Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhaglen Datblygu Gwledig (RDG)

Cefnogodd fusnesau, ffermwyr, cefn gwlad a chymunedau mewn ardaloedd gwledig ar draws Cymru rhwng 2014 a 2023.

European agricultural fund for rural development and Welsh Gov logo.

Roedd y rhaglen yn rhan o Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (CAEDG), a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru. Bu'r Rhaglen Datblygu Gwledig yn cefnogi Cymru wledig i: 

  1. Cynyddu cynhyrchiant amrywiaeth ac effeithlonrwydd ffermio a busnesau coedwigaeth yng Nghymru i wella eu cystadleugarwch a'u gwydnwch a lleihau eu dibyniaeth ar gymorthdaliadau.
  2. Gwella amgylchedd Cymru, annog arferion rheoli tir cynaliadwy, rheolaeth gynaliadwy o'n hadnoddau naturiol a gweithredu dros yr hinsawdd yng Nghymru.
  3. Hybu twf economaidd cryf a chynaliadwy yng nghefn gwlad Cymru ac annog mwy o ddatblygiadau lleol wedi'u harwain gan gymunedau.

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybodaeth gyfredol a chynhwysfawr am y Rhaglen Datblygu Gwledig a'i llinynnau gwaith amryw - Cymunedau Gwledig – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 (Llywodraeth Cymru) (Yn agor ffenestr newydd)

Mae Rhwydwaith Gweldig Cymru (Yn agor ffenestr newydd) yn siop-un-stop ar gyfer newyddion, digwyddiadau a gwybodaeth am ddatblygu gwledig. Mae o gymorth i bobl feithrin cysylltiadau â phobl, cymunedau, sefydliadau a busnesau eraill ar draws Cymru a'r tu hwnt.

Yn Abertawe, cyflwynodd y RhDG y rhaglen LEADER, a arweinir gan y gymuned, yn 8 ward cwbl gymwys Mawr, Llangyfelach, Pontarddulais, Pen-clawdd, Fairwood, Llandeilo Ferwallt, Pennard a Gŵyr; a chefnogir y rhaglen yn rhannol yn nhair ward gwasanaeth Clydach, Gorseinon a Thre-gŵyr.

Rhaglen Datblygu Gwledig Abertawe

Er mwyn cefnogi rhoi'r RhDG ar waith yn ein wardiau gwledig, sefydlodd RhDG Abertawe grŵp gweithredu lleol (GGLl) sy'n cynnwys pobl o'r sectorau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector.

Cyflwynodd y GGLl ei Strategaeth Rhaglen Datblygu Gwledig LEADER 2014-2020 (PDF) [2MB] i Lywodraeth Cymru a bu'n llwyddiannus wrth sicrhau cyllid o raglen LEADER RhDG y mae bellach yn ei reoli.

Roedd Grŵp Gweithredu Lleol (GGLl) Partneriaeth Datblygu Gwledig Abertawe wedi adfywio'i ddogfen lywodraethu, sef y 'Strategaeth Gyflawni Leol' (SGL) i gynnwys ymagwedd newydd at y ffordd yr oedd gwaith yn cael ei gyflawni yn ein cymunedau gwledig. Ymgorfforodd y SGL egwyddorion 'Un Blaned' i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd drwy sicrhau bod cynaladwyedd a chadernid cymunedol yn elfennau hanfodol o'n gwaith.

Dyma oedd y tro cyntaf i Grŵp Gweithredu Lleol unrhyw awdurdod lleol ddefnyddio'r ymagwedd 'Un Blaned' yng Nghymru i ddylanwadu ar strategaeth a phenderfyniadau ynghylch grantiau. Roedd yn ffordd newydd o weithio ac o feddwl, a oedd yn mynnu i'r rheini a ddymunai bartneru â Phartneriaeth Datblygu Gwledig Abertawe weithio a meddwl yn yr un ffordd. Roedd yn cyd-fynd â'i chydnabyddiaeth o gyhoeddiad Cyngor Abertawe sef bod argyfwng hinsawdd a bod angen dybryd i bawb newid o'r ymagwedd 'busnes fel arfer' i ffordd o wneud pethau i ddiogelu bywydau cenedlaethau'r dyfodol.

Gweledigaeth PDG Abertawe oedd dyfodol 'Un Blaned' ar gyfer Abertawe wledig a oedd yn:

  • cynyddu cadernid a hunanddibyniaeth gymunedol trwy gynhyrchu mwy o'r hyn y mae'n ei ddefnyddio
  • gwneud hyn mewn ffordd a oedd yn llai niweidiol i iechyd pobl a'r amgylchedd
  • cefnogi adnoddau naturiol a bioamrywiaeth fwy toreithiog
  • annog rhoi terfyn ar wastraff diangen
  • creu rhagor o swyddi lleol ac ystyrlon
  • rhoi gwell amddiffyniad rhag unrhyw darfu posib ar yr amgylchedd, masnach a'r economi yng ngweddill y byd
  • lleihau ôl-troed ecolegol a charbon yr ardal

Dyma oedd y 3 nod strategol a gwmpaswyd yn yr SGL:

  1. Gwella lles a chydnerthedd ecosystemau trwy gynnal adnoddau naturiol a diwylliannol ac ychwanegu gwerth atynt
  2. Datblygu cludiant cynaliadwy a mentrau ynni sy'n lleihau allyriadau ac sy'n lliniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd
  3. Cryfhau hunangynhaliaeth yr economi leol a chefnogi cymunedau gweithredol, cydnerth a chysylltiedig

Prosiectau'r Rhaglen Datblygu Gwledig

39. Tyfu Cymunedol drwy Arddio Coedwig - grant ychwanegol (Word)

39. Tyfu Cymunedol drwy Arddio Coedwig - grant ychwanegol.

38. Rhaglen Hyfforddiant a Datblygiad Ar-lein Llysgenhadon Gŵyr - grant ychwanegol (Word)

38. Rhaglen Hyfforddiant a Datblygiad Ar-lein Llysgenhadon Gŵyr - grant ychwanegol.

37. Hwb Cymunedol Rhosili - grant ychwanegol (Word)

37. Hwb Cymunedol Rhosili - grant ychwanegol.

36. Lles Drwy Goedwriaeth - grant ychwanegol (Word)

36. Lles Drwy Goedwriaeth - grant ychwanegol.

35. FLOW - grant ychwanegol (Word)

35. FLOW - grant ychwanegol.

34. Lles Drwy Goedwriaeth (Word)

34. Lles Drwy Goedwriaeth.

33. Hwb Cymunedol Rhosili (Word)

33. Hwb Cymunedol Rhosili.

32. Môr Hapus (Word)

32. Môr Hapus.

31. Cynllun Chwarae Dewch i ni ddod ynghyd – Cymuned (Word)

31. Cynllun Chwarae Dewch i ni ddod ynghyd – Cymuned.

30. Astudiaeth Dichonoldeb Cymunedau Gwledig Gogledd Abertawe (Word)

30. Astudiaeth Dichonoldeb Cymunedau Gwledig Gogledd Abertawe.

29. Prosiect Rheoli Bioamrywiaeth (PRhB) a Gwirfoddoli Cae Felin (Word)

29. Prosiect Rheoli Bioamrywiaeth (PRhB) a Gwirfoddoli Cae Felin.

28. FLOW - Gwaith sy'n seiliedig ar Ganlyniadau a Ariannwyd gan LEADER Fairwood (Word)

28. FLOW - Gwaith sy'n seiliedig ar Ganlyniadau a Ariannwyd gan LEADER Fairwood.

27. Comisiwn y GGLl Straeon a Thirwedd Newidiol, Safbwynt Ffermwr (Word)

27. Comisiwn y GGLl Straeon a Thirwedd Newidiol, Safbwynt Ffermwr.

26. Prosiect Bioamrywiaeth Mawr (Word)

26. Prosiect Bioamrywiaeth Mawr.

25. Llwybr Pererindod Gŵyr a Gwyl (Word)

25. Llwybr Pererindod Gŵyr a Gwyl.

24. Astudiaeth Dichonoldeb - Mapio cynnyrch lleol a byrhau cadwyni cyflenwi yn Abertawe wledig (Word)

24. Astudiaeth Dichonoldeb - Mapio cynnyrch lleol a byrhau cadwyni cyflenwi yn Abertawe wledig.

23. Y Dyfodol yn Abertawe (Youth Solutions Abertawe Wledig gynt) (Word)

23. Y Dyfodol yn Abertawe (Youth Solutions Abertawe Wledig gynt).

22. Gower Flax - Technegau / Datblygiad Ffibrau a Lliwiau Naturiol (Word)

22. Gower Flax - Technegau / Datblygiad Ffibrau a Lliwiau Naturiol.

21. Gardd Gwenynen (Word)

21. Gardd Gwenynen.

20. Rhaglen Hyfforddiant a Datblygiad Ar-lein Llysgenhadon Gŵyr (Word)

20. Rhaglen Hyfforddiant a Datblygiad Ar-lein Llysgenhadon Gŵyr.

19. Tyfu Cymunedol drwy Arddio Coedwig (Word)

19. Tyfu Cymunedol drwy Arddio Coedwig.

18. Ardal Natur ar gyfer Dysgu Awyr Agored (Word)

18. Ardal Natur ar gyfer Dysgu Awyr Agored.

17. Amaethyddiaeth â Chymorth y Gymuned (CSA) Big Meadow (Word)

17. Amaethyddiaeth â Chymorth y Gymuned (CSA) Big Meadow.

16. Llwybrau beicio oddi ar y ffordd Gŵyr (Word)

16. Llwybrau beicio oddi ar y ffordd Gŵyr.

15. Astudiaeth Dichonoldeb / Cynllun Busnes Amlinellol ar gyfer Hwb Cymunedol ar Gae Chwarae Pennard (Word)

15. Astudiaeth Dichonoldeb / Cynllun Busnes Amlinellol ar gyfer Hwb Cymunedol ar Gae Chwarae Pennard.

14. Marchnad yn y Felin (Word)

14. Marchnad yn y Felin.

13. Canolfannau Gweithgareddau Gŵyr - Creu Cynaladwyedd (Word)

13. Canolfannau Gweithgareddau Gŵyr - Creu Cynaladwyedd.

12. Astudiaeth Dichonoldeb Blaendraeth Porth Einon (Word)

12. Astudiaeth Dichonoldeb Blaendraeth Porth Einon.

11. Astudiaeth Dichonoldeb i archwilio'r potensial am Brosiect Lliniaru Allyriadau Carbon Cymunedol (Word)

11. Astudiaeth Dichonoldeb i archwilio'r potensial am Brosiect Lliniaru Allyriadau Carbon Cymunedol.

10. Adnoddau Abertawe Wledig / Astudiaeth Dichonoldeb o Ganolfan Ymwelwyr (Word)

10. Adnoddau Abertawe Wledig / Astudiaeth Dichonoldeb o Ganolfan Ymwelwyr.

9. Cae Tan ACG (Amaethyddiaeth Chymorth y Gumuned) (Word)

9. Cae Tan ACG (Amaethyddiaeth Chymorth y Gumuned).

8. Rhwydwaith Cludiant Cynaliadwy ar gyfer Astudiaeth Dichonoldeb Abertawe Wledig (Word)

8. Rhwydwaith Cludiant Cynaliadwy ar gyfer Astudiaeth Dichonoldeb Abertawe Wledig.

7. Marchnata Digidol ar gyfer Trafnidiaeth Gynaliadwy yn Abertawe Wledig (Word)

7. Marchnata Digidol ar gyfer Trafnidiaeth Gynaliadwy yn Abertawe Wledig.

6. Llais Cymunedol Gwledig Abertawe (Word)

6. Llais Cymunedol Gwledig Abertawe.

5. Cyfleuster Addysg Ty Crwn yr Oes Haearn (Word)

5. Cyfleuster Addysg Ty Crwn yr Oes Haearn.

4. Cynllun Peilot ac Astudiaeth Dichonoldeb Llysgennad Twristiaeth Cymunedol Gŵyr (Word)

4. Cynllun Peilot ac Astudiaeth Dichonoldeb Llysgennad Twristiaeth Cymunedol Gŵyr.

3. Gower Explorer y Sul 2017-19 (Word)

3. Gower Explorer y Sul 2017-19.

2. Solar Cymunedol Killan (Word)

2. Solar Cymunedol Killan.

1. Gower Explorer y Sul 2016 (Word)

1. Gower Explorer y Sul 2016.

LEADER: Astudiaeth Dichonoldeb Cymunedau Gwledig Gogledd Abertawe – Neuadd Les Felindre a Chaeau Cyfagos (PDF)

LEADER: Astudiaeth Dichonoldeb Cymunedau Gwledig Gogledd Abertawe – Neuadd Les Felindre a Chaeau Cyfagos.

LEADER: Astudiaeth Dichonoldeb Cymunedau Gwledig Gogledd Abertawe – Prosiect Graig y Coed (PDF)

LEADER: Astudiaeth Dichonoldeb Cymunedau Gwledig Gogledd Abertawe – Prosiect Graig y Coed.

LEADER: Astudiaeth Dichonoldeb Cymunedau Gwledig Gogledd Abertawe – Llangyfelach (PDF)

LEADER: Astudiaeth Dichonoldeb Cymunedau Gwledig Gogledd Abertawe – Llangyfelach.

LEADER: Astudiaeth Dichonoldeb Cymunedau Gwledig Gogledd Abertawe – Prosiect Canolfan Treftadaeth Pontarddulais (PDF)

LEADER: Astudiaeth Dichonoldeb Cymunedau Gwledig Gogledd Abertawe – Prosiect Canolfan Treftadaeth Pontarddulais.

LEADER: Gweledigaeth a Rennir ar gyfer Tir Comin (EFNCP) - Adroddiad Terfynol (PDF)

LEADER: Gweledigaeth a Rennir ar gyfer Tir Comin (EFNCP) - Adroddiad Terfynol.

LEADER Cyf 29: Astudiaeth Dichonoldeb Hwb Cymunedol Pennard – Astudiaeth Dichonoldeb (PDF)

LEADER Cyf 29: Astudiaeth Dichonoldeb Hwb Cymunedol Pennard – Astudiaeth Dichonoldeb.

LEADER Cyf 24: Astudiaeth Dichonoldeb Blaendraeth Porth Einon – Crynodeb Gweithredol o Grynodeb Dichonoldeb (PDF)

LEADER Cyf 24: Astudiaeth Dichonoldeb Blaendraeth Porth Einon – Crynodeb Gweithredol o Grynodeb Dichonoldeb.

LEADER Cyf 23: Canolfannau Gweithgareddau Gŵyr: Creu Cynaladwyedd – Crynodeb Gweithredol o Adroddiad Terfynol Awst 2019 (PDF)

LEADER Cyf 23: Canolfannau Gweithgareddau Gŵyr: Creu Cynaladwyedd – Crynodeb Gweithredol o Adroddiad Terfynol Awst 2019.

LEADER Cyf 21: Gwaith sy’n seiliedig ar ganlyniadau sydd wedi’i ariannu gan LEADER Fairwood – FLOW - Adroddiad Terfynol (PDF)

LEADER Cyf 21: Gwaith sy’n seiliedig ar ganlyniadau sydd wedi’i ariannu gan LEADER Fairwood – FLOW - Adroddiad Terfynol.

LEADER Cyf 20: Astudiaeth Ddichonoldeb Mapio Cynnyrch Lleol a Byrhau Cadwyni Cyflenwi (haf 2021) (PDF)

LEADER Cyf 20: Astudiaeth Ddichonoldeb Mapio Cynnyrch Lleol a Byrhau Cadwyni Cyflenwi (haf 2021).

LEADER Cyf 16: Astudiaeth Dichonoldeb i Ymchwilio i Ddichonoldeb y Prosiect Gwrthbwyso Carbon Cymunedol – Astudiaeth Dichonoldeb (PDF)

LEADER Cyf 16: Astudiaeth Dichonoldeb i Ymchwilio i Ddichonoldeb y Prosiect Gwrthbwyso Carbon Cymunedol – Astudiaeth Dichonoldeb.

LEADER Cyf 13: Rhwydwaith Cludiant Cynaliadwy ar gyfer Astudiaeth Dichonoldeb Abertawe Wledig – Astudiaeth Dichonoldeb (PDF)

LEADER Cyf 13: Rhwydwaith Cludiant Cynaliadwy ar gyfer Astudiaeth Dichonoldeb Abertawe Wledig – Astudiaeth Dichonoldeb.

LEADER Cyf 10: Hwb Cymunedol Rhosili – Astudiaeth Beilot Cymorth TG (gwanwyn 2022) (Word)

LEADER Cyf 10: Hwb Cymunedol Rhosili – Astudiaeth Beilot Cymorth TG (gwanwyn 2022).

LEADER Cyf 07: Adnodd Abertawe/Astudiaeth Dichonoldeb o Ganolfan Ymwelwyr (PDF)

LEADER Cyf 07: Adnodd Abertawe/Astudiaeth Dichonoldeb o Ganolfan Ymwelwyr.

LEADER Cyf 06: Cynllun Peilot ac A tudiaeth Dichonoldeb Llysgennad Twristiaeth Cymunedol Gŵyr – Astudiaeth Dichonoldeb (PDF)

LEADER Cyf 06: Cynllun Peilot ac A tudiaeth Dichonoldeb Llysgennad Twristiaeth Cymunedol Gŵyr – Astudiaeth Dichonoldeb.

LEADER Cyf 02: Cynnig am gyfran yn Fferm Gymunedol Killan (PDF)

LEADER Cyf 02: Cynnig am gyfran yn Fferm Gymunedol Killan.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 06 Awst 2024