Chwilio'r wefan
English

Tenis

Caiff tenis ei chwarae ar gwrt petryal gan naill ai dau chwaraewr (senglau) neu bedwar (dyblau). Mae'r chwaraewyr yn sefyll ar naill ochr y rhwyd ac yn defnyddio raced i daro pêl yn ôl ac ymlaen i'w gilydd.

Ble gallaf chwarae tennis yn Abertawe?

Yn eich canolfan hamdden a chwaraeon leol

Yn yr awyr agored yn eich parc lleol

Mae'r rhan fwyaf o'r cyrtiau tennis yn ein parciau yn rhai mynediad agored sydd am ddim. Galwch heibio a chwaraewch. Bydd angen i chi ddod â racedi a pheli tennis gyda chi. Awgrymir eich bod yn ffonio 01792 635411 i wirio a yw'r cyrtiau a'r rhwydi ar gael, cyn i chi fynd i chwarae.

Wedi'i bweru gan GOSS iCM