Ffocws ar Aelod o'r GGLl - Rachael Aka
Ymunodd Rachael â GGLl Abertawe ar ôl gweld hysbyseb ar-lein yn chwilio am aelodau newydd.
Ym mis Awst 2020 ymunais â GGLl Abertawe, ar ôl gweld hysbyseb ar-lein yn chwilio am aelodau newydd. Penderfynais wneud cais gyda'r nod o gyfrannu at gynaladwyedd, bioamrywiaeth a chadernid y cymunedau gwledig yn Abertawe, yn enwedig yng Ngŵyr, lle rwy'n byw.
Flynyddoedd lawer yn ôl astudiais Reoli Adnoddau Gwledig yn y brifysgol ac roeddwn yn gyffrous i gael y cyfle i gymhwyso'r wybodaeth a'r angerdd hwn mewn cyd-destun gwaith. Cyn hynny roeddwn wedi treulio sawl blwyddyn yn buddsoddi yn fy nheulu cyn dychwelyd i'r gwaith o fewn y trydydd sector fel Cydlynydd Gwirfoddolwyr. Mae ymuno â'r bartneriaeth wedi bod yn brofiad heriol ar adegau lle bu'n rhaid i mi ddysgu llawer mewn amser byr, yn enwedig dod i adnabod peth o'r jargon a'r prosesau y mae'n rhaid i'r bartneriaeth fynd drwyddynt ond mae hefyd yn rhoi boddhad mawr i mi.
Mae cael cyfarfodydd rhithwir oherwydd cyfyngiadau COVID, wedi golygu ei bod wedi cymryd mwy o amser i mi ddod i adnabod pobl ond hefyd wedi bod yn fanteisiol iawn o ran fy ngalluogi i fod mewn cyfarfodydd ochr yn ochr â'm hymrwymiadau eraill. Wrth i'r cyfyngiadau lacio, cynyddodd y cyfleoedd i fynd ar ymweliadau safle a'r rhain sydd wedi bod fwyaf buddiol. Mae'r rhain wedi rhoi cyfle i mi ymgysylltu â phobl a phrosiectau ar lawr gwlad a gweld rhai o'r pethau gwych sy'n digwydd yn ein hardal.
Wrth i'm plant fynd yn hŷn rwyf am barhau i gynyddu fy ngwybodaeth, datblygu fy rhwydwaith a fi fy hun, a gwneud rhywbeth i gyfrannu'n gadarnhaol at y gymuned a'r amgylchedd rwy'n byw ynddynt. Mae fy amser ar y bartneriaeth wedi bod yn allweddol i'm helpu i gymryd camau a churo ar ddrysau, pethau doeddwn i ddim yn meddwl y gallwn eu gwneud. Mae bod ar y GGLl wedi rhoi dewrder i mi gymryd camau ymlaen yn fy ngyrfa, gan brofi nad yw byth yn rhy hwyr i fuddsoddi yn eich breuddwydion, buddsoddi ynoch chi'ch hun a llunio'ch dyfodol, a hyn oll wrth gefnogi'r gymuned a'r amgylchedd rydych chi'n byw ynddo!
Ni allaf ond annog y rheini a allai fod yn ystyried ymuno â RhDG Abertawe i gymryd cam! Os ydych yn barod ac yn awyddus i fuddsoddi'ch amser i gefnogi a datblygu cynaladwyedd, cadernid a bioamrywiaeth ein wardiau gwledig yn Abertawe, yna ewch amdani.
Rhagor o wybodaeth am rôl aelodau GGLl a sut gallwch gymryd rhan: Rhaglen Datblygu Gwledig Abertawe