Toglo gwelededd dewislen symudol

Ffocws ar Gadeirydd y GGLl - Hamish Osborn

Mae Hamish Osborn wedi bod yn GGLI Abertawe ers 2016.

Hamish Osbourn - RDP LAG member.

Fel Arweinydd Tîm Amgylchedd Abertawe ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru, mae'n cyfrannu cyfoeth o arbenigedd proffesiynol am gadwraeth, sector yr amgylchedd a rheoli adnoddau naturiol i'r rôl. Gyda gwybodaeth ragorol am wardiau gwledig Abertawe, mae mewn sefyllfa dda i hwyluso gwaith aelodau'r GGLl.

Mae Hamish hefyd wedi gweithio ar brosiectau datblygu gwledig yn America Ladin, ac er eu bod yn wahanol iawn o ran lleoliad, mae cyffredinrwydd mawr rhwng gwaith datblygu cymunedol yma.

Dan ei stiwardiaeth, dyfarnwyd arian LEADER i 24 o brosiectau blaengar a oedd yn ceisio gwella cydnerthedd cymunedol, mwyafu'r economi leol a gwella lles cymunedau gwledig.

Dyma'r hyn sydd gan Hamish i'w ddweud am ei rôl:

Mae'n anrhydedd fy mod wedi bod yn Gadeirydd ers 2016.  Ynghyd â'r tîm o aelodau GGLl, sy'n cynnwys aelodau'r cyhoedd, y sector preifat a'r trydydd sector, rydym wedi cefnogi amrywiaeth eang o brosiectau blaengar ac rydym yn parhau i wneud hynny.

Arweinir ein gwaith gan y Strategaeth Datblygu Lleol (SDLl), fodd bynnag ers ei ddrafftio gyntaf yn 2014, rwy'n ymwybodol iawn o sut mae'r cyd-destun lleol a byd-eang wedi newid yn sylweddol. 

Rydyn ni i gyd yn gyfarwydd â bygythiad newid yn yr hinsawdd, ac yn cydnabod yr effaith rydyn ni'n ei chael ar yr ecosystem fyd-eang.  Os ydym yn cyfuno hyn ag ôl-effeithiau pandemig byd-eang, mae gwerth cymunedau cryf, bwydydd a gynhyrchwyd yn lleol, gwasanaethau gwledig a busnesau annibynnol cryf yn fwy amlwg nag erioed. 

Fel asiant allweddol ar gyfer newid, mae gan y rhaglen LEADER gyfle unigryw i ysgogi prosiectau a mentrau yn Abertawe wledig.  Fel GGLl byddwn yn parhau i wahodd a cheisio cyfleoedd i helpu i ddatblygu rhagor o brosiectau newydd a blaengar sy'n ein helpu i gyflawni'r weledigaeth sydd gennym ar gyfer yr ardal, sef creu cymunedau gwell, mwy ffyniannus, cynaliadwy a chadarn. 

Fy nod yw sicrhau y gall rheoli adnoddau naturiol gefnogi lles a ffyniant Abertawe wledig. Rwy'n ymdrechu i sicrhau bod unrhyw brosiectau neu ddatblygiadau a gefnogir gan PDG Abertawe yn croesawu dull cynaliadwy o reoli ein hadnoddau naturiol. 

Mae fy rôl yn y GGLl yn caniatáu i mi gyfuno:

  • fy arbenigedd proffesiynol o gadwraeth a sector yr amgylchedd a rheoli adnoddau naturiol
  • fy mhrofiad o reoli prosiectau, cynllunio strategol a rhoi prosiectau o raddfa fawr ar waith
  • fy ngwybodaeth am reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy a sut mae hyn yn cysylltu â lles cymunedol a ffyniant
  • fy nealltwriaeth o reoliad amgylcheddol, a chyngor ar sut y gall prosiectau/randdeiliaid gydymffurfio â gofynion statudol

Drwy weithio'n agos gydag aelodau eraill y GGLl, rwy'n elwa o gyfoeth o wybodaeth ac amrywiaeth eang o brofiadau sy'n galluogi'r tîm i gael effaith gadarnhaol ar dirwedd a phoblogaeth wledig Abertawe.

Rhagor o wybodaeth am rôl aelodau GGLl a sut gallwch gymryd rhan: Rhaglen Datblygu Gwledig Abertawe