Ffocws ar Aelod o'r GGLl - Bob Morgan
Bob Morgan yw ein haelod GGLl diweddaraf ac rydym yn falch o'i groesawu ef a'r arbenigedd sydd ganddo o'i waith yn y sector preifat a'i brofiad o fyw mewn cymuned wledig fach.

Rwy'n ymgynghorydd ariannol sydd wedi ymddeol, ac ar ôl i mi werthu fy musnes dechreuais weithio yn y sector gosod llety gwyliau oherwydd roeddwn i'n gwerthfawrogi'r ardal yr oeddem wedi symud iddi, ac yn gweld cyfle i greu darpariaeth dwristiaeth ym Mawr.
Gan fy mod i'n byw yng Nghraig-cefn-parc yng Nghwm Tawe, pentref sydd wedi colli ei swyddfa bost a'i ysgol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rwy'n ymwybodol iawn bod nifer o bentrefi Cymreig bach yn dioddef o ddiffyg gwasanaethau tebyg, ac rwy'n awyddus i chwarae rhan mewn sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed a'u bod yn cael eu cefnogi pan fyddant yn ceisio cyllid ar gyfer prosiectau a arweinir gan y gymuned.
Mae gwaith blaenorol y RhDG wedi dangos i mi bwysigrwydd gwerthfawrogi'r cyfleoedd sydd ar gael yn ein hardaloedd gwledig. Mae fy mlynyddoedd ym myd busnes wedi rhoi dealltwriaeth well i mi o ddefnyddio hunangymorth yn ogystal â gwneud y defnydd gorau o gyfleoedd eraill. Rwy'n gobeithio y bydd fy rôl fel aelod o'r GGLl yn fy ngalluogi i wella cadernid y cymunedau gwledig yn yr ardal rwy'n byw ynddi.
Mae Abertawe Wledig yn amrywiol ac rwy'n ymrwymedig i sicrhau bod y prosiectau a gefnogir gan y GGLl yn adlewyrchu'r amrywiaeth honno. Mae gen i ddiddordeb penodol mewn twristiaeth, ac rwy'n awyddus i annog prosiectau sy'n denu pobl i ardaloedd a chyfleoedd hamdden ar draws y sir gyfan.
Rhagor o wybodaeth am rôl aelodau GGLl a sut gallwch gymryd rhan: Rhaglen Datblygu Gwledig Abertawe