Ffocws ar Aelod o'r GGLl - Geraldine Williams
Swyddog Datblygu Twristiaeth yng Nghyngor Abertawe. Mae Geraldine wedi bod yn gweithio gyda Thîm Twristiaeth Cyngor Abertawe ers 20 mlynedd ac mae ganddi gyfoeth o brofiad mewn datblygiad twristiaeth, cymorth i fusnesau a rheoli cyrchfannau.

Mae wedi bod yn aelod gweithredol o'r GGLl ers dros 10 mlynedd, gan ddod â'i harbenigedd am dwristiaeth a'i brwdfrydedd i'r tîm.
Meddai, "Ein harfordir a'n cefn gwlad prydferth yw'r prif reswm pam y mae miliynau o ymwelwyr yn dewis mynd ar wyliau ym Mae Abertawe a'r hyn sy'n eu denu yn ôl flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae cynaliadwyedd wrth wraidd popeth yr ydym yn ei wneud ym maes twristiaeth, boed hynny er mwyn tynnu sylw at harddwch ein hardaloedd gwledig, hyrwyddo'r llwybrau cerdded a beicio gwych sydd ar gael, cadw ein traethau'n lân neu helpu busnesau i leihau eu hôl troed carbon - ac atgoffa pobl bob amser i fod yn gyfrifol wrth ymweld.
Mae cymaint o botensial yn ein hardaloedd gwledig ac maent wedi gweld buddsoddiad sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, boed hynny drwy'r Cynllun Datblygu Gwledig neu fentrau eraill gan Lywodraeth Cymru. Mae'n hanfodol datblygu cynnig o ansawdd uchel i ymwelwyr sydd y tu allan i'r ardaloedd poblogaidd traddodiadol er mwyn lledaenu natur dymhorol twristiaeth a gall y GGLl helpu i gyflawni hynny.
Un o'r prosiectau Partneriaeth Datblygu Gwledig ledled Cymru rwyf wedi mwynhau gweithio arno fwyaf yw'r Cynllun Grantiau Llety Gwledig pan oeddem yn gallu cefnogi gweithredwyr llety twristiaeth bach i wella ansawdd eu cynnig. Ni allwn danbrisio pwysigrwydd busnesau bach i'r economi ymwelwyr, sy'n werth dros £477m ac yn cynnal bron i 6,000 o swyddi yn ein hardal.
Byddwn i'n annog unrhyw un sydd â diddordeb mawr yn ein cymunedau gwledig a'r amgylchedd i gysylltu â'r Tîm Cynllun Datblygu Gwledig a darganfod sut y gallent wneud gwahaniaeth, boed hynny drwy gyflwyno prosiect neu ymuno â'r Grŵp Gweithredu Lleol."
Rhagor o wybodaeth am rôl aelodau GGLl a sut gallwch gymryd rhan: Rhaglen Datblygu Gwledig Abertawe