Cyllid ar gyfer ardaloedd gwledig (Rhaglen Datblygu Gwledig)
Yn cefnogi busnesau, ffermwyr, cefn gwlad a chymunedau mewn ardaloedd gwledig ar draws Cymru ac yn cael ei hymestyn tan 2023.
Mae'r rhaglen yn rhan o Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (CAEDG), a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru. Gall y Rhaglen Datblygu Gwledig gefnogi Cymru wledig i:
- Cynyddu cynhyrchiant amrywiaeth ac effeithlonrwydd ffermio a busnesau coedwigaeth yng Nghymru i wella eu cystadleugarwch a'u gwydnwch a lleihau eu dibyniaeth ar gymorthdaliadau.
- Gwella amgylchedd Cymru, annog arferion rheoli tir cynaliadwy, rheolaeth gynaliadwy o'n hadnoddau naturiol a gweithredu dros yr hinsawdd yng Nghymru.
- Hybu twf economaidd cryf a chynaliadwy yng nghefn gwlad Cymru ac annog mwy o ddatblygiadau lleol wedi'u harwain gan gymunedau.
Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybodaeth gyfredol a chynhwysfawr am y Rhaglen Datblygu Gwledig a'i llinynnau gwaith amryw - Cymunedau Gwledig – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 (Llywodraeth Cymru)
Mae Rhwydwaith Gweldig Cymru yn siop-un-stop ar gyfer newyddion, digwyddiadau a gwybodaeth am ddatblygu gwledig. Mae o gymorth i bobl feithrin cysylltiadau â phobl, cymunedau, sefydliadau a busnesau eraill ar draws Cymru a'r tu hwnt.
Yn Abertawe mae'r PDG yn darparu'r rhaglen LEADER a arweinir gan y gymuned yn 8 ward cwbl gymwys Mawr, Llangyfelach, Pontarddulais, Pen-clawdd, Fairwood, Llandeilo Ferwallt, Pennard a Gŵyr; a chefnogir y rhaglen yn rhannol yn nhair ward gwasanaeth Clydach, Gorseinon a Thre-gŵyr.
