Gwneud cais am gyllid Rhaglen Datblygu Gwledig (RhDG)
Mae cyllid LEADER y RhDG wedi cefnogi amrywiaeth o brosiectau a arweinir gan y gymuned. Mae'r rhain wedi cynnwys cynlluniau amaethyddiaeth a gefnogir gan y gymuned, mentrau ynni adnewyddadwy ac astudiaethau dichonoldeb.
Os oes gennych syniad arloesol newydd am brosiect a all ychwanegu gwerth at gymunedau gwledig Abertawe, cysylltwch â'r tîm RhDG i drafod cymhwysedd.
Sylwer: Dim ond ceisiadau gan elusennau, grwpiau cymunedol cyfansoddedig, sefydliadau nid er elw a mentrau cymdeithasol y gall RhDG Abertawe eu cefnogi. Rhaid i'r holl brosiectau gael eu cynnal yn y wardiau cymwys:
- Wardiau RhDG cwbl gymwys:
- Mawr, Llangyfelach, Pontarddulais, Pen-clawdd, Fairwood, Llandeilo Ferwallt, Pennard a Gŵyr.
- Wardiau gwasanaeth a gefnogir yn rhannol:
- Clydach, Gorseinon a Thre-gŵyr.
Mae'n rhaid i'ch syniad am brosiect hefyd fynd i'r afael ag un o themâu cenedlaethol y RhDG sef:
- Ychwanegu gwerth at hunaniaeth leol ac adnoddau naturiol a diwylliannol
- Hwyluso datblygiad cyn-fasnachol, partneriaethau busnes a chadwyni cyflenwi byr
- Archwilio ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau lleol anstatudol
- Ynni adnewyddadwy ar lefel gymunedol
- Defnyddio technoleg ddigidol
Strategaeth Rhaglen Datblygu Gwledig LEADER 2014-2020 (PDF) [2MB]
Ceisiadau ariannu llwybr carlam (hyd at uchafswm o £10,000)
Mae'r cyfle ariannu ar gyfer ceisiadau llwybr carlam bellach wedi cau.