Toglo gwelededd dewislen symudol

Prosiectau'r Rhaglen Datblygu Gwledig (RhDG)

Rhagor o wybodaeth am brosiectau llwyddiannus sydd wedi derbyn cymorth drwy gyllid a chefnogaeth y RhDG.

I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o'r prosiectau, yna e-bostiwch ni yn rdpleader@abertawe.gov.uk.

Môr Hapus

Ym mis Medi 2022, derbyniodd Surfability UK £10,000 i ddatblygu'r prosiect Môr Hapus sy'n bwriadu cynyddu ymwybyddiaeth o systemau ecolegol arfordirol a'r effaith amgylcheddol rydym ni fel bodau dynol yn ei chael arnynt drwy ein prosesau a'n gweithredoedd.

Ardal natur ar gyfer dysgu yn yr awyr agored - Ysgol Gynradd Llandeilo Ferwallt

Ym mis Mawrth 2021 derbyniodd Ysgol Gynradd Llandeilo Ferwallt £4,955 gan Grŵp Gweithredu Lleol Partneriaeth Datblygu Gwledig Abertawe i ddatblygu ardal natur ar gyfer dysgu yn yr awyr agored, y gellid ei defnyddio bob dydd fel ardal astudio ar gyfer y plant.

Prosiect Bioamrywiaeth Mawr

Mae gwaith yn mynd rhagddo ar y prosiect i drawsnewid dwy ardal o laswelltir amwynder nad yw'n cael ei defnyddio mewn ffordd a fydd yn annog mwy o fioamrywiaeth a chydlyniant cymunedol.

Prosiect hanesion llafar y RhDG: 'Straeon a Thirwedd Newidiol, Safbwynt Ffermwr'

Nod y prosiect yw dogfennu treftadaeth a thraddodiadau ffermio a gwaith ar y tir yng Ngŵyr ac Abertawe Wledig fel nad yw'n gorffennol a'n cymunedau amaethyddol yn cael eu colli, ond yn cael eu deall a'u gwerthfawrogi gan genedlaethau'r dyfodol.

Newyddion gan un o'n prosiectau Grant Mawr - Gower Flax CIC

Canolfan ymchwil, tyfu ac addysg ar Fferm Hardingsdown, Llangynydd yw CIC Gower Flax, sydd wedi derbyn £50,000 o gyllid LEADER y PDG ym mis Awst 2021.

Tyfu Cymunedol drwy Arddio Coedwig

Menter gymdeithasol arobryn gyda hanes 15 mlynedd o gefnogi pobl i wneud newidiadau cadarnhaol yn eu bywydau drwy weithgareddau awyr agored ystyrlon yw Down to Earth.

Llwybr Pererindod Gŵyr - fis yn ddiweddarach

Ym mis Rhagfyr, dyfarnwyd cyllid gan y Rhaglen Datblygu Gwledig i Brosiect Llwybr Pererindod Gŵyr a'r ŵyl.

Y-Future Abertawe a COP26

Aeth Katy a Zubs, Cydlynwyr Ieuenctid Y-future Abertawe i COP26 gyda dau berson ifanc o Abertawe, gyda chymorth ariannol gan Raglen Datblygu Gwledig Abertawe.

Amaethyddiaeth a Gefnogir gan y Gymuned Big Meadow

Ym mis Mawrth 2020 derbyniodd prosiect Amaethyddiaeth a Gefnogir gan y Gymuned Big Meadow grant o £30,000 gan Gronfa LEADER y PDG. Wrth i'r prosiect ddod i ben, rydym yn tynnu sylw at yr effaith y mae'r prosiect wedi'i chael ar y gymuned wledig.

Prosiect Rheoli Bioamrywiaeth a Gwirfoddoli Cae Felin

Ar ôl derbyn £25,000 o gyllid gan y RhDG, dyma un o'n prosiectau mwyaf ac er y bydd yn dod i ben cyn bo hir, mae cynlluniau eisoes ar waith i barhau â'r gwaith gwych, a bwriedir datblygu'r safle'n gynllun blwch llysiau amaethyddiaeth â chymorth y gymuned hollol weithredol.

Hwb Cymunedol Rhosili yn gweithio'n galed i gysylltu cymuned wledig

Ar ôl derbyn dau grant gan PDG Abertawe, mae'r prosiect wedi mynd ymlaen i ddarparu llwyfan cyfathrebu rhyngweithiol a chynaliadwy 'siop dan yr unto' mewn cymuned wledig, sy'n canolbwyntio ar faterion lleol yn ogystal â materion perthnasol ehangach: iechyd, lles a'r amgylchedd.
Close Dewis iaith