Digwyddiadau a gweithgareddau - am ddim, cost isel a rhatach
Cymerwch gip ar sut y gallwch chi fwynhau gweithgareddau a digwyddiadau o amgylch Abertawe am ddim neu am gost isel.

Marchnad Nadolig Abertawe
24 Tachwedd - 20 Rhagfyr, Stryd Rhydychen.

Gyda'n Gilydd dros y Nadolig yn Neuadd Brangwyn
12.00pm - 3.00pm ddydd Mawrth 5 Rhagfyr. Yn lledaenu ychydig o hwyl yr ŵyl a chefnogaeth i bobl sy'n agored i niwed, sy'n teimlo'n unig neu sydd efallai'n ddigartref.

Digwyddiadau amgylcheddol
Cynhelir digwyddiadau am ddim ac am gost isel rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr o gwmpas Abertawe a phenrhyn Gŵyr.
Llyfrgelloedd
Mae ein llyfrgelloedd yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau, gan gynnwys mynediad at lyfrau ac adnoddau am ddim yn ogystal â channoedd o wasanaethau'r cyngor ar-lein.
Digwyddiadau'r llyfrgell
Digwyddiadau a gweithgareddau yn eich llyfrgell leol.
Oriel Gelf Glynn Vivian
Oriel leol yw Oriel Gelf Glynn Vivian Cyngor Abertawe sy'n ganolfan ragoriaeth ar gyfer y celfyddydau gweledol yn Abertawe. Bydd y ddolen hon yn mynd â chi i wefan allanol.
Amgueddfa Abertawe
Yr amgueddfa hynaf yng Nghymru lle gallwch ddarganfod hanes diwydiannol, morol a diwylliannol Abertawe. Bydd y ddolen hon yn mynd â chi i wefan allanol.
Canolfan Dylan Thomas
Mae Arddangosfa Dylan Thomas yn dathlu Dylan Thomas, bardd enwocaf Abertawe. Bydd y ddolen hon yn mynd â chi i wefan allanol.
Traethau
Mae gan Abertawe draethau gwych ar garreg ei drws.

A-Y o barciau, gwarchodfeydd natur a mannau awyr agored
Mwy o wybodaeth am barciau, gerddi a gwarchodfeydd natur o amgylch Abertawe.

Castell Ystumllwynarth
Darganfod Castell Ystumllwynarth
Prom Abertawe
Mwynhewch ddiwrnod mas gwych ar hyd Prom Abertawe.

Lleoedd Chwarae
Mae'r holl ardaloedd chwarae bellach ar agor i'r cyhoedd.

ParkLives
Mae ParkLives yn cynnig gweithgareddau difyr mewn parciau, gan annog pobl i wneud ffrindiau newydd a mwynhau mannau gwyrdd yn eu cymunedau lleol.

Us Girls a GemauStryd
Gwersylloedd a sesiynau Us Girls arobryn i ferched rhwng 8 a 14 oed.
Campfeydd awyr agored
Mae gennym 10 gorsaf ffitrwydd o gwmpas Llyn y Fendrod a llwybr ffitrwydd ar hyd Promenâd Abertawe gyda chyfarpar am ddim i bawb ei ddefnyddio.
Gweithgareddau heneiddio'n dda
Cyfleoedd i aros yn heini a chwrdd â phobl newydd yn Abertawe.
Gwasanaeth bysus am ddim
Mae'r cynnig bysus am ddim hynod boblogaidd yn y ddinas yn dychwelyd bob penwythnos yn y cyfnod cyn y Nadolig ac yna am 5 niwrnod ar ôl y Nadolig. Rhaid i bob taith ddechrau cyn 7.00pm.
Pasbort i Hamdden
Cynllun gostyngiadau gan Gyngor Abertawe i drigolion Abertawe sydd ar incwm isel yw Pasbort i Hamdden (PIH).
Hynt
Mae'r cerdyn Hynt yn gwneud mynediad i wasanaethau hamdden ac adloniant yn fwy hwylus i gwsmeriaid anabl.

Sioe Awyr Cymru 2024
6 - 7 Gorffennaf 2024