwyaf o'r arbedion arfaethedig ar gyfer 2025-26 fel y cytunwyd arnynt gan y Cyngor wedi'u cyflawni.
  • Dulliau rheoli perfformiad a hunanasesu cryfach ar gael i gynorthwyo'r Cyngor i fod yn fwy effeithiol, tryloyw a chynaliadwy.
  • Y Rhaglen Trawsnewid Digidol yn darparu gwell mynediad at wasanaethau, gan wneud pethau'n haws i breswylwyr ryngweithio â'r Cyngor mewn ffyrdd sy'n cyd-fynd â'u hanghenion.
  • Offer digidol newydd, gan gynnwys Cyfrif Abertawe, sy'n cefnogi gwasanaethau cyflymach, mwy dibynadwy a diogel, gan helpu i greu cymuned fwy cysylltiedig a hyderus yn ddigidol.
  • Y dechnoleg ddigidol yn galluogi pobl i weithio'n fwy effeithlon, i wneud penderfyniadau doethach, ac i ddefnyddio data yn well, gan gyfrannu at gostau darparu gwasanaethau is a mwy o wydnwch.
  • Fel rhan o'r Rhaglen Trawsnewid Digidol, buddsoddiad mewn seilwaith digidol, awtomeiddio a seiberddiogelwch i gefnogi trawsnewid sefydliadol ehangach ac i greu arbedion hirdymor.
  • Cyflawni Rhaglen y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol (OD) yn arwain at greu gweithlu mwy medrus, gwell hyblygrwydd sefydliadol, a gwell defnydd o dechnoleg i gefnogi gwasanaethau cynaliadwy.
  • Gweithwyr yn elwa ar strategaeth a chynllun eglur ar gyfer y gweithlu (2025-2028), ac yn cael mynediad at ddatblygu a chymorth sefydliadol.
  • Gweithwyr yn profi amgylchedd gwaith teg, cynhwysol a chefnogol, gyda llai o absenoldeb salwch hirdymor o ganlyniad i bolisi absenoldeb newydd a datblygu'r amcanion Hawliau Dynol a Chydraddoldeb Strategol.
  • Llwybr talent cynaliadwy wedi'i greu ar ffurf prentisiaethau, gyda mwy o brentisiaid yn symud i swyddi hirdymor gyda'r Cyngor.
  • Arweinyddiaeth sefydlog a pharhad y busnes yn cael eu cryfhau gan lwybrau talent mewnol sydd wedi'u paratoi'n dda, gan leihau'r ddibyniaeth ar recriwtio'n allanol.
  • Gwariant lleol wedi'i dargedu'n fwy penodol yn cefnogi busnesau a swyddi, gan greu data gwell a strategaeth newydd i gyd-fynd â'r ddeddfwriaeth gaffael ddiweddaraf.
  • Hawliau Dynol, cydraddoldeb ac amrywiaeth wedi'u hymgorffori ar draws polisïau a gwasanaethau'r Cyngor, gan arwain at greu gwelliannau mesuradwy mewn hygyrchedd, cynhwysiant a thegwch.
  • Lleihau allyriadau carbon o ystad weithredol y Cyngor yn unol â'r ymrwymiadau Sero Net.
  • Preswylwyr ledled Abertawe a'r rhanbarth ehangach yn elwa ar wasanaethau cyhoeddus sy'n fwy cysylltiedig, cynaliadwy ac o ansawdd uchel drwy gryfhau'r broses o weithio mewn partneriaeth.
  • Preswylwyr yn teimlo fod ganddynt fwy o lais, pŵer a rhan yn y broses o lunio polisïau a gwasanaethau sy'n effeithio ar eu bywydau.

Sut byddwn yn mesur cynnydd

  • Cynyddu canran y preswylwyr sy'n fodlon â'r ffordd yr ymdriniodd y cyngor â'u hymchwiliad diweddaraf o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol (arolwg preswylwyr).
  • 0% o achosion o dorri diogelwch data sy'n arwain at gyhoeddi hysbysiad cosb gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).
  • Cynnydd o 25% yn y nifer sydd â Chyfrif Abertawe erbyn diwedd y flwyddyn.
  • Cwblhau neu sicrhau bod 90% o gerrig milltir y rhaglen trawsnewid y gweithlu ar y trywydd iawn.
  • 10% yn fwy o weithwyr gyda mynediad at gyfleoedd dysgu a datblygu erbyn diwedd y flwyddyn o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
  • Cynnydd o 10% mewn ymatebion positif i'r arolwg ymgysylltu â staff o ran sgiliau, cymorth a lles.
  • Dim mwy na 10 shifft/diwrnod gwaith cyfwerth ag amser llawn fesul gweithiwr yn cael ei golli oherwydd absenoldeb salwch.
  • Gostyngiad o 25% mewn amser aros Iechyd Galwedigaethol ar gyfartaledd erbyn diwedd y flwyddyn.
  • Cynnydd o 20% yn nifer y prentisiaid ar draws y gweithlu erbyn diwedd y flwyddyn.
  • 50% o swyddi gwag critigol yn cael eu llenwi'n fewnol.
  • 90% o Ddangosyddion Perfformiad Allweddol (KPI) y Cynllun Corfforaethol yn cyrraedd neu'n rhagori ar eu targedau. 
  • 100% o gamau gweithredu 2025-26 Cynllun Gweithredu Asesu Perfformiad y Panel yn cael eu cwblhau ar amser. 
  • 100% o'r risgiau strategol yn cael eu cofnodi a'u hadolygu bob chwarter, a chamau lliniaru eglur yn cael eu pennu ar eu cyfer.
  • Y cynnydd yn nifer y lleoliadau cyngor sydd â ffynonellau ynni adnewyddadwy.
  • 90% o'r camau gweithredu yng Nghynllun Gweithredu'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (PSB) a gymeradwywyd ar gyfer 2025-26 wedi gweld cynnydd mesuradwy neu wedi'u cwblhau.
  • Mwy yn cymryd rhan yn yr Arolwg Preswylwyr Blynyddol, yr Ymgynghoriad ar y Gyllideb a'r Arolwg Staff a hynny o 10% o'i gymharu â 2024-25.
  • Canran y preswylwyr sy'n fodlon â'r ffordd mae cyngor Abertawe yn rhedeg pethau. 
  • Canran y preswylwyr sy'n ymddiried yn y cyngor.
  • Canran y camau gweithredu o fewn yr HRSEP a Strategaeth Hyrwyddo'r Gymraeg wedi'u cyflawni.
  • Bydd o leiaf 80% o staff y Cyngor sydd â thrwydded ORACLE Fusion wedi cwblhau'r hyfforddiant gorfodol diweddaraf mewn hawliau dynol a chydraddoldeb.
  • Canran y cwynion corfforaethol cam 1 a gwblhawyd mewn 10 diwrnod gwaith neu lai.
  • Canran yr anfonebau a'r dogfennau talu a dalwyd o fewn 30 diwrnod.
  • Nifer yr achosion o dorri diogelwch data a arweiniodd at gyhoeddi hysbysiad cosb ceryddu, gorfodi neu ariannol gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).
  • Cynyddu canran y preswylwyr sydd o'r farn bod y cyngor yn eu hysbysu am y gwasanaethau mae'n eu darparu o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol (yn seiliedig ar yr arolwg preswylwyr).

5. Monitro cyflawniad - parhau i adolygu perfformiad

Byddwn yn monitro'r broses gyflawni ac yn parhau i adolygu ein hamcanion llesiant fel a ganlyn:

Sut byddwn yn monitro cynnydd

  • Drwy gyflwyno adroddiadau monitro perfformiad chwarterol i'r Cabinet. Noder mai dangosyddion perfformiad allweddol dros dro yw'r rhai newydd sy'n destun adolygiad a datblygu data pellach cyn cadarnhau y byddant yn cael eu cynnwys a hynny er mwyn sicrhau cywirdeb a pherthnasedd.

Sut byddwn yn cofnodi cyflawniadau

  • Yn chwarterol ac yn flynyddol drwy'r Cabinet.
  • Adolygiad blynyddol o berfformiad.

Pryd a sut caiff y cynllun hwn ei ddiwygio

  • Adolygiad a diweddariad blynyddol.

Ble i gael gwybodaeth ychwanegol

Strategaethau, cynlluniau a pholisïau

Perfformiad ac ystadegau

Cyllid a chyllideb

Craffu

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Diogelu a cham-drin

Ysgolion a dysgu

Hawliau plant a phobl ifanc

Bargen Ddinesig Bae Abertawe

Cynlluniau a pholisïau adfywio a datblygu

Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg (Yn agor ffenestr newydd)

Partneriaeth (Ein Rhanbarth ar Waith (ERW) gynt) (Yn agor ffenestr newydd)

Strategaethau tlodi ac atal tlodi

Newid yn yr hinsawdd a natur

Cyfle i ddweud eich dweud

Cynllun Hawliau Dynol a Chydraddoldeb Strategol

Yr iaith Gymraeg

Cynllun Corfforaethol 2023/28 (diweddariad 2025/26) (Word)

Cynllun Corfforaethol 2023/28 (diweddariad 2025/26).

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 30 Mehefin 2025